Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

GWYLIAU'R HAF.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWYLIAU'R HAF. Y LLE GOREU I DREULIO PYTH- EFNOS YN NGHYMRU. I gystadleuaeth y CELT ar y testyn hwn, daeth unarbymtheg o gyfansoddwyr,a theim- lem ar ol eu darllen fel pe baem wedi bod ar daith ar draws Cymru, a hithau yn ei gogoniant \n mhob man. Mae'r cyfansodd- iadau yn amrywiol o ran eu gallu desgrif- iadol-rhai yn llawn ffeithiau, ereill yn farddonol, ac un neu ddau mor bendant fel pe baent yn cymeryd yn ganiataol ein bod yn gwybod y cyfan am y lie a ddarlunir ganddynt. Un peth a'n tarawodd a syndod. Y maent bron yn unfarn mai glan y mor yw'r unig le addas i Gymro Llundeinig fynd iddo am ei wyliau haf. Paham hyny, nis gwyddom. A ) dyw y cystadleuw) r yn credu nad yw Llandrindod, Llangammarch a Llangollen, yn lleoedd addas i fyned iddynt ? Neu ynte, a ydynt yn cyfrif y lleoedd hyn yn rhy fynheddig i ddarllenwyr y CELT? Beth bynag yw'r rheswm, y maent wedi eu han- wybyddu oil ond Llanfairmuallt; a dyma y lleoedd a ddesgrifir, ynghyd ag enwau yr ysgrifenwyr:— Aberaeron Aneurin Aeron. Abermaw u Bermo." Aberystwyth Goronwy. eto 0. Davies. eto Caswallon. Abergwaun Brython. Borth J. Roberts. Bethesda Gwilym Llafar. Ceinewydd Hen Fenyw. eto W. Williams. Llanfairmuallt Sion Brychan. Llandudno Creuddyn. Ogof Twm Sion Catti, Will ei Wyr. Pwllheli Glan y don. Penuwch Daniel Mountan. Rhyl T. Thomas. Mae dau neu dri o'r cyfansoddiadau yn fwy doniol na desgrifiadol; ac mai syniad Will ei Wyr" am wahodd pobl i fangre anghysbell Twm Sion Catti yn chwerthinllyd i'r eithaf; ac mae darllen hynafiaethau Abergwaun gan Brython' fel pe bae penod o'r Myfyrian ger ein bron. Desgrifiad barddonol o'r Rhyl sydd gan T. Thomas, a gallem feddwl fod yr awdwr yn ymgeisydd am urdd yr Orsedd, oherwydd 'does ganddo yr un ffaith am y lie o'r dechreu i'r diwedd. Y goreuon ydynt 'Goronwy,' Bermo,' Creuddyn,' O. Davies ac 'Aneurin Aeron.' Mae'r oil o'r rhai hyn yn ddarllen- adwy ddigon. Ond y cyfansoddiad goreu yw eiddo 'Creuddyn' ar Landudno, tra y mae I Aneurin Aeron' yn dynn ar ei sawdl, wrth ddesgrifio Aberaeron. Anfoned Creuddyn ei enw priodol i ni, a chaiff y wobr. I.—LLANDUDNO. Pa le yn Ngogledd Cymru y buasech yn dymuno cartrefu ?"—gofynai Amser i hen Frenhinoedd Cymru ganrifoedd yn ol; dyn- ion ag oeddynt yn meddu y gallu uchaf yn Ngwynedd, yr amser hwnw, i effeithioli eu hewyllys. u Yn Neganwy," oedd eu hateb. "Saif ar wàr penrhyn y Creuddyn, a safai yno pan nad oedd castell yn Nghonwy gyferbyn ag ef, a phan nad oedd ond tywod a mor hesg ar y fan lie saif Llandudno yn awr. Yr oedd yn deilwng gartref i Gun- edda a'i longau. 0 hono medrid llywodr- aethu ar dir a mor Cymru. Yr oedd Gwyn- edd yn haner cylch o'i gwmpas,-dyffryn Conwy, Arllechwedd a'i glan creigiog ac Arfon y tu hwnt iddi, a Mon ac Ynys Seiriol yn ochr y mor. 0 fewn y rbai'n yr oedd mor cread o flaen brenhinoedd Deganwy a hawdd oedd i'w llongau gyrhaedd Arfon neu Fon draw. Buasai'n anhawdd cael llecyn mwy cyfleus a mwy canolog yn yr hen Gymru Fawr gynt."