Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HIGH-CLASS PIANOS. John Strong & Sons, Ltd., 118, EUSTON ROAD, LONDON, MANUFACTURERS OF HIGH-CLASS PIANOS ONLY. Our Instruments have gained the DIPLOMA OF HONOUR AND FIRST DEGREE OF MERIT In open competition with the leading makers' English and Continental. ALL PIANOS AT LOWEST CASH PRICES, OR ON EASY TERMS TO SUIT PURCHASERS. or Good Second-hand Pianos by the best Makers always in Stock. A Large Assortment to select from. Highest Testimonials from the leading artistes. Mr. MADOC DAVIE", A.R.C.M. & L.C.M., writes:- "I like your Pianos very much. They have a beautiful tone, crisp touch, and in every way high- class instruments." CALL AND INSPECT OUR STOCK. John Strong & Sons, Ltd., 118, EUSTON ROAD, N.W. MISS JENNIE JONES, A.R.C.M., TEACHER OF PIANOFORTE, HARMONY, AND THEORY OF MUSIC. ALSO ACCOMPANIST FOR CONCERTS, EISTEDDFODAU, etc. ADDRESS— 168, NEW KENT ROAD, LONDON, S.E. Mr. TOM MORGAN Gold Medallist National Eisteddfod of Wales Late Solo Cornet H.M. Coldstream Guards Band). CORNET SOLOIST FOR CONCERTS TRUMPET SOLOIST FOR ORATORIOS ADJUDICATOR FOR BAND AND INSTRUMENTAL COMPETITIONS. Address- '91ai SILVERTHORNE ROAD, CLAPHAM, S.W MR. MADOG DAVIES, A.R.C.M. TEACHER OF SINGING AT THE LONDON COLLEGE OF MUSIC, GIVES LESSONS IN Voice Production and Solo Singing ADDRESS— 156, PRINCE OF WALES ROAD, HAVERSTOCK HILL. PEDR ALAW, Mus. Bac. Beirniad Cerddoroi ac Arweinydd Cymanfaoedd. CYFEIRIAD— HALDON HOUSE, POPPLETON ROAD, LEYTONSTONE.
rBUd i Gan.
r BUd i Gan. P'LE MAE'R CORAU CYMREIG ? Yn ol pob argoelion, Eisteddfod y Sais fydd Eistedd- fod Rhyl, yn enwedig yn yr adran gorawl. Yn y brif gystadleuaeth gorawl, fel yn ngornest y corau meibion, y mae mwy o gorau Seisnig i ymddangos nag o gorau Cymreig. Nid yw hyn yn arwydd er daioni, ac mae'n eglur fod y don Seisnigaidd yn dechreu dylanwadu ar ganiadaeth yn yr Hen Wlad, ac fod y pwyllgorau a geir ynglyn a'r Wyl Genedlaethol o'r diwedd wedi cyraedd eu hamcanion trwy ddenu y fath nifer o ddieitbriaid i hen 'Steddfod y Cymry." Ond a wna'r dylifiad Seisnig yma wella cerddoriaeth yn Nghymru sydd bwnc am- heus. Yr hyn ddylem ni amcanu ato ydyw gwella a chefnogi ein talentau lleol, ac os yw y rhai'n i gydymgeisio a phob dosbarth, y mae'n anhawdd meddwl y gall y gwladwr cyffredin byth guro'r canwr trefol lie y mae y manteision mor lliosog a'r athrawon goreu at wasanaeth yr efrydydd