Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Oddeut&s'r Ddinas.
Oddeut&s'r Ddinas. Nid oes un cor o Lundain yn mynd i Eis- teddfod Rhyl eleni eto, er cymaint y siarad a fu ychy dig wythnosau yn ol. Bydd amryw o unawdwyr o'r ddinas yma jnymgeisio yn y gwahanol fan gystadleu- aethau, a hyderwn y cadwant urddas y lie i fyny, yn ol eu harferiad. Hysbysirfoddauneudri o weithiau Ilen- ) ddol o radd uchel wedi eu gyru i ysgrifen- yddyr Eisteddfod gan fyfyrwyr ieuainc y ddinas. Llwyddiant iddynt I Dod yn ol o'r America mae'n gwyr cy- I hoeddus—a'n merched dawnus, o ran hyny; oherwydd disgwylir Miss Ellen Wilhams adref heb fod yn yn hir iawn. Bu amryw o'r A.S.-od Cymreig yn ngardd- wyl y Cyngor Sirol a roed ddydd Sadwrn di" eddaf. A pba ryfedd! onid oedd Tywysog a Ihywysoges Cymru yn bresenol yno ? Ganol yr wythnos hon, ar ol ysbaid maith o dywydd hafaidd rhagorol, caed newidiad yn yr bin. H oedd y cawodydd gwlaw a gafwyd yn lloni llawer ar y ffermwyr o am- gylch y ddinas yma, ac ereill orm hyny. Mae'r eglwysi Cymreig yn dechreu ym- waghau yn herwydd y gwyliau; ac o hyn i ddiwedd mis Awst ni fydd y cynulleidfaoedd ond teneu iawn fel arfer yn yr haf. Deallwn fod yr eglwys Fedyddiedig yn Tottenham wedi cael gan y Parch. W. Rees i fyned yno i'w bugeilio am dymor. Cyfeir- iad presenol y Parch. W. Rees yw, 51, Red- cliff Road, South Kensington, W. Un o'r adroddiadau manylaf ar faterion iechydol y Llundeiniwr yw'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf ar ran- barth Stepney, a hyny o dan law y meddyg iechydol lleol, Dr. D. L. Thomas. Y mae'r gyfrol hardd yn c/nwys dros 130 o ddalenau heblaw nifer o dafleni pwysig ar wahanol agweddau iechyd y rhan sydd tan ei ofal. Yn mhob penod ceir ffigyrau yn dryfrith, ac mae'r dull eglur yn mha un y mae pob peth wedi ei ddosbarthu yn brawf fod y Dr. gyda'i gefnogwyr yn hynod ofalus yn nglyn a phob digwyddiad yn y cylch. Gyda y fath ofal, nid rhyfedd fod y lie yn gwella ac fod cynydd rhagorol i'w ganfod yno yn ddiweddar yn nifer y genedigaethau. Hawdd gweled drwy yr adroddiad fod y Dr. yn gredwr cryf mewn buchfrechu fel attaliydd priodol i frech wen, ac mae'r nifer o achosion a gofnodir ganddo, i raddau pell iawn, yn cadarnhau ei gasgliadau. Gan mai yn y rhan hon o Lundain y bu'r haint di- weddar yn ei lawn nerth, cafodd Mr Thomas ddigon o fanteision i'w astudio. Mae'r Dr. wedi darganfod perygl newydd ynglyn a'r llaeth a werthir yn ei ardal; ac y mae'n eglur ei fod wedi gwneyd astud- iaeth fanwl o'r mater gan fod nifer yr achosion a ddygwyd ganddo o flaen y fainc am werthu llaeth amhur yn lliosog iawn. Dirwywyd amryw o'r dyhirod hefyd, a