Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Y Dyfodfoim
Y Dyfodfoim [•ST Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn rhoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1904. ——— Gorphenaf. „ 21. Holloway. Cyfarfod Cymdeithasol i Groesawu'r Parch. R. 0. Williams. „ 24. D. Lloyd George, Ysw.. A.S., ynghapel Little Alie Street, Leman Street, E., am 3 o'r gloch. Cadeirydd, R. 0. Davies, Ysw., Y.H. Medi. 23. Walthamstow. Darlith gan Parch. H. Barow Williams, Llandudno. Hydref „ 23. Cyfarfod Pregethu Clapham Junction, Principal Owen Prys, M.A., TrefeccaT ac eraill. Tachwedd „ 3. Cyngherdd Mawr Eglwys Walham Green yn Fulham Town Hall. Rhagfyr „ 1. Eisteddfod Flynyddol, Town Hall" Hammersmith.
Pwlpud CHirag Llundain.
Pwlpud CHirag Llundain. PREGETHWYR AM Y SABOTH NESAF. [Er mwyn sicrhau cywirdeb y golofn hon, ,dymunir ar i'r rhai sydd d gofal trefniadau'r Pwlpud arnynt i an/on y many lion i ni erbyn boreu dydd Mercher i'r Swyddfa.\ YR EGLWYS SEFYDLEDIG. u St. Benet," Queen Victoria Street, E.G. 11, Parch. J. Crowle Ellis. 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. -41 St, David's," Paddington Green, W. 11, Parch. Howell Watkins, B.A. 6.30, Mr. T. J. Davies, B.A. M St. Padarn," I-Iornsey Road, N. 11 a 6.30, Parch. William Davies. u St. Mary," Gamberwell New Road, S.E. 11 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. East End Mission, Bridge Street, Bow, E. 3.30, Parch. Howell Watkins. 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd, Fann Street, Aldersgate. 10.45. Parch. Benjamin Watkins, Ferndale. 6.30, Parch. P. H. Griffiths. Charing Cross Road, IV. 10.45, P. H. Griffiths. 6.30, Parch Benjamin Watkins. 'Wilton Square, New North Road, N. 10.30, Parch. G. H. Havard, B.A., B.D. 6.30, Parch. J. Wilson Roberts. -Falmouth Road, New Kent Road, S.E. 10.45, Parch. S. E. Prydderch. 6.30, Parch. D. E. Jenkins, Dinbych. Shirland Road, Paddington, W. 10.45, Parch. J. Davies, Llanstephan. 6.30, Parch. R. Silyn Roberts, M.A. Rolloway, Sussex Road, Seven Sisters-rd., N. 10.30, Parch R 0 Williams, Penmaenmawr. 6.30, Parch. J. Tudno Williams, M.A. Mile End Road. 10.45 a 6.30, Parch. D. Oliver. Sammersmith, Southerton Road. 11, Parch. F. Knoyle, B.A. 6.30, Mr. T. Pritchard, B.A., Bala. Stratford, Bomford Road. 11. Parch. J. Wilson Roberts. 6.30, Parch. G. H. Havard, B.A., B.D. Clapham Junction, Beauchamp-rd., L. Hill. 11, Mr. J. Pritchard, B.A., Coleg y Bala. 6.30, Parch F. Knoyle, B.A. Walham Green, Effie Road, S.W. 11, Parch. J. Tudno Williams, B.A. 6.80, Paroh. R. O. Williams, Penmaenmawr. ^illesden Green, 265, Wdlesden Lane, N.W. 11 a 6.30, Parch W H Lewis, J'town, Ruabon. £ ewishctm, 2, Undercliffe-rd" Loampit Hill. 11, Parch R. Silyn Roberts, M.A. 6.30, Parch. John Davies, Llanstephan. Tottenham,' Bed House,' High Road, T'ham. 11, Parch J. Garnon Owen. 6.30, Parch W Wilson Roberts, P. Dinorwig. TValthamstow, Modern School, Grove Road. 11, Parch W. Wilson Roberts. 6.0, Parch J. Garnon Owen. Wood Green, Lect. Hall (Con. Ok.), L'ship Ln. 11, Parch. D. E. Jenkins, Dinbych. 6.30, Parch. S. E. Prydderch. YR ANIBYNWYR. Boro, Southwark Bridge Road. 11, J. M. Rees. 6.30, D. 0. Jones. •F&bernacle, Pentonville Road, King's Cross. 11, W. Rees. 6.30, Mr. E. Thomas. Radnor Street, King's Ro'ad, Chelsea. 11, Parch. D. C. Jones. 6.30, Parch. J. Machreth Rees. Gohebydd,' Barrett's Grove, Stoke New'ton. 11, Mr. E. Thomas. 6.30, W. Rees. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus, W.C. 11 a 6.30, Parch. R. E. Williams. Moorfields,' Littli Alie Street, Aldgate. 11 a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham. 11 a 6.30, Parch J Humphreys, Blaenllechau. Y WESLEYAID. City Boad. 11, R. LI. Jones. 6.30, H. T. Barker. Gothic Hall, Thomxs Street, Oxford Street, W. 6.30, R. Lloyd Jones. Poplar, 8, Duff Street. 3, R. Lloyd Jones.