cyffredin. Mae'n burion peth i ni gael cydymgais rhyngwlad- wriaethol yn awr ac yn y man; ond fe wyddom ddigon erbyn heddyw i ddeall nad yw addysg gerddorol yr hyn ddylai fod yn Nghymru, ac er mwyn codi y safon, dylai'r Eisteddfod wneyd ei goreu er tynu allan y Cymry o bob rhan o'r wlad. Ond, fel y mae heddyw, ofnwn mai maes i'r proffeswr ac nid i'r efrydydd yw llwyfany 'Steddfod. CANEUON CYMJREIG. Cwyna rhai o'n har- weinwyr cenedlaethol nad oes genym fawr ddim o anthemau na chaneuon Cymreig adrlas i'w canu mewn cylchwyliau a chyfar- fodydd mawr y genedl. Yn wir, y mae wedi mynd yn arferiad gan lawer o'n unawdwyr i ganu solos Seisnig mewn oedfeuon cref- yddol Cymreig, ac y mae cael hyny ar ol pregeth nerthol, yn ami, yn ddigon i beri i ni anghofio cenhadaeth y pregethwr o ddigter tuagat chwaeth y cantor yn dewis rhyw gan Seisnig ail-raddol i boenydio y gynulleidfa a hi. Ond ai ty bed fod hyn yn wir, nad oes genym alawon na chaneuon addas i'n cynulliadau ? Dylai ein cyfan- soddwyr ateb y pwnc drwy ddwyn eu gwa- hanol weithiau i sylw y cyhoedd. AWDWR A CHYHOEDDWR. Un o'n diffygion yn myd gan yw'r dull sydd genym oledaenu ein cynyrchion cerddorol. A barnu oddiwrth yr engreifftiau Cymreig, rhaid dyweyd mai gwr afler ei ddawn masnachol yw'r cantor. Myn pob cyfansoddwr fod yn fath o gy- hoeddwr bach iddo ei hun, a'r canlyniad yw, nas dygir ei weithiau ond anaml o flaen y cyhoedd. Pe cadwai y cyfansoddwr at y grefft o gyfansoddi yn unig a gadael y cy- hoeddi i ddwylaw medrus rhai o'n masnach- dai goreu, byddai y gwerthiant yn well, a'r gwaith o well safon hefyd. Pob un at ei grefft ddylai fod. Mae'r cerddor Cymreig wedi wedi andwyo'i fanteision lawer tro trwy geisio bod yn gyhoeddwr i'w weithiau bach ei hun. F.R.C.O. Yn mysg y rhai diweddaf i enill y llythrenau hyn gwelwn enw Mr. J. Charles Mc'Lean o Borthmadog. Gwyddom ni yn y ddinas yma am Mr. Mc'Llean oherwydd pan yr oedd yn ein mysg am dymor o efrydiaeth cymerai ran yn ein cyngherddau Cymreig fel offerynwr yn ami. Yr oedd eisoes wedi enill ami i lawryf yn yr Wyl Genedlaethol; ac mae ei weled yn cipio y gradd blaenaf y gall Coleg Brenhinol yr Organwyr roddi iddo, yn haeddu gair o sylw. Cynhelir eisteddfod fawr y Deheudir yn Aberdar ddydd Mawrth nesaf pryd y dis- gwylir cynulliad enfawr. Y mae deg o gorau wedi anfon eu henwau i fewn i gystadleuaeth y cor meibion, a chan y cynygir gwobr o gan gini i'r goreu bydd yn ornest galed.
