Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu'r Ddinas,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddinas, Gvda dyfodiad y tywydd hafaidd son am y gwyliau mae rhai o'r teuluoedd Cymreig, ac mae amryw o'r gwyr cynar wedi rhedeg eisoes i Landrindod a manau ereill er mwyn newid awyr. < < Mae amryw o Americaniaid yn ein mysg y dyddiau hyn, a chyn diwedd yr haf sonir fod rhai o wyr glewaf pwlpud Cymreig yr America i fynychu'r cynulliadau yn Llun- dain. Yr oedd ytnweliad y Parch. J. C. Jones a'n dinas y Suliau blaenorol yn brawf fod doniau galluog yn mysg y Methodistiaid yn yr Unol Dalaethau yn og-ystal ag yn ein gwlad ni. Preg-ethwr melus yw Mr. Jones, a da genym weled iddo gael y fath groesaw yn Nghymdeithasfa y Deheudir yn ystod yr wythnos o'r blaen. < Cymro pybyr yn yr America yw Mr. Thos. H. Jones, yr hwn a ysgrifena lythyrau dydd- orol i'r Drych o dan yr enw (l Qdnant," ac mae yntau newydd dalu ymweliad a'r ddinas, ar ei ffordd yn ol i'r Talaethau wedi taith bleserus ar draws Palestina a'r Cyfandir. Nos Sal diweddaf bu yn gwrando ar Elfed yn ei faes newydd a llawenychai weled y fath dorf o ieuenctyd yn y Tabernacl o dan ei weinidogaeth. < Brodor o ardal Llanbrynmair yw Od- nant," ac er ei fod wedi myned i'r America. er's dros haner can' mlynedd, y mae'n par- hau i garu ei hen wlad a'i hiaith. Boed iddo ddyddiau lawer eto i wasanaethu ei gydgenedl o'r ddau tu i'r Werydd. # Cynhalia Eglwys Fedyddiedig- u Moor- fields ei chyfarfodydd pregetha blynyddol yn ystod y Sul yfory. Dechreuir ar y gyfres heno, nos Sadwrn, a pharheir hwy hyd nos Lun, a'r pregethwyr y tro hwn ydynt y Parch. R. B. Jones, Porth a T. T. Hughes, Mountain Ash. » Da genym ddeall fod yr eglwys hon ar ol ei symudiad i Little Alie Street, Aldgate, yn parhau i fynd ar gynydd ac fod argoelion y bydd iddi ddod yn allu a dylanwad yn y dwyreinbarth. Mae yno weinidog gweith- gar a brodyr egniol i gydlafurio yn y maes, fel gydag ychydig o gefnogaeth gellir adenill y tir a gollwyd gan eglwys Moorfields yn ei hir nychdod a'i hunigedd. :If: Llwydda'r brodyr i gael doniau poblog- aidd i lanw eu pwlpud ar yr uchel wyliau, ac mae'r ddau frawd uchod sydd i wasan- aethu y tro hwn yn fawr eu bri yn mysg y Bedyddwyr Cymreig, a hyderwn y bydd cynulliadau teilwng yn eu croesawu trwy yr oil o'r gyfres. # Rhydd Pjncerdd Gwalia ei gyngherdi blynyddol yn St. James's Hall ar y 29 iin o'r mis hwn, a chan fod y neuadd ar gael ei thynu i lawr ni roddir rhagor o gyngherddau yn y lie. Hyderir y ca'r hynaws gerddor Cymreig gefnogaeth fawr yn ei wyl eleni. < Ar ol clywed am farwolaeth anisgwyl- iadwy Miss Maggie Williams, Islaw'r Dref, Dolgellau, vr hon a fu yn aelod dichlyn- aidd yn eglvvvs Willesden Green, dyma fel y canodd Bob Jones: Arddunawl fyr ddiwrnod-yn y byd Denai barch gydnabod Enw Naf fu iddi'n nod Ei hoff anian a'i phenod. Trwy'r daith rho 'i