—O. M. Edwards. Pa beth, tybed, a'i rhwystrodd i dyfu i fod yn brif-ddinas Prydain Fawr ? Y mae Amser wedi newid ei wedd a'i ddiwyg er hyny, ond gofyn hedd\w i'r bobl hyny sydd yn gallu bod yn frenhinoedd- bach neu fawr-am bythefnos yn yr haf yr un cwestiwn. Ac y mae tyfiant Llandudno (sydd ryw filldir neu ddwy o Deganwy) o fod yn bentref bach dinod yn 1850 i fod yn dref bendefigaidd, ddestlus, ysplenydd, a ddeil ei chydmaru ag unrhyw gyrchfan yn Mhrydain Fawr yn rhoi'rateb. Os am ddianc o lwch anialwch Llundain sydd yn llenwi ein genau, ein ffroenau a'n llygaid a'i gwres a'i harogl boethlyd megis o Rags and bones shop enfawr, 'does ond rhaid myn'd i tuston ac fe gluda y L. & N. Western ni yno am 20s, unrhyw ddydd Mer- cher yn yr haf, heb newid, a chewch ddych- welyd yn mhen pythefnos heb dalu rhagor -y mae wedi darganfod gwerth arianol Llandudno. Ar ol cyflymu dros wastattir Lloegr dyma ni yn cyrhaedd gwlad newydd. Ymagor y genau, y ffroen a'r llygaid i gyf- arch natur yn ei gogoniant. Yn sicr dyma arlunfa (art gallery) natur. Y mae wedi hongian ei darluniau ar y mynyddoedd, y mor, uwchben, islaw, i'r dde a'r aswy. Y mae rhyfeddodau lliw a llun yn anrhaeth- adwy yma! Ond, hefyd, y mae ein hys- brydoedd yn codi. Pa ryfedd I Saif Llan- dudno mewn ymneillduaeth (onibai y rheil- ffordd) o gyfandir Cymru. Yr ydym bron megis mewn ynys yn y mor—culdir llai na milldir o led rhwng dau for-yn glanhau ei hun, gan fod y tir yn draethog, a phen eang yr Orme Fawr yn cysgodi rhag gwyntoedd y Gogledd. Y mae y diweddar Dr. James Nicol, ar ol sylwadaeth manwl, yn dyweyd ei bod yn oerach yma yn yr haf nag yn y cyrchfanau mwyaf poblogaidd yn Neheudir Lloegr ac yn gynhesach yn y gauaf. Y mae yr awyr yn sych, yn nerthol. Ond y dref- mae wedi ei llunio a'i threfnu dan nawdd gwarcheidwad y tir (Arglwydd Mostyn) mor urddasol a phendefigaidd a phe tuasai rod- feydd ar ei ystad, ac y mae y L. and N. Western' wedi adeiladu gorsaf sydd yn cydymgais ag Euston mewn eangder-ond gymaint glanach. Sonir am "eifr" sir Gaernarfon, ond u byddigions Llandudno. Ac y mae y tri- golion am bobpeth o'r fath oreu—bara, ymenyn, cig, cerddoriaeth, digrif-chwareu, hud-chwareu, goleuni trydanol, motor cars, tramways, cychod, heb anghofio y pris-fel y gweddai i falchder i Brenhines y Dyfrle- oedd Cymreig.' Os am wel'd natur noeth, dringwch neu cym- erwch tram i ben eang yr Orme Fawr, a gwelwch greigiau noeth yn terfynu y mor eang sydd yn ymestyn at y Werddon ac Ynys Manaw. Yno mae Eglwys Tudno, ac yn swn digymysg y mor y gorwedd mab John Bright. I'r de-ddwyrain mae adfeilion Gogarth a berthyn i'r canoloesoedd. Trowch eich llygaid i'r dwyrain a'r de ac y mae prydferthion Gogledd Cymru yn eich gwa- hodd-glanau aton Conwy, Bettws-y-coed, y Fenai ac yn y blaen, Nant Ffrancon a mynydd Olympus Cymru-yr Wyddfa—oil yn hawdd eu cyhaedd oddiyma. CREUDDYN. II.-ABERAERON. Yn ol fy marn i-ac yn ol barn canoedd o ymwelwyr cyson o sir Gaer, sir Forganwg a siroedd ereill, ac hyd yn oed o Lundain— Aberaeron yw y lie goreu i dreulio gwyliau'r haf. Fel y gwyr Cardis y Brifddinas, y mae Aberaeron yn un o'r ymdrochleoedd rhataf, iachaf, hapusaf yn Nghymru i dreulio pyth- efnos yn u nwr y mor.'7 Yr wyf yn cyfaddef mai tipyn yn anfanteisiol yw y cyfleusderau teithio ond wedi'r cyfan, caiff yr ymwelydd ei lawn dal pan y daw. Y ffordd oreu i ddod o Lundain ydyw codi tocyn am Llan- bedr- pont- Stephan; cyrhaeddwch yno erbyn haner awr wedi tri yn y prydnawn, ac fe fydd yno ddigon o 'vans' yn barod i'ch cludo i Aberaeron, yr hwn le sydd 13 milltir o Lambed; a gwn y gwnewch fwynhau y daith yn well nag un daith arall gawsoch er's amser hir. Cewch olwg ar y golygfeydd mwyaf swynol ag sydd yn bosibl eu canfod. Ar