Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Ty'r Gleber.
Ty'r Gleber. Wythnos anffodus iawn fu'r wythnos hon i'r Llywodraeth. Mae'r ymraniadau mewnol a'r gwrthwynebiadau allanol wedi bod yn ddolur tost i Mr. Balfour, ac nid syndod fod llawer iawn o wyr blaenllaw y ddwyblaid yn darogan y ceir etholiad cyffredinol yn yr Hydref. I gadarnhau hyn, hefyd, hysbysir fod Mr. Chamberlain yn barod i wynebu r wlad gyda'i gynllun ar yr adeg hono. Hwyrach nad ydyw yn disgwyl enill y gamp y tro hwn, ond rhydd fantais iddo osod y pwnc ger bron, ac yna i ddyrnu arno tra parhao oes y Rhyddfrydwyr-os mai hwy enilla'r dydd, a gwneyd y fuddugoliaeth yn sicr pan apelir y tro wedyn at yr etholwyr. I bob ymddangosiad, y mae'r wlad yn blino ar sefyllfa pethau fel y maent yn awr. Mae masnach yn wael, a chwyno beunydd a geir fod arian yn brin; a chan fod gweithred- oedd gwastraffus y Weinyddiaeth bresenol yn dwyn y tylodi naturiol yn eu camrau, nid oes dim a ellir ddisgwyl ond newidiad hollol o'n rheolwyr Seneddol. YR ETHOLIADAU. Profodd yr etholiadau a gaed ddechreu yr wythnos hon a diwedd y llall fod y wlad yn lied anfoddhaus ar y sefyllfa bresenol. Yn Market Harboro, dydd Sadwrn, cyhoeddwyd barn yn erbyn y Weinyddiaeth, a hyny gyda mwyafrif cynyddol gan y Rhyddfrydwyr ond gwaeth na'r cyfan oedd y fuddugoliaeth fawr yn Devonport dydd Llun. Yno cyfrind y sedd yn hynod o ansicr. Weithiau try o blaid y Rhyddfrydwyr, a'r tro arall dros y Toriaid, ond yn yr ornest bresenol cipiwyd y sedd gan wrthwynebwyr y Llywodraeth gyda'r mwyafrif aruthrol o 1040. Yr hyn a wna'r ornest yn fwy hynod fyth yw'r ffaith jnai dyn dieithr oedd yr ymgeisydd Rhydd- f r\ dol—sef J. Williams Benn, cadeirydd Cyngor Sirol Llundain—tra yr oedd y Tori n wr enwog yn y cylch ac yn rhoddi gwaith i amryw ganoedd o'r etholwyr, yn ogystal ag yn Syr yn y fargen. Mae curfa fel hon yn sicr o effeithio ar y blaid, a hwyrach y byddant yn barod i apelio at yr etholwyr cyn diwedd y flwyddyn, os na ddywed Mr. Chamberlain fel arall wrthynt. CHAMBERLAIN A CHYMRU. Mae llawer o sibrwd wedi bod o gylch Ty'r Gleber y dyddiau diweddaf ynglyn ag araeth y gwr o Birmingham yn nghinio Mr. Pryce Jones. Nid oedd y cynolliad yn un cyhoeddus, a cheisiwyd yn bendant gan y rhai oeddent yn bresenol beidio cyhoeddi yr hyn a siaradwyd yno. Ond mae'n amlwg nad oedd y parti yn rhyw hapus iawn ar ol ymweliad Mr. Chamberlain. Gan fod y i-aleddwyr bron yn ddieithriad yn Donald Cymreig, gyda'r eithriad o Mr. Vincent Evans ac, feallai, Mr. Davies, Llandinam, yr oeddent yn disgwyl cael cefnogaeth pendant Mr. Chamberlain i'w polisi Cymreig hwy. Ond gwyr yr hen law etholiadol hwn mai ofer yw siarad am ddim yn Nghymru tra y pery yr Eglwys yn sefydliad gwladol yno. Mae, er's blynyddau, wedi canfod mai politics y capel a'r eglwys sydd yn yr etholaethau Cymreig, ac ofer fydd iddo ef na neb arall siarad am ddiwygiadau tra y pery'r anhaws- der crefyddol hwn. Felly, er mwyn ceisio ei osod o'r neilldu am dymor, a denu rhai capelwyr i'w bolisi buddianol ef dyma fe'n cyhoeddi yn y ginio ei fod yn Ddadgysylltwr rhonc mewn egwyddor er, hwyrach, nad oedd yn barod i gario hyny i weithrediad ar hyn o bryd. Diwygiwr mewn egwyddor yw efe, ond gormeswr ymarferol; ac os hudir un- rhyw Gymro i gredu y gwna byth osod terfyn ar yr Eglwys Gymreig, y mae yn llai ei reswm na'r Bardd Cocos ei hun. KEIR HARDIE. Ar ol ei gystudd maith, yr oedd yn dda gan lawer o honom weled Mr. Keir Hardie yn ol yn y Ty, wedi gwella'n dda, ond wedi heneiddio cryn dipyn o ran golwg. Gwr o gryn allu yw