Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
r BYD AOR BETTWS.
r BYD AOR BETTWS. Disgwylir Archdderwydd Cymru i Lundain yr wythnos nesaf, nid i gynal Gorsedd eithr i bregethu yn y Tabernacl. Mae cynllun Syr Isambard Owen ynglyn a sefydlu Amgueddfa a Llyfrgell Genedl- aethol wedi ei fabwysiadu yn hollol gan ein cynrychiolwyr Seneddol. Ymddengys fod cryn anhawsder i gael ymgeiswyr Toriaidd ynglyn a'r seddau Cym- reig erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Yr anhawsder gyda'r Radicaliaid yw dewis un o rhyw ddwsin o wyr addas yn mhob ethol- aeth. Can' mil y flwyddyn yw derbyniadau y Marcwis o Fon oddiwrth ei ystad, ond y mae hyny yn rhy fach iddo. Beth yw can' mil o bunau i Farcwis sy'n mynu chwareudy a chwareuyddion i'w ddifyru ? Toriaid yw'r Cymry i gyd, medd Mr. Chamberlain. Wel, y mae'n rhywfath o gysur i ni fod y gwr o Firmingham yn gallu ein canmol fel hyn, ar ol iddo gael cinio foethus gan gynffonwr o Gymro. Mae Syr Edward Reed yn edmygydd mawr o Chamberlain a'i gynllun. Dyna'r prif reswm, yn ddiau, fod yr aelod tros Gaerdydd yn teimlo mai gwell yw iddo roddi'r sedd heibio na chael ei daflu allan o honi gyda dirmyg. Er fod y tywydd yn ddymunol, y mae ffermwyr Kent yn cwyno fod pla wedi dod ar eu coed ffrwythau, ac mai prin iawn fydd y cynyrch eleni eto. Y llynedd caed colled- ion enfawr o achos y tywydd, ac os na ddaw gwell gwawr ar bethau eleni bydd y golled yn fawr. Yr wythnos nesaf, cynhelir cyfarfodydd mawr gan Fyddin yr lachawdwriaeth yn Llundain. Maent wedi adeiladu Tabernacl arbenig yn y Strand, lie y cydgynulla ael- odau'r fyddin o bob rhan o ddaear. Adeil- edir y Ty yr wythnos hon, yr wythnos nesaf fe'i defnyddir, a'r wythnos wedyn tynir ef i lawr. Bydd y gost yn enfawr am mor lleied o amser; ond, ar hyn o bryd, gwaith an- hawdd yw cael neuaddau mawrion a chyf- leus yn Llundain. Parhau mae'r ymladd o gylch Port Arthur —ac yn ol y newyddion diweddaraf o faes y gad, y mae byddin Japan yn lied debyg o gipio'r porthladd a'r dref oddiar y Rwssiaid. Canlyniad hyny, meddir, fydd gorfodi Lloegr i gilio o Wei hai Wai, y porthladd Chineaidd a brydleswyd gan Salisbury er mwyn cael rhywbeth i liniaru y teimlad Jingoaidd yn y wlad hon ar adeg llwyddiant Rwssia yn y Dwyrain.
Advertising
"Moorfields," EGLWYS Y BEDYDDWYR, LITTLE ALIE STREET, ALDGATE, E. (Yn agos i Aldgate Station). CYNHELIR CYFARFODYDD PREGETHO BLYNYDDOL YR EGLWYS UCHOD, MEHEFIN 18, 19, a'r 20fed, 1904. Gwasanaethir gan y Parchn. B. B. JONES, PORTH; A T. T. HUGHES, MOUNTAIN ASH. Trefn yr oedfaon fel y canlyn- ^og Sadwrn am 8. Parch. R. B. Jones Sa.bboth, Boreu am 11 „ T. T. Hughes 9, Prydnawn am 3 „ R. B. Jones It Hwyr am 6.30. „ T. T. Hughes a'r „ R. B. Jones Lun am 7.30 „ T. T. Hughes a'r R. B. Jones Rhoddir Unawd yn ystod oedfa Prydnawn Sul gan MISS KATIE JENKINS. GWNEIR CASGLIAD YMHOB OEDFA TUAGAT DREULION ADNEWYDDU'R CAPEL. COLEG Y GOGLEDD, BANGOR (Un o'r Colegau yn Mhrifysgol Cymru). Prifathraw: H. R. REICHEL, M.A., LL.D. DECHREUA'R Tymor nesaf Hydref 4, 1904. Parotoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol yn Mhrifysgol- ion Llundain, Edinburgh a Glasgow ac ar- holiadau ereill. Rhoir addysg arbenig mewn Amaethyddiaeth ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg Adran Normalaidd i Ath- rawon Elfenol a Chanolraddol. Cynygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o 640 i ^10 y flwyddyn, yn nechreu'r tymor nesaf. Mae Ysgoloriaeth Syr A. L. Jones ( £ 30) ac Ys- goloriaethau Tate yn gyiyngedig i Gymry, ac Ysgoloriaethau John Hughes yn gyfyng- edig i fechgyn aned yn sir Fon neu sir Gaernarfon. Dechreua'r Arholiad am dan- ynt Medi 2ofed. Ceir pob many lion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenydd a Chofrestrydd. Bangor. Castle Street Baptist Chapel. Midsummer Flower Service SUNDAY, JUNE 26, 1904. ORDER OF SERVICE. 8.30a..m. PRAYER MEETING 9 „ ZENANA MISSIONARY BREAKFAST 10 „ CHRISTIAN ENDEAVOUR MEET. ING 11 „ ENGLISH SERMON Subject—" The kindness of Christ Rev. R. ELLIS WILLIAMS, Pastor. Anthem The radient morn hath passed away (Woodward). THE CHOIR. 1 p.m. LUNCHEON. 3 „ SUNDAY SCHOOL MEETINGS Chairman— D. LLOYD GEORGE, Esq., M.P. Supported by William Jones, Esq., M.P. A Paper will be read by Mr. JOHN JONES, Moorfields. Recitation by Miss GWEN PRICE and Solos will be rendered by Miss ANNIE THOMAS and others, and an Anthem by the CHOIR. 5.30 p.m. JUNIOR CHRISTIAN ENDEAVOUR MEETING 6.30 „ SPECIAL SERMON for the YOUNG. Testyn—" Egwyddorion cyntaf crefydd Christ" (The first principles of Christianity) By the PASTOR. Anthem, Bydd melus gofis y cyfam- mod (Isalaw) THE CHOIR (Conducted by Mr. J. Nicholas Lewis). 30, CASTLE STREET, REGENT'S CIRCUS, W. f D. COOKSEY AND SON, Inexpensive & Modern Funerals. (Price List on Application). 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department, 97, CHAPEL ST REE T Telephone Nos. 30 and 601, KING'S CROSS.