mae yn sicr fod pawb o'i gydbreswylwyr yn falch o'r gofal a gymer gyda'r anghenraid hwn. Ond nid cwyno gymaint am ychwanegiad dwfr at y llaeth y mae Dr. Thomas, eithr oherwydd y budreddi a'r diofalwch a gym- erir ynglyn a'i drosglwyddiad o'r fuwch i'r cyhoedd. Dywed mai'r creadur bryntaf yn nglyn a'r fasnach yw'r dyn sy'n godro y gwartheg. Gallwn meddai, u ddirwyo y masnachwr a geidw ei lestri a'i dy yn frwnt, ond 'does genym ddim hawl i achwyn os gwelwn y 'cowman' yn fudr ac heb weled dwfr er's misoedd. Gyda'r dwylo aflan hyn y b) dd yn godro'r anifeiliaid, ac nid syndod fod llawer o'r budreddi yn myned i'r llestr a'r llaeth yn ystod yr oruchwyliaeth." Gan fod deugain o feudai yn ei ranbarth yn y rhai'n y cedwir yn agos i fil o wartheg, y mae o bwys mawr iddynt ofalu fod pob adran o'r gwaith yn cael ei wneyd o dan ddeddfau glendid yn ogystal a deddfau iechyd.J 1 FGLWYS DEWI SANT. Bydd yn dda gan liaws cyfeillion Mr. T. J. Davies giyved iddo fodynllw)d ianus yn ei )rfa golegawl ac iddo enill ei B.A. yn dra uchel yn ei goleg yn Llanbedr. Y mae'n debyg mai curad- iaeth gyntaf Mr. Davies fydd Llangollen. Hir oes iddo i wasanaethu ei eglwys a'i genedl. Fe fydd yn pregethu yn Eglwys Dewi Sant nos yfory (Saboth). Llawenydd fydd gan gyfeillion lliosog- Mrs. E. W. Morris, Bristol Gardens, glywed ei bod yn gwella yn dda ar ol bod o dan driniaeth feddygol bwysig a pheryglus. Y prif feddyg ydoedd Dr John Williams, M.D., Connaught Street, Bayswater, W. Gweithiodd Mrs. Morris ynffyddlon gyda'r nodachfa yn ddiweddar, a hyny yn ddiameu o dan anfantais fawr oherwydd eihafiechyd. Dymunwn iddi adferiad buan.
Advertising
Yn awr yn barod! CERDDI "CERNGOCH" Sef Casgliad o Weithiau JOHN JENKINS (Penbrynmawr, Talsarn), YN CYNWYS Cerddi Natur, Cerddi Coffa, Cerddi Caru, Cerddi Cwrw, Cerddi Pendrws, a Manion, DAN OLYGIAETH "AP CEREDIGION" A DAN JENKINS CYFROL HARDD, GYDAG YMYLAU GOREUR- EDIG, 314 TUDALEN AR BAPUR DA, 14 0 DDARLUNIAU. PRIS 3/- (I DANYSGRIFWYR 2/6), GYDA'R POST 4c. YN RHAGOR. 9;0- Y Gyfrol rataf a harddaf o unrhyw Wasg yn Nghvmru. I'w gael yn SWYDDFA'R CELT, 211, GRAY'S INN ROAD, LLUNDAIN. D. J. TRUSCOTT & CO. AUCTIONEERS, HOUSE, DAIRY AND FARM AGENTS, &c., 11, BOND COURT, WALBROOK. N60 Gallons daily at 4d., £ 14 Shop, Price £ 550, W., 42 gallons daily at 4d., £ 14 Shop, £ 475, W.C., 44 gallons daily at 4d., j615 Shop, <t650. W.. 60 gallons daily at 4d., £650. N., 36 gallons daily at 4d., £15 Shop, £350. Indoor £14 weekly, j640. Ditto, JE30 weekly, £ 135. Ditto £12 weekly, je50. W., 28 gallons daily 4d., JB30 Shop, £400. GRELLIER A'I FAB, ARGRAFFWYR, 211, GRAY'S INN ROAD
Lfyfrau Newyddion.