Mr. Hardie fel aelod anibynol, er mai hollol ddiles ydyw i ni fel Cymry. Llwyddodd y Deheubarth ar adeg yr ethol- iad diweddaf i anfon y fath haid gymysg i'r Ty fel mae'n amhosibl meddwl am undeb a chydveithrediad rhyngddynt. Mae'r rhai a honant rywbeth dros Gymru yn rhy ddiallu eu dawn i wneyd dim yn gyhoeddus, ac y mae'r rhai galluog a bywiog fel Keir Hardie, pan y siaradant, heb ddeall dim am anghen- ion priodol y Cymry. Un genedl yw pawb dynion iddo ef, a thra y pery mor gibddall i anghenion arbenig Cymru nis gellir ei gydnabod o un gwerth i ni fel cenedl. Mae meddwl am hwn a Mr. D. A. Thomas fel olynwyr i Mr. Henry Richard, Apostol Heddwch, a chenedlaetholwr cyntaf ein bywyd gwerinol, yn ddigon i wneyd esgyrn y gwr da hwn atlonyddu yn eu gorweddtan dawel. SYR ALFRED. Bachgen piwr" yw Syr Alfred, a siarad am dano fel y gwna ei etholwyr. Y dydd o'r blaen rhoddodd arddwyl hynod o gar- trefol i amryw o wyr urddasol Caerdydd, a daeth tua dau cant o wahoddedigion tan ei gronglwyd a than gysgod coedydd ei ardd brydferth yn y Bronwydd. Er mor agos yr etholiad, nid oes hryder ar Syr Alfred y cyil efe ei sedd, oherwydd y mae yn un o'r rhai sicraf yn Nghymru, ac y mae yntau yn fachgen mor gartrefol ac yn hen lane mor ddeniadol a di-dramgwydd nes y mae pawb yn ei hoffi. Fel cadeirydd y blaid y mae yn ddigon da, ond ar yr un pryd gwell fyddai genym weled arweinydd beiddgar a phen- dant yn y rhengoedd Cymreig ar hyn o bryd. Rhy fach o sylw a delir i faterion Cymreig, ac ond cymharu y tymhorau di- weddaf hyn a'r blynyddau pan oedd Henry Richard, Dillwyn ac Osborne Morgan ar y blaen genym, ceir gweled na roddir agos cymaint o sylw i ni yn awr ag a wnaed yn y dyddiau cynyddol hyny. Rhaid newid hyn, wir, neu fe a'r etholwyr yn ddrwg eu hwyl o dipyn i beth. Mae terfyn hyd yn oed ar amynedd a thevrngarwch yr Ymneillduwr a'r gweithiwr Cymreig. YR AMGUEDDFA A'R LLYFRGELL. Dyma'r pwnc nesaf i'w benderfynu gan yr aelodau Cymreig. Dydd Iau yr oedd dirprwyaeth Gymreig i ymddangos ger bron Mr. Austen Chamberlain gyda chais am gynorthwy arianol oddiwrth y Llywodraeth. Mae'r syniad o sefydlu Amgueddfa yn Nghaerdydd a Llyfrgell yn Aberystwyth yn cael derbyniad ffafriol gan fwyafrif yr ael- odau, ond p'un a ganiateir y gwahanu yma gan y Llywodraeth s) dd bwnc arall.
"Y GENINEN" AM ORPHENAF.
"Y GENINEN" AM ORPHENAF. Cynwysa Cychwyniad a Chynydd En- wad y Bedyddwyr )n Nghymru. Gan y Parch. W. P. Williams, D.D. Owen Glyn- dwr, ean Mr. L. J. Roberts, M.A., Arolyg- ydd Ysgolion Ei Fawrhydi. Hen Chwedlon- iaeth y Cymry, gan y Parch T J Humphreys (Cynfal Llwyd). Ben Bowen (englynion), gan y Parch. D. C. Jones a'r Dryw. Y Tra Pharchedig John Pr) ce (Deon Bangor), gan y Parch. E. B. Thomas. Rhagor o adgofion am Lundain, gan y Parch. David Griffith. Gormes Grefyddol yn Nghymru, gan Syl- wedydd. Trem yn ol, gan Watcyn Wyn. Cwmdu, olion ac enwau, gan y Parch. David Lloyd. Bywyd ac athrylith Tafolog, gan y Parch Evan Davies. Bro fy maboed, gan y Parch J Myfenydd Morgan. Joseph Hughes, Tad y Feibl Gymdeithas, gan Spinther. Herbert Spencer, gan y Parch R Llugwy Owen, M.A., Ph.D. Cwm Rhondda, gan,, Frynfab. Tranoeth wedi'r Farn, cywyddr gan Tudno. Parthau Cymru.-Nannau, gan Lasynys, Llyn Helyg, gan Wilym Lleyn. Gwehelyth Prifon.-Achau Brynkir. Gweddillion llenyddol—Dyfodiad Charles Wynne, Ysw., etifedd y Foelas, i'w oed, gan Gofnodydd. Myrddin, gan y Dr. Silvan Evans. Englynion, gan Robyn Ddu Eryri a Nicander. Gohebiaethau. Yr argraffu Cymraeg cyntaf yn Nghymru," gan Frythonydd. Swydd Gallestr, gan Hywel.
