Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

"ErTHR NID YW Y DIWEDD ETO."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"ErTHR NID YW Y DIWEDD ETO." Er fod arwyddion am ystormydd yn y byd gwleidyddol, a llawer o helyntion blin ar ffordd y Weinyddiaeth am rai wythnosau eto, y mae'n amlwg nad yw y diwedd yn agos iawn. Mae'r cadau Ceidwadol yn amharod i'r ysgarmes o flaen yr etholwyr, a chred y Diffyndollwyr y llwydda Mr. Cham- berlain i hudo llawer o'r werin i'w gynllun- iau yn ystod y gadgyrch Hydrefol a drefnir iddo, ac mai gwell, felly, fydd gohirio yr etholiad am flwyddyn arall. Dengys y man etholiadau diweddar mai anoeth iawn fyddai i'r Ceidwadwyr apelio at y wlad ar hyn o bryd, oherwydd os yw y rhai hyn yn unrhyw ddangoseg o deimlad y gweddill o'r etholaethau, byddai y Rhydd- frydwyr yn sicr o ysgubo'r maes, a sicrhau'r fath fwyafrif a'u gwna'i yn hollol anibynol oddiwrth gymorth y blaid Wyddelig, a byddai hyny yn ddinystr o'r fath waethaf. • Amcan presenol y Weinyddiaeth, meddir, yw cadw at yr awenau hyd adeg fwy addas i'w cynlluniau hwy. Gobeithiant y daw rhyw ddigwyddiad a'u gwna yn boblogaidd gan y werin unwaith eto ac os ca'nt hyny, yna apeliant am brydles newydd yn y man. Hwyrach y gallant, felly, sicrhau i'r pleidiau fod yn lied gyfartal, ac ond gwneyd hyny bydd pobpeth yn dda gan y gwyddant o'r goreu fod Ty'r Arglwyddi o'u plaid hwy pan fo angen am ddeddfu, ac na feiddia plaid y Rhyddfrydwyr, gyda mwyafrif bychan, gyf- lawni ond ychydigr o waith yn anibynol ar y gefnogaeth a gaiff oddiwrth y Ty uchaf. Gwir fod angen mawr am gyfnewidiad yn y dull presenol o ddeddfu. Mie'r wlad wedi syrffedu ar y modd y cefnogir ac y cynorthwyir pob dosbarth gormesol gan y bobl sydd mewn awdurdod yn awr. 0 un i un y maent wedi sicrhau eu cefnogwyr a'u gwaddoli mewn modd gwaradwyddus ar draul y cyhoedd cyffredin. Mae'r landlord- iaid wedi cael triniaeth, ond dal yn dylawd mae'r tenant gweithgar. Mae'r offeiriaid wedi cael rhagor o awdurdod a'i fuddianau wedi eu cadarnhau. Mae'r tafarnwr ar fin cael ei waddoli ar draul y cyhoedd sydd eisoes wedi ei lethu bron oherwydi dylan- wadau anuniongyrchol y Fasnach hon. Yn wir, y mae pob adran wedi eu llwyr wobr- wyo a'r cynllun yn awr yw ceisio dod o hyd i gri cyffredinoi a huda y rhai'n i uno yn erbyn rhyddid ac iawnder; ac os ceir hyny, yna rhaid apelio i'r wlad ar fyrder. Ond ar hyn o bryd mae'r cri yn absenol, a gellir bod yn dra sicr na ddaw y diwedd hir-ddisgwyliedig hyd nes ei ceir.

DADGYSSYLLTIAD. j

!CAPEL (M.C.) CLAPHAM JUNCTION.

Advertising