Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

SARAH JACOB. ]

Bwrdd y * G®Stm9

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd Bu'n helynt flin ynglyn a'r Llinos o gylch y Bwrd&> ar ddechreu'r wythnos pan ddo'ed a'r gwr i'r 'stafell" farddol i ateb gwys ar bwnc difrifol. Pan wnaeth y bardd ei ymddangosiad mewn cyflwr trist, rhwng dau heddgeidwad, a deall beth oedd cwyn yr Awen, bu iddo bron llewygu'n gelain Ar gadair farddol dan uchelwydd eisteddai HWFA yr Archdderwydd, a gofyn wnaeth mewn barddol eirie', Beth ydi'r gwyn am Llinos Wyre ?" 1 0 rhynged bodd i'ch bard dol 'wyllys '—dechreuai'r clero, sef Bardd yr Offis, yn erbyn hwny mae cy- huddiad o wneuchur cais at hunanladdiad, a galwaf yma res o dystion a brofant hyn yn eglur ddigon." Ond gyda hyn, daeth Rosseronian gan wneyd apel ar ran y truan. Fe doddodd hon galonau'r dyrfa a chwysu'r dagrau'n Ilu wnai Hwfa a chodai'r Llinos lef gwynfanus i gyfiawnhau ei 'stad druenus :— BOSSERONIAN. Diolch i ti Rosseronian Am dy ganig ber a diddan Cofia gyfaill, hoff, mynwesol, Rhaid cael bwyd mewn cylla barddol, Son am awen loyw, burlan, Nis gall hono fyw heb arian P'le mae calon Cyniru hyglod ? A yw'n fyw, neu wedi darfod? Rhaid i awen gael cysuron Aur a phres, ac ymborth ddigon; Gwelir cyfoeth (iwalia'n gwenu Tra mae talent bardd yn trengu. Rhoddaf ffarwel, oer, dragwyddol Mwyach i'r taliadau barddol; Pa'm rhaid treulio nerth ymenydd Er Ilea byd am ddim ond clodydd ? Yn y wlad uwchlaw'r cymylau Medda nhw caiff bardd ei wobrau; Rosser bach, bydd wedi blino Ar y ffordd cyn cyrhaedd yno. Harrow- on-the-Hill. LLINOS WYRE. "Wel, dyma dro" medd Awel Jewin. Mae's bardd mewn cyflwr anghyffredin,-mae wedi Hade neu lwgu allan yr Awen bur am na cha'r arian; ond er mwyn ei cbladdu yn gymen a diddos, wel rhodder MARWNAD I AWEN Y LLINOS. 0 Awen fywiog ein Llinos bach Bu rhai'n darogan nad oedd hi'n iach, A thystiai'r lleill na threngai'n gloi Ond mae'r gan ddiweddaf wedi'i rhoi. Yr Awen sy'n farw, oer a mud, Mae'r CELT yn dyst o hyn dros y byd Gobeithiwn iddi gael chwareu teg,- Os Llinos a'i mhygodd—'n boeth bo'i geg. [Pan glywodd Hwfa'r fath iaith glasurol fe gododa: ei glustiau mewn gwedd foddhaol, a sibrwd wnaeth bardd oedd yno yn eistedd, Wel dyma ymgeisydck- am Urdd yr Orsedd 1"] ° Ond boddi ei hun wnaeth y feiden, medd rhai, A darfodedigaeth sy'n ami yn mis Mai; Beth bynag fu'r achos aeth angeu a'r belt, Caed pregeth angladdol o bwlpud y CELT. Fel hyn y dyfarnodd holl reithwyr y cwest I Llinos ei mwrddro, a'i chladdu'n ei frest; Mae yno fel telpyn yn fud a diwres Dan draed Uygredigaeth yn herwydd y pres. Y modd ei llofruddiwyd oedd tori ei phen A'i gwanu i w chalon a hen gleddyf pren Na chosber y Llinos—'roedd allan o'l bwyll Pan wnaeth yr erchyllwaith, os nad oes rhyw dwyll. 'Rwy'n cofio ei Awen yn canu'n ddirith I'r ddau fochyn melyn, a'r un mochyn brith Ond pan adgyfodo hi gana'n fwy croch Nid moch yn y maip' ond y maip yn y mooh. Os daifu'r hen Linos gyflawni'r tro gwael, Maddeuer am unwaith, mae'i waeth ef i'w gael Os hyrddiodd ei awen i'r beddrod mewn nwyd, Cyn diwedd Gorphenaf 'rwy'n credu y cwyd. Rhaid anfon y Llinos am wythnos i'r wlad, Yn murmur yr Wyre ca i awen wellhad Mae hono yn canu mewn oerni a thes, Heb ofyn am ganig, aur, arian, na phres. AWEL JEWIN. Cytunwyd a'r awgrym a dwedai y Gol. fod yn rhaii i bob Awen gael bwyd yn ei bol, a newid aer hefydl- i'r Llinos oedd raid os am gael adfywiad i'w Awen ddibaid, ac felly anfonai cheque fawr yn y man i dalu- am drip yn y Lledrod caravan. Ar ddiwedd yr helynt yr Archdderwydd englyaa* fel hyn i'r hen Linos nes chwalu y byrddau :— I'R LLINOS. Ar gangau, ei ber gyngan—a fwrw Yn gyforiawg allan, Ei gyweiriog geinciog gân-gywrejnber A oglais dyner deneuglust anian. Ei alaw hurtia fwystfilod-y coed Cau eu safon ddiwaelod, Chware wna a chywrain nod Llawen, ar glustiau llewod.