CRONFA COLEG PRIFYSGOL CYMRU,
CRONFA COLEG PRIFYSGOL CYMRU, Mae'r gronfa uchod yn dal i gynyddu yn gyson. Cyhoeddir yn awr restr o danys- grifiadau tuag ati. Mae'r rhestr yn anghyf- lawn, wrth gwrs, gan fod y pwyllgorau lleol heb orphen eu gwaith, ond y mae amryw leoedd wedi gwneyd yn dda eisoes. Rhoddir yn y rhestr y tanysgrifiadau a addawyd hyd, ddiwedd Ebrill, ac y maent yn cyrhaedd 27,ooop, yr hyn, gyda'r tir a roddwyd gam dref Bangor, a wna gyfanswm 0 42,0oop. Y mae pob sicrwydd bellach y llwydda'r an- turiaeth a dyna, yn ddiau, argyhoeddiad yr awdurdodau, oblegid y maent wedi cyf- logi gwr cyfarwydd i dynu allan y planiaur ac yntau wrth y gwaith rai wythnosau.
TRO HYNOD.
TRO HYNOD. Ychydig wythnosau yn ol, cafodd Mr. Thomas, gynt o Ty'nywern, Groeswen, fenthyg copi o'r darlun diweddaf a dynwyd o Ieuan Gwynedd, gan y Parch. Garibaldi Thomas, Aberdar, er mwyn ei roddi yn y llyfr newydd ar u Ymdaith Cynulleidfaol- iaeth trwy Watford, Groeswen, a Thony- felyn." Pan gaed y darlun yn ol wedi gwneyd y block o hono, cafwyd fod ysmotyn bach ar ysgwydd chwith y bardd, ac wrth ei rwbio i'w lanhau, daeth llaw fechan wen ei briod i'r golwg. Yn ddiamheu, yr oedd y darlun wedi ei gymeryd pan oedd y bardd yn wael iawn yn ei nychdod olaf, a chan ei fod braidd yn rhy wan i sefyll, yr oedd ei anwyl wraig, yr hon fel y cofia llawer o'n darllen- wyr, oedd yn fodryb i briod y Parch. Gari- baldi Thomas, wedi rhoi ei braich o amgylch iddo i'w ddal i fyny a'i llaw wen dros ei ysgwydd aswy. Onid yw yn hynod meddwl fod y ffaith hon wedi dod i'r golwg yn awr ar ol dros haner can' mlynedd ac onid yw y ffaith yn esboniad o'r cariad y canodd leuan Gwynedd, druan, iddo, yn y rhagym- adrodd i'r "Gymraes" yn y llinellau pryd- ferth hyny:- Ti wyliaist wrth fy ngwely Pan ydoedd haul yr hat A'i danbaid wres bob diwrnod Yn gwywo'th briod claf Ti wyliaist wrth fy ngwely Nosweithiau gauaf oer, Pan syrthiai ar y lleni, Oleuni llwyd y lloer. Ti wyliaist wrth fy ngwely Pan oedd yn w ely gwaed, A ffrydiau coch y galon Yn drochion wrth dy draed Ti wyliaist wrth fy ngwelv, Pan oedd y peswch blin Drwy'r nos yn peri imi Ddihoeni ar ddihun.
[No title]
Nid oedd Mountain Ash, yn y flwyddyn 1840, yn ddim ond pentref bychan, gyda siop gof a thafarn, ynghyd a phump o dai: Y mae yn awr yn llawn tafarndai ac yn abl i, wahodd y beirdd a phawb yno i gynal Eis- teddfod Genedlaethol y Cymry. Cyfarfyddodd Toriaid Mon yn Llangefni Y dydd o'r blaen i drafod y pwnc o'r priodol- deb i ymladd yr etholiad nesaf. Credai y cyfarfod y byddai yn dra phriodol dyfod ag ymgeisydd allan yn erbyn yr aelod presence. Mr. Ellis Jones Griffith. Yr oedd rhai o'r cynrychiolwyr oedd yn bresenol yn but hyderus o'r canlyniad, yn enwedig os byddai i ymgeisydd anibynol ddyfod allan. Bu enwau Mr. Edward Owen, Mr. Pritchard Jones a Mr. Cremfyn (yr oil o Lundain) o dan sylw fel ymgeiswyr priodol ond i aro& i drafodaethau fyned yn mlaen, ni wnaed trefniadau terfynol. Mae'n syn mai yn Llun- dain y triga holl Doriaid sir Fon