Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Llyfrau Newyddion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llyfrau Newyddion. "CEKDDI CERNGOCH." Dyma lyfr hir- ^idisgwyliedig i law llyfr prydferth, rhad a Hawn. Er y cyhoeddir yn y Gymraeg beth aneirif o gofiantau a chasgliadau o farddon- iaeth o bryd i bryd, y mae rhyw arbenig- rwydd yn perthyn i'r llyfr hwn. Gweith- iwyd y llyfr ar fodel new>dd. Ceir yn fyn- ych ynglyn a chofiantau fod y cofiantydd yn gwthio mwy o'i farn a'i syniadau ef ei hunan i'w lyfr nag o hanes gwrthddrych y cofiant, a rhan fynychaf nid yw personoliaeth y cofiantydd na'r gwrthddrych yn y llyfr. Nis gall neb ddwyn y cwvnion hyn yn erbyn Cerddi Cerngoch. Y mae Cerngoch a'i deulu a'i gyfeillion o flaen llygad y darllen- ydd o'r dechreu i'r diwedd. Hwyrach y cawsid gwell conant, pe bai rhyw un gwr wedi ymgymeryd a'r gwaith o'i ysgrifenu, yn He cyhoeddi pwt o > sgrif gan hwn, a phwt gan y Hall ond nid oes arnom awydd i gwympo maes a'r golygydd oherwydd hyn. Wedi i ni ddarllen y rhagymadrodd, a myned yn frysiog drwy y farddoniaeth-a theg yw cydnabod i ni aros i fyny hyd y boreu bach i wneyd h)ny-y syniad gavisom ydoedd, fod holl wlad y Cardis wedi ymuno i ysgrif- enu'r llyfr- pob un fel pe tae yn bwrw'i batling i fewn i'r dr) soda. Ac yn hyn o beth credwn fod y llyfr yn tori tir newydd. Ceir, er esiampl, farn hen wladwr o'r enw Sbaci Cwmtywyll ar ragoriaethau y ddau frawd, Cerngoch ac Amnon, a chyhoeddir ef yn union fel pe bai Arglwydd Tennyson neu Browning) n haethu ar y pwnc. Dyn a ddjwed Shaci: ''Cryiach cantwr yw Joseph, y nghender, yn y mesurau caethion, ond ma' Penbiyu ) n fwy llitbrig yn y mesurau newjdd." Sylw bach, digon cyffredin, onide, ond mor nodweddiadol o farn oraciaidd hen ffarmwr gwledig-bron na allwn ddjchmygu gveled yr hen wr yn esgor ar y frawddeg ar ol hir a maith f)fyicod. Ac y mae llawer o betbau cyffelyb yn y llyfr, sydd yn dwyn arferion a nodweddion y gymjdogaeth yn iyw iawn i'n cot. Hwn yw'r llyfr mwyaf cardiaidd a welsom erioed. Hanes byw a gweithiau pedwar Caidi, wedi ei jsgriienu gan Gardis, a'i ar- gicffu a'i gjhcecdi >n mhiif cdinas y Cardi. 0 ganlaniad, y mae'r Uyfr ) n Gardi o'i groen i'w galon. Nid) d) m yn credu y gwerth- fawrogir y 11) fr, nac, yn wir, y deallir ef gan bobl sy'n byw ) r cchr oeiaf i'r Mynydd Bach, na'r ocbr isaf i'r Teifi ond tu fewn i'r teifynau yna, bydd ) n drysor teuluaidd a'igjnwysar dafodau'r werin. Gresyn fod y goi)gydd wedi pl)gu'r glin i'r ddt lw Seis- nig trwy ollwng i mtwn ihyw ddrabiau di- sylwedd o Saesneg main, main. Buasai)n cda genym gael darlun o'r hen g)faill o Blaenplwyfa thipyn o'i hanes yn iaith eidad a'i fam. Ceir ) n y 11) fr banes a gweithiau pedwar o feirdd,-y ddau frawd John Jenkins (Cern- goch) a Joseph Jenkins (Amnon II), Parch. Jdm Davies (Hyvel) ceincer idd) ni, a Jen- kin Jerkins (Aercnian) mab Cerngocb. Tebjg iawn yw dawn y pedwar, ond hwyr- ach mai Ceingoch oedd y ffraethaf a'r Salluocaf o honynt. Tarawa dant yn fynych sydd ) n ein hadgoffa am iarddoniaeth Rob- ett Burns; ac y mae craffder a donioldeb Burns yn ei sylwadau ar helyntion gwladol a theuluol. Gwyddai Cerngoch sut i bigo, heb lod)n gas a chreulon. Ceir engraifft ^da yn ei gan i'r Peirianau lladd gwair," er iddo ddatguddio nodweddion ac, owyrach, flaeleddau y perchenogion, ond \()()ld na ddarfu iddynt hwy chwerthin yn Uwch na neb uwch ben y gan. Mae John mor ffel a'r cadno Pan ddaw yr adladd iddo 'Rol