Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
" Y MARCHOG CRWYDRAD." 4
Y MARCHOG CRWYDRAD." 4 I Os ydyw derbyn y teitl o Syr yn un- 1 rhyw arwydd o anrhydedd, y mae'r marchog 1 Cymreig diweddaraf-Syr Marchant Wil- liams —yn ei haeddu, am v gwahanol swyddi 1 safleoedd y mae wedi lanw yn ystod ei j aes. i Brodor o Drecynon, ger Aberdar, yw Mr. 1 Williams, ac y mae wedi cael gyrfa lwydd- ianus. Dechreuodd fel ysgolfeistr yn ei hen- wlad, yna daeth i Lundain a bu o dan y Bwrdd yma am dro. Dringodd i fod yn ( arolygydd cyn pen hir amser; ond nid oedd hyny yn ddigon iddo. Astudiodd am y Bar 1 a chafodd ei alw i gylch y Gyfraith gan ymuno a'r gylchdaith ddeheuol Gymreig'. Yno cafodd y swydd o drefnydd y gwaith, ac yn mhen peth amser dyrchafwyd ef i ] fainc ynadol cyflogedig Merthyr, lie y mae = yn fawr ei barch ar hyn o bryd. Crwydrad yw wedi bod, hefyd, yn ei ddaliadau politic- ] aidd. Bu un amser yn Genedlaetholwr 1 Cymreig, vna yn Radical rhonc; ond ar ol 1 cael ei w 1 thod gan y bliid hono, mewn ethol- aeth Luudeinig, trodd yn Undebwr ac ar hyn o bryd, saif allan fel cynrychiolydd teg ] o'r Ceidwadwr Cymreig. Er yr holl sym- udiadau nid yw Syr Marchant ond cydmarol ieuanc, a gall esgyn i ami i s wydd eto cyn diwedd ei oes. Er hyny, y mae'n haeddu'r anrhydedd o'r Marchod Crwydrad' am ei waith hyd yn hyn, a dymunwn iddo lawer o fendithiDn eto tra parhao ei blaid mewn awdurdod. Dyma fel y canodd Dyfed iddo ar ei ddyrchafiad i blith syrod y wlad :— SYR T. MARCHANT WILLIAMS. Syr anwyl—oes o rinwedd-a chlod iach I. Hawlia dwr anrhydedd; Gwawriodd enwog arddunedd I Ar enw da'r Ynad Hedd. Nwyfus wr, na fu sorianl-ar ei ael Erioed yw Syr Marchant ¡ A thrwy y tir plethir tant Yn gynes i'w ogoniant. I'w bau lwyd y bu o 1es-a gwawr dysg Ar dan yn ei fynwes Bu'n ei rym ar ben y rhes, A'n Brenin wybu'r hanes. Tywynol dalent union—ei fwyn ddawn Fu'n ddydd o fendithion Ac yn liwydd ei egni lion j Disgleiriwyd ysgolorion. I'w genedl gu'n hyawdl gar-y daliodd j Drwy bob dylif anwar Da yw gan nef a daear Wobrwyo dyn Aberdar. Dywyned mewn daioni—i'w dylwyth Dalied yn oleuni A gweddus ydyw gwaeddi, Oes hir yn ol i'n Syr ni.-DYFED.
Oddeutu'r Bdinam.