Rhuthrgyrch y Bragwyr
Rhuthrgyrch y Bragwyr O'r diwedd, y mae'r Bragwyr a'u cyfeillion wedi cael llwyr feddiant o'r Llywodraeth. Y mae holl allu Ty'r Cyffredin wedi ei ddar- ostwng i'w cenhadaeth, ac y mae'r Mesur Trwyddedol yn sicr o gael ei wthio drwodd bellach. Addawa'r Llywodraeth y gwneir rhai man gyfnewidiadau, ond nis effeithia y rheinyar brif amcanion y MeslIr. Mor bell ag y mae iawn i dafarnwyr a sicrhad eu buddianaeth yn myned, y mae'r egwyddor wedi ei chydnabod eisoes yn y Ty, fel y gall carwyr dirwest gymeryd yn ganiataol fod y cyfan wedi ei gwblhau. Yr oedd rhai pobl wedi meddwl y buasai'r byd crefyddol yn unllais yn erbyn y Mesur, ac mor bell ag y caed dadganiadau yr Ymneillduwyr y mae hyn yn wir ond yn unol a'u harfer, y mae cynrychiolwyr yr Eglwys Wladol wedi dat- gan o blaid y Bil, a hyny gyda mwyafrif mawr. Engraifft nodedig arall o ddrygedd y cysylltiad swyddogol sydd rhwng yr Eg- lwys a'r Wladwriaeth. Y mae'n wir fod rhai o wyr goreu yr Eglwys Sefydledig yn dal i wrthwynebu y Bil mewn modd galluog; ond y ffaith yw, y mae'r datganiad swyddogol wedi troi'n ffafr- iol iddo. Mae hyn yn druenus o beth. Cyfrifir Prydain y wlad fwyaf goleuedig a Christionogol ac eto, wele'r byd crefyddol -a gydnabyddir gan y Llywodraeth-wedi cymodi a'r fasnacn fwyaf felldithiol a gania- tawyd yn y wlad erioed. Nid oes obaith am gynydd na llwyddiant o dan y fath gysylltiad, a'r unig obaith yn awr yw, y gwna Ty'r Arglwyddi liniaru tipyn ar hagr- wch y Mesur. Mae Ty'r Cyffredin wedi ei lwyr ddistewi yn ei wrthwynebiad iddo, a defnyddir y cloadur gyda llymdra eithriadol gan Mr. Bilfour er cyrhaedd ei amcanion. 0 hyn allan, rhaid cydnaboi mai y Brag- gwr sydi yn ben llywydd Prydain. Ofer yw meddwl y gall unrhyw weinyddiaeth Ryddfrydol ddileu y Mesur unwaith ei gos- odir ar ddeddflyfrau y wlad. Gellir lliniaru tipyn ar rai adranau o hono, feallai, ond nis dileir ef, oherwydd bydd y fath gyfnewid- iadau yn cymeryd lie ynglyn a'r fasnach ar unwaith a'i gwna yn sicr ac yn ddiogel rhag unrhyw ymosodiad a wneir gan bleidwyr sobrwydd a rhyddid. Hawdd y gall rhai o hen grefyddwyr ein gwlad arswydo wrth gyfri'r canlyniadau, ac nid rhyfedd eu bod yn cymeradwyo cynal cyfarfodydd gweddi. Ond i genedl faterol, fel eiddo'r Sais, ofnwn mai nid gweddiau'r Cymro ydyw y moddion effeithiolaf i'w ddwyn i'w synwyrau, eithr yn hytrach wrthwynebiad materol tebyg i'r hyn a gaed yn Ffrainc dros ganrif yn ol. Ac i hyny y mae pethau yn ymlithro os parha y fasnach feddwol a'r Eglwys Safydledig yn gymdeithion i atal sobrwydd a rhinwedd yn y wlad.