gwerthu'r gwair yn ngha' PenloQ Yn mhell o'r cro'n gwnaeth shafo. Un Hendrelas yw'r nesa, Eleni caw'd e'gynta'; Daw'r peiriant hwn i dorri'n is Cyn diwedd mis Gorphena'. Glanwern sy'n hela'n greulon Ei beiriant dros rewynon I lawr a'r dasg bob dydd mewn pryd 'Tai'r g6rs i gyd yn jfflon. Mae peiriant yn y Pentre, Un araf ar ei siwrne Daw hwn i fyn'd dros fwy o dir Pan delo'i fishtir adre'. Y mae llawer o ryddiaeth yn nghaneucn Cerngoch; yr oedd yn brydydd hytrach nag yn fardd. Cyfansoddaiyn rhwydd a rhigil, ac, ) n ddiameu, y mae'r penillion a wnaeth bron yn fyrf) f) r, y n fwy gafaelgar na'i gy f- ansoddiadau celfyddjdcl. Yn ei ddoniol- deb a'i graffder, a rhvyddineb ei iaith, yr oedd gailu Cerngoch, ac nid ei ddawn barddonoL Yr oedd mwy o'r bardd yn Aerobian, ni gredwn, fel y dengys ei eglyn- ion i'r ffon a'i gan i Landdewi-brefi. Dyma'r penill olaf o'r gan: Llanddewi! pren o'th lethrau A roddodd icui gryd, A phren o'th goedydd fynwn Yn arch i'm cloi o'r byd Teleidion dy amgylchoedd A'm swyna lawr i'r bedd, Tawelwch pridd dy fynwent Tra yno foed dy hedd. Mae'r cyferbyniad yn y pedair llinell gyntaf ) n dra tharawiadol. Hyncdir beirdd gwaelod sir Aberteifi gan tu ffraethirub, eu ciaffdtr, a'u gallu i ddtfn- yddJO iaith lwycd, tim*>th ac y mae'r un ncdweddion i'w gweled )n ngv. eithiau Cern- gcch a'i berth)nasau. Hoffent wtithio can mt wn iaith rhigH, esmw) th, g) da gwythien o ddonioldeb yn rhedeg trwyddi, ac ar y diwedd tynant ioeswers yn glo ar y cyfan. Dyna welir yn marddoniaeth Siencyn Thcmas a lean biencyn, Evan Tomes Rhys aRb) s Jones, a Dafycd Llwyd. Nid ydynt b)th Y n thedeg ) n uchel y mae rhyw fath o s)nw)r cyffredin (s>nwyr, feallai, a ellir hebgor mewn bardc) yn eu cadw yn agos iawn i'r ddaear. Medrai Cerngoch nyddu can dèa ar des- t)nau C) ffredin, fel y dengys ei gerddi hela; ond nid cedd yn ei elfen pan yn trin pync- iau difrifol. Hwyrach mai'r darn mwyaf miniog a galluog yn y llyfr yw englynion Amnon i geidwad y ddor yn nghapel Coleg Dewi Sant. Gwnaed hwynt yn ei ieuenctj d, a phe b) ddai wedi jmroddr i farddoniaeth o'r pryd hy ny ) n mlaen, hwyrach y safai o'i ben a'i ) £ gw> ddau yn uwch na Cerngoch, ond nid oes dim neillduol yn ei bethau ereill. Y mae'r llyfr yn rhad iawn, wedi ei ddwyn allan yn brydferth a'i argraffu yn dda, ac yn glod i'r ddau olyg) dd ac i wasg Llanbedr. [''Cerddi Cerngoch g>da Detholion o waith Amnon II, Hywel ac Aeronian, dan olygiaeth Dan Jenkins ac Ap Ceredigion. Llanbedr: Cwmm rWasg EglwysigGymreig.] CYMRU. Adgofion a hanes yw prif gyn- wjs rhifyn Gorphenaf o'r misolyn hwn ac mae'r amrywiol ysgrifau yn ddyddorol iawn. Dechieuir hanes Ymneillduaeth Caer mewn ysgrif gynhwysfawr, ond byddai cael hanes rhai o'r hen bobl y sonir am danynt yn ychwanegiad at werth yr ysgrif. Edrydd Index adgofion doniol am Gefncoed Cymmer; a byddai cael ambell i ysgrif fel hyn ) n ami oddiwrtho yn sicr o fod yn dderbyniol gan ei gyfeillion yn yr hen wlad. Dechreua'r rhifyn hwn ar y 27ain cyfrol o'r cylchgrawn Cymreig hwn. GWAITH BEN BOWEN. Mae'r gyfrol addaw- edig o waith barddonol y diweddar fardd ieuanc, Ben Bowen, ar gael ei chyhoeddi, a bydd yn y farchnad cyn diwedd yr haf. "PUBLIC LIBRARY JOURNAL." Y mae y cylchgrawn chwarterol hwn yn dderbyniol bob amser, am y rhydd restr gampus o lyfrau Cymreig y cyfnod, y rhai fel rheol a sicrheir at gasgliad rhagorol Caerdydd. Yn ei hadran Gymreig, rhaid dyweyd fod Llyfr- gell Caerdydd yn gwella yn fawr iawn.

Advertising