Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y LLE I DREULIO GWYLIAU'R…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LLE I DREULIO GWYLIAU'R HAF. O'r braidd. y gellir edrych dros gyhoedd- iad Seisnig y dyddiau hyn nad yw'n cynwys cynghorion ac awgrymiadau parthed y lie goreu i dreulio gwyliau'r haf, ac, yn ddi- eithriad, mae'r ysgrifenwyr yn cymeradwjo Cymru. Y mae'r ysgrifau, gan awdwyr galluog ac o nod, yn organmoliaethus, ac y mae gan rai o honynt ddesgrifiadau byw o'r gwahanol olygfeydd rhamantus a mawr- eddog sydd i'w gweled yn ngwahanol ranau o Wyllt Walia. Dylai Cymru fod yn falch o'r cyhoeddusrwydd a roddir fel hyn iddi mewn cyhoeddiadau a llyfrau Seisnig y mae'n offerynol i ddwyn miloedd o ymwel- wyr yn ystod yr haf ac i beri i'r Saeson gymeryd mwy o ddyddordeb yn ein gwlad ac yn hanes ein cenedl. Ac nid wyf heb ofni y bydd y dosbarth canol yn Lloegr yn gwybod mwy am Gymru na'r Cymry eu hunain; y mae awdwyr ac arlunwyr Seisnig yn gwybod mwy yn barod na'r rhai Cym- reig, ac yn cael mwy o bleser a mwyniant oddiwrth ei golygfeydd ac adgyfnerthiad corph o'i hawelon pur ac iachus; ac, yn amr iawn, y maent yn gwneyd elw trwy hyny. Nid oes neb yn gwarafun eu ffawd yn hytrach, teimlir yn ddiolchgar iddynt, yn neillduol pan gofir fod holl ymdrochleoedd glanau y mor ) n fwy dyledus i'r Saeson nac i neb arall am eu datblygiad a'u cynaliaeth. Hwy sy'n cyfansoddi y mwyafrif mawr o'r ymwelwyr blynyddcl, ac y mae'n llawn bryd i'r un dosbartbiadau-ein pendefigion a'r dosbarth canol-yn Nghymru gymeryd yr un dyddorodeb a rhcddrr un gefnogaeth i ymdrocbleoedd ac ardaloedd mynyddig Cymru. Yn bresenol, ant with y miloedd i'r ymdrochleoedd ffasiynol Seisnig ac Uchel-diroedd yr Alban, tra y mae llanerch- au iachach eu hawyrgylch, purach eu dyfr- oedd, ac ardderchocach eu golygfeydd yn eu hymyl-o fewn taith ychydig oriau-a manau y gallant fyw ynddynt ar haner y draul. Nid arw>dcl o ddiffyg cenedlgarwch a gwladgarwch ydyw hyn, ond prawf amlwg o anwybodaeth a dichon fod rhan o'r bai -a rhan fawr hefyd-yn gorphwys wrth ddrws awdwyr Cymreig a chyhoeddwyr llyfrau. Anaml, os byth, y gwelir ysgrif, ond yn Cymru, ar un o olygfeydd rhamantus ac arlunol a mawreddog-ie, ofnadwy Cymru; ac y mae hwn yn dditfyg mawr yn ein llen- yddiaeth. Y mae ugeiniau o honynt i'w gweled ag y byddai'n talu cymeryd taith o fil o filldiroedd i'w gweled, ond er yn ein hymyl, sy'n cael eu hesgeuluso'n hollol, ac nid oes chwarter trigolion Cymru ei hunan yn gwybod fod y fath swynion megis am y clawdd a hwy. Dichon mai ein hagosrwydd atynt a'n bod wedi ein mhagu yn eu canol sy'n cyfrif am ein difaterwch o dlysni ein hafonydd a'n haberoedd a'n dyffrynoedd a'n cymoedd, o favsredigrwydd ein bryniau a'n mynyddoedd a'u golygfeydd ond, yn sicr, fe ddylai awdwyr a chyhoeddwyr wneyd mwy i ddod a Chymru i sylw y Cymry eu hunain. Nid oes cyfrol o law-lyfr erioed wedi ei chyhoeddi yn Gymraeg yn desgrifio,. trwy eiriau a darluniau, ei phrif ryfeddodau -aruthredd ei mynyddau a thlysni ei chym- oedd a'i manteision arbenig i rai wedi blino ar fwg a thwrf y trefi'; a gobeithio y bydd i ryw ysgrifenydd galluog a chyhoeddwr an- turiaethus ymgymeryd a'r gorchwyl hwn ag- a fydd o les anrhaethol i Gymru yn gyffred- inol ac elw mawr iddynt hwy.—IDRISWYN.

Gohebiaethau.

YN OL O'R GORLLEWIN.I

BwreSdy 'Ceil*'