BYD Y GAN.
BYD Y GAN. EISTEDDFOD RHYL. Y mae'n debyg y bydd yr adran gerddorol o'r Wyl Genedlaethol eleni—yr hon sydd yn awr wrth y drws- yn ddyddorol iawn, oblegid, yn ol yr hyn a glywn, y mae nifer fawr o enwau ymgeiswyr I ar yr unawdau yn ogystal a'r corau, &c., wedi eu hanfon i mewn. Ni chynrychiolir Llundain Gymreig ond gan rhyw un neu ddau yn yr adran unawdol. Gresyn na fu- asem yn gallu anfon cor i'r Rhyl. Buasai yn wibdaith ardderchog i'r aelodau. GWYL GERDDOROL CAERDYDD. Y mae rhaglen gyflawn yr wyl hon-sydd i gymeryd lie yn mis Medi-wedi ei thynu allan yn awr. Yn mhlith y gweithiau a berfformir ar y dydd cyntaf (Medi 21), rhoddir gwaith cerddorfaol newydd Mr. Edward German, Welsh Rhapsody." Ac ar y dydd olaf, ceir The Victory of St. Garmon," yr hwn ddarn a ysgrifenwyd yn arbenig ar gyfer yr wyl gan Mr. Harry Evans, ac efe ei hun fydd yn arwain. Mae y rhagolygon yn addawol. YR ANIBYNWYR. Dywedodd y Parch. Mach- reth Rees,yn Nghwrdd Undeb yr Anibynwyr y dydd o'r blaen, fod galw parhaus am y ddau "Ganiedydd"; a threfnir yn y man i ddwyn allan argraffiad newydd helaethach a chyfoethocach. I amcan felly prynasai y pwyllgor holl donau anghyhoeddedig y di- weddar Ddr. Joseph Parry ac os gellir, y mae ei fryd ar bwrcasu anthemau y cerddor enwog. Da iawn wir mae gobaith y ca'nt weled goleuni dydd er mai prin y credwn mai pethau enwadol yw tonau ac emynau y Dr., eithr yn hytrach yr ydym yn fwy parod i edrych arnynt fel pethau cenedlaethol. Pwy a edrvch ar Aberystwyth fel ton un enwad. Y mae'r Anibynwyr yn ddoeth I PROMENADE CONCERTS. Gwelwn fod am- ryw o enwau Cymreig yn mysg y rhai sydd i gymeryd rhan yn y cyngherddau hyn a gyn- helir yn y Queen's Hall, sef Mr Seth Hughes, Mr. A. L. Edwards, a Mr. H. Evan Williams yn denoriaid a Mr. Purcell-Jones, gyda'i violoncello. Boed iddynt Iwyddiant. Y BEDYDDWYR, Little Alie Street. Cynhelir cyfarfod arbenig yn yr addoldy hwn bryd- nawn Saboth, Gorphenaf 24ain, am y dri o'r gloch, er sefydiu dosbarth Beiblaidd. Anerchir y cwrdd gan Mr. Lloyd-George; a bydd canu yn gwneyd i fyny ran dda o'r cyfarfod, pan y rhoddir unawdau gan Miss Alice Maud Lewis a Mr. David Evans. CARMEN SYLVA. Geneth fechan, brydferth yw y Carmen Sylva hon. Nid yw ond 8 mlwydd oed, ond y mae'n swyno pawb a'i llais rhyfeddol; a dywedir fod yr hyn y mae y lodes fach yn alluog i'w wneuthur yn hynod hyd yn oed yn y dyddiau hyn o ryf- eddodau. Buasai cwmpas ei llais yn anar- ferol hyd yn oed mewn person cyflawn oed, oblegid gall y fechan ganu i fyny i G in altissimo. Y mae hyn yn nodyn uwch nag a genir gan Miss Ellen Beach Yaw, ac un nodyn yn uwch na Miss Edith Helena (yr hon ryfeddodd dyrfaoedd yn ddiweddar yn yr Empire). Mewn gwirionedd, fe red llais y gantores fach yn agos drwy dair octave.