Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

YMWELIAD YE ARCHDDERWYDD.…

EISTEDDFOD YN AFFRICA,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD YN AFFRICA, Mae dydd Gwyl Buddug, ar y 24 o Fai, yn fwy pwysig gan Gymry'r Transvaal nag hyd yn oedd ddydd Gwyl Dewi. Dyma'r dydd eleni ar ba un y caed Eisteddfod Flyn- yddol y Transvaal, a chaed cynulliadau pob- logaidd yn )r Wyl a gynhaliwyd ar y diwrnod hwn yn Johannesburg. Cynhaliwyd yr Wyl dan nawdd y Gym- deithas Gymreig, amcanion yr hon yw cadw yn fyw em nodweddion cenedlaethol yn y rhan bellenig hon o fyd, a chan mai Mr. E. H. Parry—brodor o Feirionydd—yw'r llyw- ydd eleni, sicrhawyd eisteddfod gampus taxi ei ofal. Y ilywydd yn nghyfarfod y prydnawn vdoedd Arglwydd Milner ei hun, ynghyd a'r Parch. Glyndwr Davies a Tal o Fon yn ar- weinyddion. Yn ei araeth, dywedodd Milner y carai roddi ei gynorthwy bob amser i unrhyw fudiad oedd yn amcanu i hyrwyddo medrus- rwydd yn y celtau cain, ac i gadw i fyny lenyddiaeth dda yn mha iaith bynag y bo. Yr oedd hynodrwydd y Cymry am feithrin y pethau hyn yn fyd-hysbys. Er mai dyma ei ymweliad cyntaf ag unrhyw Eisteddfod, hyderai bellach mai nid dyma yr olaf. Ar ddiwedd yr araeth anerchwyd ef fel hyn gan Tal o Fon Brawd-Lywydd drwy ei bryder-a ddaeth I hedd yw Lord Milner Rhag gelyn i'n gwlad dyner, Twr yw ef saif, tra fo ser. I Affrig mae'n deyrn eff-ro-a noddwr Llenyddiaeth y Cymro Ei bur aidd yw nartih ein bro- Hyaod arwr di-wyro. Yn yr hwyr caed cynulliad mawr arall, a llywyddid gan Mr. f. R. Price, C.M.O., a chafodd yntau y beirdd i'w anerch fel yma: Llawn 0 sel yn mhob lle'r elo-yw Price Camp yw rhoi sen iddo Brwd yn ei waith, llwydda'n bro Ag amayw ddonian'r Cymro. Enwog wroft gwladgarol—a hoyw Lywydd Eisteddfodol; Gwnaeth ei hun yn ddymunol—drwy feithrin Gwin-odlau gwerin fo'n genedlgarol. Caed cystadlu rhagorol yn y gwahanol adranau a rhoddwyd canmoliaeth arbenig i'r lleiswyr. Yr oedd tri o gorau yn ymgeisio ar yr anthem, (Teyrnasoedd y Ddaear (Ambrose Lloyd). Un cor o Is-Ellmynwyr (Dutch), cor o Fordsburg, a chor o dan arweiniad Mr. L. K. Glenton, A.T.C.L.,—yr olaf yn enill y wobr. Bu gornest galed rhwng dau o gorau meibion ar y gydgan, The Monks war march" (Dr. Parry). Cor Mr. Hugh Gwynn yn fuddugol. Cafwydgwledd ardderchog ar yr unawdau -y Mri. Harry Evans a John Jones yn profi eu hunain yn denorion gwych. Yr oedd safon y dadganiadau gan y sopranos a'r con- traltos yn uchel iawn, a rhaid nodi y bon- eddigesau Muriel Hosben, Kathleen Hutchin- son, Norah Gillman, E. Mather a Nellie Jones am eu canu gogoneddus. Heriwyd pawb o'r bron yn yr adran len- yddol gan arwr o Ffestiniog, sef Mr. R. A. Thomas (Athron). Llethwyd ef bron a gwobrwyon ac anrhydedd am ei draethodau a'i englynion grymus. Dywed y beirniad (Mr. Dyer Davies), yn yr adran gelfyddydol, am waith y darlunydd buddugol yn yr oil paintings, ei fod yn ddigon da i gael ei osod mewn unrhyw un- rhyw arddangosfa, a phe byddai y wobr yn haner can'punt buasai yr ymgeisydd yn deilwng o honi. Yr oedd Cymry'r ddinas euraidd wedi rhoddi eu nawddogaeth yn gyffredinol i'r wyl, a throdd y cyfan yn llwyddiant per- ffaith. Bwriedir cynal Eisteddfod yno yn flynyddol, a chan fod y fath nifer o dalentau disglaer ar y Rand ar hyn o bryd, nid gwaith anhawdd fydd cael cynulliadau poblogaidd a llwyddianus ar bob amgylchiad o'r fath.

YR AMGUEDDFA A'R LLYFRGELL…

Advertising