Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ANIBYNIAETH AC ANIBENDOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ANIBYNIAETH AC ANIBENDOD. Caed engraifft nodedig yr wythnos hon o gyflwr truenus y blaid R/ddfrydig yn Nhy'r C/ffredin. Yr osdd rhai o honom wedi dechreu credu fod y blaid wedi adfer ei sefyllfa unol erbyn hyn, ac wedi ang-frofio y man-ymraniadau fa yn ei blino aieg y rhyfel dtweddar ond y mie yn amlwg ei boi mor bydr yn awr ag ydoeid ar ddechreu yr anghydfod Bjeraidd. Y mae rhyw hunan- foddhad wedi mediianu pob aelod o'r blaid nes myned i gredu fod y frw/dr etholiadol nesaf wedi ei henili eisoes, ac nad oes angen am galedwaith yn ystod y tymor hwn, nac undeb, er ymosod ar y Llywodraeth yn ei holl gynllwynion peryglus ar lawr y Ty. Ymddengys y cyfan, i'r cyhoedd oddiallan, fel pe bae pob aelod ya gweithredru yn anibynol, er mwyn dwyn yr auibendod mwyaf i holl gynlluniau'r blaid. • • Ynglyn a Mesur y Trwyddedau y caed yr aflerwch presenol. Yr oedd Mr. Ellis J. Griffith i gynyg gwelliant penodol ynglyn ag amseriad y Mesur. Nid oeddynt oil yn cyduno a barn Mr. Griffith; ond yr oedd llawer o Doriaid yn barod i gefnogi'r un egwyddor ynglyn ag adran arbenig o'r Bil, ac addawent gefnogaeth y pryd hyny. Ond pan gynygiodd Mr. Griffith ei welliant, caed ar ddeall na chaniateid dadleu yr un eg- wyddor drachefn, a'r canlyniad oedd nas gallwyd sicrhau brwydr ddyddorol ar y Mesur o gwbl. Gallesid osgoi yr holl dra- fferth pe bae'r blaid yn gymhedrol unol, a gofal arbenig yn cael ei gymeryd ynglyn a. gosod polisi arbenig a phendant i'r blaid, drwy ymgynghoriad priodol. <t Y gwir yw, nad oes undeb boddhaus yn mysg aelodau blaenllaw y blaid ar hyn o bryd. Mae'r holl fyddin megis pe dan ad- drefniant. Ni wyddis i sicrwydd pwy fydd y prifweinidog, pe llwyddasai y Rhyddfryd- wyr i gael mwyafrif, a'r canlyniad naturiol yw nas rhoddir y teyrngarwch priodol i Syr H. Campbell-Bannerman, tra nad yw yntau yn rhyw awyddus iawn i gymeryd yr arwein- yddiaeth fel gwr o ddifrif. Y mae hyn ytt dra anffodus oherwydd y mae angen arbenig- y dyddiau hyn am arweinyddiaeth gadam, a chyn byth y llwyddir i enill yr etholiadau. dyfodol rhaid gofalu fod y cadau yn drefnus a phwnc dyrys yr arweinyddiaeth wedi ei benderfynu i foddionrwydd y blaid.

7yV Gleber.