Oddeutu'r Bdinam. u Mae bwriad ar droed i uno'r Cymdeith- I asau Sirol, Morganwg a Phenfro, gan nad yw y naill na'r llall yn cael y g-efnogaeth a i •ddisgwylid. Wrth eu huno, galletn feddwl, k y collid pob amcanion ynglyn a hwy fel e cymdeithasau sirol. Pa angen am ranu ein cadau fel hyn sydd yn Llundain yma ? Onid gwell fyddai i'r dynionach yma uno er ffurfio 5 un gymdeithas Gymreig gref a sylweddol? Erbyn yr Wyl Genedlaethol nesaf yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, ar nos Wyl Dewi, trefnir i gael anthem arbenig o gyfan- soddiad Mr. T. Westlake Morgan, organydd ( Eglwys Gadeiriol Bangor. ] Mae'r Parch. Llewelyn Edwards, M.A., ( Clapham, wedi dod yn ol o'r America, a chafodd yno groesaw cynes iawn yn ystod ei arosiad. Am y flwyddyn nesaf, trefnir i j Mr. Edwards gymeryd gofal eglwys newydd Walthamstow, yr hon sy'n argoeli'n dda. Mae Hwfa Mon mor fyw ei lygad yn awr a phan yn llanc, ac yn dotio ar fabau tlws. Y dydd o'r blaen, pan ar ymweliad a Mr a Mrs Wilfred Rowlands, a gweled eu bychan cyn- taf-anedig, fel hyn y canodd :— Leonard Rhys Rowlands, baban i Mr. a Mrs. Wiljred Rowlands, Llundain. Wele un anwyl wenau-a anwyd 0 linach iawn dadau 0 Gyff hwn, bydd adgoffhau Y Rhysiaid am hir oesau. I'w odidog hen deidiau-J ehofa Roes gryfion synwyrau Ac Ion i'w clws fachgen clau Roes enaid mewn rhosynau.—HWFA MON. Dier mi," meddai hen frawd yn y gog- leddbarth yr wythnos hon wrth edrych dros restr cylch y weinidogaeth gan y Methodist- iaid yn y ddinas yma. Rhyfedd mor an- ffodus yw eglwys Holloway. Y mae hi'n Row yno, wyddoch, bob yn ail nos Sal, er fod bugail newydd geno nhw." Ni ddeallodd yr hen frawd mai blaenlythrenau y Parch. R. O. Williams oedd y ROW s/ ary" plan." Cred Dr. Dan L. Thomas-y meddyg iechydol dros Stepney-fod ton o sobrwydd yn dod dros ein gwlad. Wel, os yw ardal Step- ney yn dechrcu sobri, y mae gobaith y diwygia'r West End, o gywilydd. Un o berygbn y dyfodol yw'r car modur. Yn ol yr ystadegau a gyhoeddwyd yr wyth- nos hon, bu cynifer a 1957 o ddamweiniau ynglyn a'r modur yn Llundain yn unig, yn ystod y deuddeng" mis diweddaf, ac yn y rhai hyn lladdwyd 17 o bersonau. Mae'r nodachfa (bazaar) a gynhaliwyd mewn cysylltiad ag Eglwys Paddington wedi troi allan yn llwyddiant perffaith. Erbyn hyn, y mae y ddyled oedd yn aros ar yr eglwys a'r neuadd wedi ei thalu, ac oddeutu loop yn weddill mewn Haw. Gweithiodd y cyf- eillion-un ac oll-yn galed gyda'r nodachfa hon. Caed c/d weithrediad hapus yn yr eglwys, a choron o lwyddiant ar eu hym- drechion egniol. Deallwn fod Cyngor yr Eglwys yn bwriadu cael llyfrgell Gymreig, ac hefyd adeiladu ty i'r gweinidog ar y tir helaeth sydd yn ymyl yr eglwys. Y mae y rhodd anrhydeddus a roddwyd gan y Cymro gwladgarol-Mr. H. Powell Edwards—i'r eglwys, bron a chael ei Z!l gorphen. Cynwysa borth ardderchog,- adeilaiwaith o feini cerfiedig, a bwau o d iull Gothaidd Hun dwy ddraig wedi eu cerfio o geryg-un ar bob colofn o dan y bwau. Ya y cloer, uwchben y bwau, bydd llun Dewi Sant wedi ei gerfio ac i goroni y gwych adeiladwaith, bydd croes fechan ar y blaen yn cyfeirio ac yn adgofifa am yr Hwn a fu farw ar y groes dros ddynoliaeth. j Dydd Sul, wythnos i'r diweddaf, canwyd inawd yn swynol iawn gan Miss Mary l 3earce yn y gwasanaeth hwyrol. Y Sul diweddaf pregethwyd foreu a hwvr gynulleidfaoedd lliosog gan y Parch. W. Hlvanus Williams, Penmaenmawr, yn wir :ffeithiol. Y Parch. Howell Watkin, B.A. (caplan y jenhadaeth Ddwyreiniol), fydd yn pregethu nio yfory (Sabath), .==========1. ]