ol dod i ben Bryngoleu—tua phedair milltir o Lambed—fe fydd gogoniant dyffryn Aeron yn ymagor o flaen yr ) mwelydd, fel, panorama, ac wedi dod i wastadedd Felin- fach ac Ystrad, ni wna ond edr)ch ar brydferthwch natur ar bob ochr, hyd nes cael ei hun yn nghanol Allt Hengeraint, ac yn swn crawciadau'r cor asgellog du eu lliw, sydd yn cartrefu er's cenedlaethau ar frigau hen dderw sydd wedi herio 'stormydd di-ri o gyfeiriad y mor. Yna y byddwch yn barod i ganu fel y wag hwnw o Lundain, yn ei benillion i ddyffryn Aeron, yn yr Eisteddfod- gynhaliwyd yma yr wythnos ddiweddaL Dyma mal y canws :— Supposo eich bod un diwrnod Yn dod o Llambed town Yn mail-cart David Richards 0 Brynog Arms renown 'Hol dod rhyw bedair milltir, Dan smocio os mynwch chi, You come to Ben Bryngoleu, And then a sight you'll see. Before you yn ymagor, Like panorama tlws, Is famous Dyffryn Aeron, The sight of which do'nt loose Even if you be a Stoicya, Dideimlad and di child, You certainly must addef It ought to make you wild. Wedi c) rhaedd y dreflan lan erbyn tus chwech o'r gloch, cewch groesaw calon gan y trigolion a'r ymwelwyr ynghyd; ac ar of lludded y dydd cewch wely plyf, glan, i ymorphwys, ac nid hir y byddwch cyn cael hun i'ch amrantau, ac yn drivo moch" yn mreichiau cwsg. Ar ol bod yma am ddiwrnod neu ddau, yr ydych yn teimlo yn gartref01 hollol. Ar y stryd, ar lan y mor, yn y cwm ac ar ben y clogwyn, cyferchir chwi gan, rywun yn barhaus gyda bore da," ac yr ydych yn teimlo eich bod ar delerau cyf- archiadol a phawb, fel yr ydych yn awyddus i aros mis yma, ac nid pythefnos. Mae yn Aberaeron le ardderchog i gael seib. iant ar ol un mis ar ddeg o ddwnd wr masnachol y ddinas. Y mae pob peth yn wahanol i'r hyn ydyw yn y trefydd a'r dinasoedd mawr- ion,-newid awyr, newid bwyd, newid cym- deithion, newid ymgom, a newid dillad o ran hyny, digon o ryddid i fyn'd lie y myn- och; siarad a phawb heb ymresymu ag etiquette y Sais; ac os byddwch mor ffor- tunus a bod yn rhydd eich hun, mae y lie goreu yn y byd i bigo fyny < wed j en a'i nhewid bob tro y byddwch yn cyrhaedd congl y stryd. Cewch ddewis naill o'r ledis bach smart sir Gaer neu globen foch-goch, llygad-lon gwlad y Cardi, y rhai sydd yn llawn asbri a direidi, a'ch gwneyd yn hapus a boddlon drwy'r dydd. Os hen lane ifanc' o fardd, llenor, neu gerddor fyddwch, cewch eich digoni bron bob nos a man gyfarfodydd- sy'n cael eu cynal, naill ai yn yr Assembly Rooms neu yn yr awyr agored, gan dalentau- disglaer o sir Forganwg a manau ereill. Y mae naw o bob deg o'r ymwelwyr yn ym- drochi yn y mor. Mae yn amhosibl cael gwell traeth, na gwell mor i ymdrochi nag sydd yn Aberaeron-digon o dywod tra yn y dwfr, a hwnw mor las-loew fel y gwelwch fysedd eich traed yn glir yn y gwaelod, pan hyd at yr en yn y dwfr. Nid oes yma weith- faoedd o un math i dduo nac i amharu yr" awyr las uwchben. Ceir yma ddigon o rodfeydd i rodiana, afon Aeron a chyflawn- der o eogiaid a brithillod i'r pysgotwr, creig- iau ysgythrog, mynyddoedd cribog a chym- oedd rhamantus i'r bardd a'r anturiaethwr, gorphwysfa dawel i'r llesg a'r afiach, llonder ysbryd i'r gwan ei feddwl, ac y mae yn hoffus fan i Cupid anelu ei saethau at galonau car- wyr. Y mae'r llety-dai yn lan a chysurus, a serchogrwydd oddifewn. Y tal cyffredin ydyw chwech, naw ceiniog, a'r tai goreu swllt y nos, ond pe byddai dau neu dri yn- cytuno i gymeryd "sitting room rhyng-