gobaith i gyd-ar lesu Trysor ei hieuenctyd, Ac yn ei law gref hefyd Yr hwylia'i fewn i'r ail fyd. ROBERT JONES. Rhoddwyd ergyd trwm i Ddic Shon Daf- yddiaeth yn Hammersmith, nos Iau di- weddaf, pryd y perfformiwyd "Prawf Die Shon Dafydd" gan gymdeithas adloniadol y lie. Daeth tyrfa liosog yno, a thystia pawb eu bod wedi derbyn iechyd i'w hysbrydoedd, wrth weled a chlywed y cymeriadau doniol a gwreiddiol a osodwyd ger eu bron mor ddeheuig. Y cyfeillion canlynol gymerasant y prif ranau:—Y barnwr, Mr. A. E. Rowlands; Mr. Tafodrydd, K.C., Mr. Caleb Williams Mr. Llygadgraff, K.C., Mr. Groronwy Wtl. liams y Carcharor, Mr. Jones, Grove; Dafydd (tad y carcharor), Mr H R. Morgan Sali (mam y Carcharor), Mr. D. Lewis. Tystion: David Jones, athraw Ysgol Sul, Mr. Tom Lewis; Tomos Huws (amaethwr), J. Singleton Mr. Williams, brethynwr, Llundain, T. R. Evans; Mr. Morris, casgl- ydd siwrans, R. M. Thomas. Yr oedd perfformiad Mr. D. Lewis o Sali yn wir ddigrif, ac yn wir yr oedd yr oil yn hynod naturiol. Wedi cael y carcharor yn euog o ddiystyru iaith ei fam, terfynwyd cyfarfod tra hwyliog trwy i'r cwmni ganu u Gwnewch bobpeth yn Gymraeg," Mr. Singleton yn arwain. o « CYFARCHIAD I ELSIE. Sef cyntafanedig Mr. a Mrs. Williams, 72, Haggerston Road, Dalston, N.E. Elsi fach, y dlysaf fun, Mwyn eilun, mam-anwylyd Boed oes fad, i'r gariad gun, Heb un, trallodus benyd. A hir oes fo, i'r aeres fwyn, Heb achwyn, gyda'i buchedd Hir oes ddi-ail, yn parhaus ddwyn Gwiw swyn, mewn glan gysonedd. Wel, iddi bod, mawr lwydd heb baid, Aed delaid, mewn maintioli A boed da lwydd, uwch byd a'i laid, I'w henaid mewn daioni. Llansannan. TREBOR ALED. Nos Sul diweddaf penderfynodd hen eg- lwys y Boro roddi cydnabyddiaeth ychwan- egol i'w gweinidog galluog caredig ac ymroddgar-y Parch. D. C. Jones. Cynyg- iwyd gan Mr. W. R. Evans yn ei ddull caredig synwyrlawn a deheuig, a chefaog- wyd yn gynes gan Mr. Morgan John a phan ofynwyd i'r gynulleidfa arwyddo eu boddhad, dyna olwg ogoneddus a bendi- gedig oedd gweled yr oil yn codi ar eu traed megis un gwr, oherwydd fel y dywedodd Nehemiah, u Canys yr oedd gan y bobl galon i weithio." Bendith Daw fyddo ar yr eglwys a'r gweinidog. # Nid oes weinidog yn Llundain yn fwy ei barch yn mysg ei gynulleidfa na Mr. Jones. Mae fel pen-teulu ar aelwyd gynes ei gapel, y siriol i bawb, ac yn garedig tuhwnt i'r cyffredin i bob un mewn trallod neu adfyd. Ni fu bugail mwy gofalus o'i ddeadell erioed a phan fo galwadau i gysuro cy- feillion yn yr Hen Wlad, neu i hebrwng gweddillion rhyw gyd-Gymro i ddaear dawel Cymru, bydd y Parch. D. C. Jones gyda'r blaenaf i gymeryd y gwaith, a'r cyfan yn ami ar ei draul ei hun. Mae'r eglwys yn llewyrchus dan ei ofal a'r aelodau yn cyn- yddu o flwyddyn i flwyddyn, ac mae'r gyd- nabyddiaeth hon o'u gwerthfawrogiad o lafur Mr. Jones yn hawlio cymeradwyaeth pob cyfaill a Christion.

Advertising