" A Gair Duw yn Uchafm
A Gair Duw yn Uchafm DADBLYGU'R YSGOL SABOTHOL. CYFARFOD ARBENIG. Cynhaliwyd cyfarfod arbenig yn addoldy y Bedyddwyr ("Moorfields ") Little Alie-st., Commercial-rd., E., y Saboth diweddaf i'r amcan o eangu defnyddioldeb yr Ysgol Sul drwy sefydlu Dosbarth Beiblaidd ar gyfer gwyr ieuainc Cymreig yn y brifddinas, llawer o ba rai na fynychant un gwasanaeth o'r fath ar hyn o bryd. Yn y cyfarfodydd hyn a gynhelir bob prydaawn Saboth—y cyntaf o ba rai oedd hwn-darllenir papyrau yn ym- drin a phynciau duwinyddol gan lenorion abnabyddus fel Mri. William Jones, A.S., Goronwy Owen, B.A., Winton Evans, Tudor Rhys, Arthur Griffith, B. T. Price, Cadfan- ydd, Bodval, D. Williams, Thomas Barker, D. J. Truscott ac amryw ereill. Canlynir darlleniad pob papyr gan rydd-ymddiddan a rhoddir y gwaboddiad cynesaf i wyr ieu- ainc na fynychant unrhyw Ysgol Sabothol i ymuno. Llanwyd y gadair gan Mr. R. O. Davies, Y.H., a chynorthwyid ef gan y Parchn. R. Ellis Williams, B. Arberth Evans, Mri. John Hinds, Henry Morgan, Daniel Richards, a Thomas Barker. Daeth cynulliad da ynghyd. Lluddiwyd Mr. D. Lloyd-George, A.S., i fod yn bresenol, ac ar gais y cadeirydd pen- derfynwyd anfon dymuniadau da a llongyf- archiadau y cyfarfod iddo ar ei lafur yn y Senedd dros addysg grefyddol Cymru. Wrth agor yr ymddiddan rhoddai Mr. John Hinds bwys ar feithrin y cof pan yn ieuanc cyn i drafferthion bywyd ddyfod i bwyso ar eu hysgwyddau. Gobeithiai y byddai iddynt draethu eu barn yn eofn a meddwl y pynciau allan drostynt eu hunain nes dod yn ddynion o ryw werth, a dyben i'w bywyd. Yr oedd yn angenrheidiol Ilafurio a chwilio cyn y cyfarfod ac nid siarad yn ddifyfyr. Dechreuid eyfnod newydd yn hanes yr eg- lwys yn y lie yn y cyfarfod hwn, a dymunai iddynt lwyddiant arbenig. Yna cafwyd papyr cryno a sylweddol gan Mr. Evan Rees ar Efrydiaeth o'r Beibl." Honai un uchel-eglwyswr yn ddiweddar fod y dosbarth isaf yn gwybod mwy am y Beibl na'r dosbarth uchaf o gymdeithas. Pa beth bynag am y Saeson nid oedd hyn yn wir am y Cymry. khaid oedd canol-bwyntio y meddwl ar y pwnc dan sylw, llafurio a dyfal- barhau. Yr oedd y Beibl yn taflu goleuni ar bwnc y dydd yn mhob oes; ac ni ellid adeiladu y meddwl mwy nag y gellid adeil- edu teml gyda sothach. Dylid astudio y Beibl yn ngoleuni ei iaith a'i ddullwedd. Yr oedd esgeuluso hyn wedi bod yn achos o lawer cyfeiliornad. Arferid ffurfio barn yn gyntaf ac yna eid i'r Beibl i geisio profi'r farn. Dylid ei astudio yn ngoleu hanesiaeth. Priodol oedd astudio y gronyn ar y traeth yn ei berthynas a'r gronynau ereill, ond dylid hefyd ystyried ei berthynas a'r traeth enfawr o'i amgylch. Dylid astudio'r Beibl yn ngol- euni deddf dadblygiad gwirionedd. Nid fod gwirionedd ei hun yn newid. Yr oedd gwir- ionedd mor hen a'r bryniau oesol ac mor ieuanc a'r baban; ond yr oedd yn newid ei ymddangosiad. Yn ddiweddaf fe ddylid ei astudio yn ngoleuni Person Crist—canol- bwynt pob gwirionedd. Addolai'r luddewon yr Ysgrythyrau fel llyfr. Yr oeddynt yn. canfod pobpeth ond y Crist oedd ganol- bwynt yr oesoedd. Mr. D. Williams, wrth egluro amcan y cwrdd, a ddywedodd fod yr Ysgol Sul yn colli tir. Yr oedd yn rhaid codi safon yr Ysgol Sul i gyfarfod a safon yr oes. Am- cenid at wrthwynebu syniadau cul. Cafwyd adroddiad dyddorol hefyd gan Mr. Isaac Jones; a chaneuon swynol gan Miss Annie Thomas a Mr. Riddle, a Mr. John Evans yn cyfeilio iddynt. Ceir many lion am y dosbaith gan Mr. J. Jones, 42a, Brook-st., Redcliffe-sq.