Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA DAIR-SIROL: CEREDIGION,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA DAIR-SIROL: CEREDIGION, CAERFYRDDIN A PHENFRO, Cynhaliwyd y Gymanfa Dair-Sirol eleni yn Drewen, sir Aberteifi, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Mehefiu 7fed a'r 8fed. Y mae un flynedd a thrigain wedi pasio er pan y bu y gymanfa fawr yn y lie hwn o'r blaen, a gwnaeth eglwys barchus a henafol y Drewen barotoadau helaeth i roddi croesaw teilwng iddi. Dechreuodd y gyfres o gyfarfodydd ddydd Mawrth-y gynhadledd am I I o'r gloch. Llywyddwyd gan Mr. Morgan Evans, Y.H., Oakford. Cafwyd anerchiad effeithiol gan y llywydd, yn ystod yr hon y condemniai y Mesur Addysg yn ogystal a'r Mesur Trwydd- edol. Dywedai fod perthynas agos rhwng gwleidyddiaeth a chrefydd ac fod angen am i'r eglwysi anghydffurfiol fod yn effro iawn yn yr argyfwng presenol. Dywedodd y Parch. D. LI. Morgan, Pont- ardulais, mai i'r Cyfundeb hwnw yr oedd y Gymanfa i fyned y flwyddyn nesaf. Llongyfarchwyd y Parch. Josiah Jones, Machynlleth, yr hwv oedd bresenol yn y gymanfa o'r blaen, ar derfyn ei haner can' mlynedd yn y weinidogaeth. Yna rhoddodd y brawd parchus hwnw ychydig o hanes y gymanfa 61 o flynyddoedd yn ol. Galwodd y Parch. J. Evans, Bryn, Llanelli, sylw at y priodoldeb o ddarllen y Beibl yn yr ys- golion elfenol, a chymeradwyai gynllun Bwrdd Ysgol Llundain ar y mater. Cafwyd papyr gan y Parch E Keri Evans, M.A., Carfyrddin, ar Ffydd y byd ac an- ffyddiaeth yr eglwys." Cynygiwyd diolch- garwch i ddarllenydd y papyr gan y Proff. Lewis, M.A., Aberystwyth, ac eiliwyd gan y Parch. J. J. Jones, B.A., Llanelli. Diangen- rhaid yw dyweyd y cafwyd papyr nerthol a galluog. Pregethwyd ar y maes am ddau o'r gloch gan y Parchn. Evans, Bryn, Llanelli; a Thomas, Llanstephan, Caerfyrddin, a Lewis, Berea, Penfro. Am chwech, dechreuwyd gan y Parchn. Mafonwy Davies, Solfa, Penfro J J Jones, B.A., Llanelli, a Tegryn Phillips, Hebron, Penfro. Am saith, yr ail ddydd, dechreuwyd gan y Parch Fforest Davies (B), Trehir, Aber- gaveny, a phregethwyd gan y Parchn. Lloyd, Bwlchnewydd, a Richards, Crugy- bar. Am ddeg dechreuwyd gan y Parch. Carolan Davies, Tynygwndwn, a phregeth- wyd gan y Parchn. Gwylfa Roberts, Llan- elli Lloyd Morgan, Pontardulais; Rogers, Pembrey. Am ddau, dechreuwyd gan y Parch. Thomas, Salem, Llandilo, a phregethwyd gan y Parchn. Jacob, Peniel, Caerfyrddin Elias Davies, Llanelli; Evans, Penygroes, Penfro. Yr oedd yr hin yn ddymunol iawn y man i wrando yn gyfleus neillduol; yr olygfa yn brydferth a gweision Duw yn pregethu yn nerthol fel y cafwyd cyfarfodydd i'w hir gofio. Ni welwyd nemawr erioed y fath dorf wedi dyfod ynghyd i Gymanfa Fawr ag oedd yn Drewen eleni. Amlwg yw fod i bobl siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro swyn a hyfrydwch i glywed yr efengyl yn cael ei phregethu; ac m siomwyd neb oedd wedi dyfod gyda'r amcanion cywir. Cafwyd gwledd ysbrydol, a gwenau Duw yn y cyfarfodydd. Yr oedd eglwys Drewen wedi gwneuthur aberth mawr i dderbyn y gymanfa yn an- rhydeddus. Dilyned bendith Duw ymdrech- ion pawb fu yn gwasanaethu.

[No title]

CYMRU A'R DDRAMA.

[No title]