Lfyfrau Newyddion. DOETHINEB Y CYMRY. Dyma 1) fryn bychan yn cynwys detholion o rai o ddywediadau yr hen oesoedd gynt. Yn anffodus, y mae gor- euon ein llenyddiaeth allan o gyrhaedd y bobl gyffredin gan fod ) r hen gyfrolau mor brin, a'r canlyniad ydyw na wyddis ond pur ychydig am y meddyliau cyfoethog a briod- olir i'r hen dadau. Amcan y llyfryn hwn yw dwyn nifer o'r dyu ediadau hyn mewn ffurf bylaw ger bron y cyhoedd, a llwydda mewn modd hapus i grynhoi perlau gwcrth eu cadw mewn cof. Yn y tiioecd Cymreig, ceir y dull cenedlaethol o ddyweyd gwirionedd ar ei oreu. Mae ein hen lenyddiaeth yn frith o'r dywediadau hyn, ac y mae'n syndod mor bur ac aruchel yw'r medd>liau a gjn^ysant. Fe roddir engreifttiau bapus yn y llyfrjn hwn ynghyd a detholiad o'r Gm ellau megis Gwell un dewch na dau evch," a'r u Gor- euon megis Goreu diod diod o ddwr," ac amryw ereill. Yn y 32 tudalen hyn, y mae Uawer o ddoethineb, a hydeiwn ei lledaenir yn gyfifredinol yn m) sg y rbai a garant len eugwlad, ac a ymfalchiant yn mywyd go- goneddus yr hen dadau dysgedig a naturiol gynt. Doethineb y Cymry": R. E. Jones, Conwy. Pris, 6c.] GWYNFRYN MAGAZINE." Mae'r ail rifyn o gylchgrawn Ysgol Watcyn Wyn yn rhag- ori ar y cental, ac yr oedd hwnw yn dda. Dengys fod yr ysbryd Cymreig yn lied fyw yn mysg yr efrydwyr a'u bod ya hoffi neges y penill a geir ar ddechreu y rhifyn:— Os rhaid cael Groeg a Lladin in' A thipyn o Gymraeg, Peidier a chredu nad i ni'n Rhwym o gael Cymraeg. Mae eisieu dysgu'r wers yna ar y mwyafrif o'n myfyrwyr ieuainc heddyw, oherwydd nid oes dim yn fwy gwrthun na gwrando ar ambell i ddyn ieuanc yn traddodi pregeth mewn Cymraeg sal ac yntau wedi bod trwy ein prif golegau Edrydd y Parch. H. J. Jacob, Peniel, adgofion difyr am ei ddyddiau ef yn Ysgol y Gwynfryn. Dyma un o hon- ynt: Yr oedd gan un o'r myfyrwyr supply mewn capel heb fod yn mhell, taerai arnaf am ddod i'w gwmnia tuag yno. Aethum. Gofynodd i mi ddechreu'r oedfa, a gwnes. Pregethodd yntau. Ar y diwedd daeth adeg y talu. A chan nad dim ond oedfa'r boreu gynhelid y Sul hwnw, haner y tal oedd yn dod wrth gwrs Pedwar swllt oedd y cyflog yn ei lawn faint. Deuswllt heddyw. Tyn- odd y trysorydd ddeuswllt allan o'i bwrs- diwaelod bron; a chyn iddo gael amser i roi rhaff am ei wddf eilwaith, gof>nodd y pre- gethwr iddo newid deuswllt. Gwnaeth. Yna trodd ataf fi gan estyn swllt a dyweyd,- Cymer hwn-dyna ni yn sguar 'nawr, cofial 'Does dim yn well na rlianu pan bo digon (?) i'w gael!'—Fe godwyd y supply i goron ar 01 hyn a dim croppipgs' Dylai'r hen efrydwyr a chyfeillion yr ysgol lion sicrhau y cylchgrawn dyddorol hwn. Gellir ei gael am is 2C y flwyddyn oddiwrth Mr. G. O. Williams, Gwynfryn, Ammanford. Dywed Mr. Ernest Rhys yn ei lith wyth- nosol i'r Manchester Guardian fod mwy o nofelau ar destynau Cymreig wedi eu hys- grifenu yn ystod y flwyddyn ddiweddag nag mewn un tymor o'r blaen. Dywed fwy dwy neu dair o honynt i ddod allan ar ddech- reu y tymor gauafol nesaf. Mae'r cyfieithiad i'r G\mraeg o Ddwyfol gan Dante yn awr yn y farchnad. Mae yn gyfrol hardd a chostus. Y pris yw gini ac mae'r darluniau a geir ynddo wedi eu tynu yn arbenig i'r gwaith mae'n gyfrol dda. Cyfrol brin iawn yn y farchnad heddyw yw Bees Welsh Saints, ond gwelwn fod Gwasg Eglwysig Llanbedr, Ceredigion, yn bwr- iadu dwyn allan ad-argraffiad cyflawn o'r gyfrol. Bydd yn gyfrol hardd, a gwerthir hi am bris rhesymol iawn.