[No title]
Yn ei ewyllys y mae'r diweddar Syr H. M. Stanley wedi cydnabod ei fod yn Gymro. I. Dywed am dano ei hun, mai ei enw gynt oedd "John Rollants neu Rowlands," ac mai genedigol o ardal Dinbych ydoedd. Yn mysg y rhai sydd wedi derbyn cymunrodd- ion o'r ystad y mae Mr. J. W. Jones, Gwesty y Talbot, Aberystwyth, yr hwn oedd haner brawd iddo. Caiff Mr. Jones bum' cant o bunau ar ei ol. Mae'r Athro J. Morris Jones, M.A., o Brif- ysgol Bangor, wedi ei ethol yn G/mrawd o Goleg yr lesu, Rhydychen, am dair blynedd- Yn ystod y tymor yma y mae'n debyg y bydd i Mr Jones ddwyn allan Ramadeg Cym- raeg newydd, a chan ei fod efe yn un o'r ysgolheigioa Cymreig goreu sydd genym yn awr y mae'n debyg y bydd y gwaith yn un sifonol yn ein hiaith. i
Advertising
P. R. THOMAS & Co., DAIRY AGENTS & VALUERS, 143, STRAND, LONDON, W.C. (Near Somerset House). SURREY. kllLK.—Splendid district, retailing 22 Barns daily d., and £ 14 weekly in Dairy Produce, 2 compact Pram Rounds, splendid Shop, large convenient House vith Bath Room (h. & c.), Tiled Yard, Washing-up shed, Stabling. Coach House, Loft, &c., Rent £4:.1.. ong Lease. 2520 or oiler. EALING. MILK.—14 Barns daily all at 4d. per quart, gooi irade in Butter. Eggs, Cream. &a., 1 compact Prant ilound, nicely fitted Shop, with Yard and Outbuild- ngs, Rant jE15, splendid position, close to a large lew estate. £ 390. KENNINGTON. MILK and GROOERY.-All indoors, Takings £ 3($ weekly, all over the Counter, splendid Shop, ex? illenfe josition, Rent £12, lung Lease. Selling on acejuat )f the Proprietors' death. E150. WALHAM GREEN. MILK.—Retailing 16 Barns daily at 4d. per quart, md taking £10 weekly in the Shop, Pram Rounds, Rent £45, subletting £:39, long Loaia. Oaly asking e:375. EAST CENTRAL. MILK.—Retailing 25 Barns daily, and taking about e25 weekly in the Shop, 2 compact Rounds, Rent 655, same hands over P,20 years. Price ES-50. TOOTING. MILK.—16 Barns daily 4d., and taking £12 weekly in the Shop, solendid Shop and House, Rent nearly all let off. JS350 or offer. CROUCH HILL. MILK.—27 Barns daily 4d., 2 compact Pram Rounds, Shop trade 610 weekly, convenient Premises with plenty of outbuildings, side entrance, Rant £4:.0. B800 CAVENDISH SQUARE. MILK.—23 Barns daily 4d., and taking from £18 to S20 weekly in the Shop, 2 compact Pram Rounds, very select, splendid Shop, valuable Leaset Rent aearly all let off. Only £350. NOTICE. The following Businesses are now sold. Pulham 49 gallons. Battersea, 40 gallons. Camberwell, 40 gallons. Highgate, 16 gallons. Canonbury, 16 gallons. Westbourne Park, 16 gallons. St. John's Wood, 4(t gallons. Walham Green, 22 gallons. Hampstead, 28 gallons. Kensington, 30 gallons. Offices: 143, Strand, near Somerset House Yn awr yn barod! CERDDI "CERNGOOH" Sef Casgliad o Weithiau JOHN JENKINS (Penbrynmawr, Talsam), YN CYNWYS Cerddi Natur, Csrddi Coffa. Cerddi Cjira, Cerddi Cwrw, Cerddi Pdndrws, a. Manion, DAN OLYGIAETH "AP CEREDIGION" A MN JENKINS CYFROL HARDD, GYDAG YMYLAU GOREUR- EDIG, 314 TUDALEN AR BAPUR DAti 14 0 DDARLUNIAU. PRIS 3/- (I DANYSGRIFWYR 2/6), GYDA'R POST 4e. YN RHAGOR. C4-3- Y Gyfrol rataf a harddaf 0 unrhyW Wasg yn Nghymru. I'w gael yn SWYDBFA'R CELT, 211, GRAY'S INN ROAD, LLUNDAIN.