Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HIGH-CLASS PIANOS. John Strong & Sons, Ltd., 118, EUSTON ROAD, LONDON, MANUFACTURERS OF HIGH-CLASS PIANOS ONLY. Our Instruments have gained the DIPLOMA OF HONOUR AND FIRST DEGREE OF MERIT In open competition with the leading makers, English and Continental. ALL PIANOS AT LOWEST CASH PRICES, OR ON EASY TERMS TO SUIT PURCHASERS. MV Good Second-hand Pianos by the best Makers always in Stock. A Large Assortment to select from. Highest Testimonials from the leading artistes. Mr. MADOC DAVIES, A.R.C.M. & L.C.M., writes:- I like your Pianos very much. They have a beautiful tone, crisp touch, and in every way high- class instruments." CALL AND INSPECT OUR STOCK. John Strong & Sons, Ltd., 118, EUSTON ROAD, N.W. MISS JENNIE JONES, A.R.C.M., TEACHER OF PIANOFORTE, HARMONY, AND THEORY OF MUSIC. ALSO ACCOMPANIST FOR CONCERTS, EISTEDDFODAU, etc. ADDRESS- 168, NEW KENT ROAD, LONDON, 8.E. Mr. TOM MORGAN Gold Medallist National Eisteddfod of Wales Late Solo Cornet H.M. Coldstream Guards Band). CORNET SOLOIST FOR CONCERTS TRUMPET SOLOIST FOR ORATORIOS ADJUDICATOR FOR BAND AND INSTRUMENTAL COMPETITIONS. Address- 91a, SILVERTHORNE ROAD, CLAPHAM, S.W MR. MADOC DAVIE8, A.R.C.M. TEACHER OF SINGING AT THE LONDON COLLEGE OF MUSIC, GIVES LESSONS IN Voice Production and Solo Singing ADDRESS— 156, PRINCE OF WALES ROAD, HAVERSTOCK HILL. PEDR ALAW, Mus. Bac. Beirniad Cerddorol ac Arweinydd Cymanfaoedd. CYFEIRIAD- HALDON HOUSE, POPPLETON ROAD, LEYTONSTONE.
AotL' A--Bud u Ban. tJ
A ot L' A Bud u Ban. tJ MR. MERLIN DAVIES. Y mae'n llawenydd genym allu hysbysu am lwyddiant y tenor hwn yn y Coleg Cerddorol Brenhinol ddydd Mercher y 27ain o Fehefin. Efe ydoedd enillydd y wobr i denor, rhoddedig gan Gymdeithas Gerddorol ein dinas. Enillodd wobr hefyd yn yr un lie )n y gwanwyn. Brodor o dref enwog Caerfyrddin ydyw Mr. Davies, a chredwn ei fod ar y ffordd i enwogi ei hun a'l dref enedigol. Y mae Ilwyddiant plant gwlad y gan yn agos at galon y CELT fel at galon ei ddar- llenwyr. Yn yr amgylchiad presenol y mae y llawenydd yn fawr oherwydd gwyddom pa mor brin ydyw teulu y Tenoriaid, ac y mae ychw anegiad teilwng at ei rifedi yn beth eithriadol. Gobeithio y bydd i'n cenedl gofio am rcddi help Haw i'r tenor newydd hwn y mae eisieu cydnabyddiaeth o'r ddwy ochr. Nis gall hwn mwy nag arall fyw ar awelon ac adgofion melus am Gymru Ond odid na fydd prinder tenoriaid yn gymorth syl- weddol i Mr. Davies. ORGAN I'R TABERNACL. Deallwn fod y brodyr ynglyn ag eglwys y Tabernacl yn cael organ hardd fel ychwanegiad i'w capel, ac y bydd yr offeryn yn barod cyn diwedd y mis hwn. Dyma gam i'r iawn gyfeiriad, ac ar ol sicrhau y pregethwr goreu oedd gan y genedl i lanw pwlpud y lie hyderwny rhoddant eto gam cyffelyb ynglyn a'r adran gerddorol o'r gwasanaeth trwy sicrhau or- ganydd a fydd yn add urn i'n byd Cymreig yn mysg yr offerynwyr. Oddiar ymadawiad Mr. Treharne o Jewia rhaid addef nad yw eglwysi'r ddinas, ag eithrio Charing Cross, wedi cael neb yn rheng flaenaf y dosbarth hwn i ofalu am arweinyddiaeth y gan. L. TEIFY DAVIES. Da genym weled fod y beirniaid cerddorol yn rhoddi gair uchel o glod i Miss Davies wrth adolygu ei gwaith ynglyn a thymor operataidd Mr. Manners yn ystod y misoedd diweddaf. Ar hyn o bryd mae Miss Davies yn mwynhau o'i seibiant haeddianol yn nhawelwch y wlad, ond ni fydd hyn yn hir oherwydd y mae wedi pen- derfynu cadw yn mlaen gyda'r cwmni operat- aidd yma am ysbaid eto. Yr ydym wedi cael y mwynhad o'i chlywed yn ddiweddar yn cynorthwyo gwahanol achosion crefyddol y ddinas yma. Un noson yn Eglwys St. Benet rhoddodd yr hen gan swynol A welsoch chwi ef ?" gyda dylanwad anorch- fygol a noson arall yn nghenadaeth yr East End yr oedd yn llawn mor dderbyniol. COR MR. MERLIN MORGAN. Anfuddugol fu y cor hwn yn Nghaerfyrddin ddydd Llun -er i'r beirniaid ganrnol ei ansawdd, a dyweyd na chlywsant erioed well basses nag eiddo y cor hwn. Gresyn i'r donyddiaeth fod yn ddiffygiol ganddo. Safai'r corau fel a eanlvn:— Cor Manchester 18 Cor Rhymey 17 Cor Caerdydd 17 Cor Southport 16 Cor Cvmrv Llundain is Yn Abertawe yr oedd cor Llundain yn fwy llwyddianus, sef yn gydradd a Rhymney am yr ail wobr, a chor Caerdydd yn cipio'r wobr gyntaf. Ein llongyfarchiadau i Miss Thomas, Mor- ley Hall, yn enill ar yr unawd soprano yn Abertawe, ddydd Llun ac hefyd i Mr. Davies (aelod o gor Mr Merlin Morgan) am gipio'r wobr ar yr unawd tenor.
Manion Eis tcddfodoL
Manion Eis tcddfodoL Tywydd braf ac Eisteddfod oedd hanes Cymru dydd Llun diweddaf. Yr oedd gwen siriol gwyneb prydferth yr hen wlad dan dywyniad haul, llygaid goleuni, wedi cyn- h5 rfu ei phlant i godi i fyny a pharablu eu can o glod iddi. Yn Eisteddfod Pwllheli dacw Syr W. H. Preece yn tynu ei gap ac yn mysg olion beddau yr hen Geltiaid oeddynt wedi ym- ladd mor ddewr dros anibyniaeth, tystiai fod cenedl y Cymry wedi dadblygu, ochr yn ochr a'i chymydog Seisnig mewn gwareiddiad cyfoeth a gallu. Mewn addysg a chelf yr oedd Cymru wedi rhagori ar ei gorchfyg- wyr; ac yr oedd hyawdledd cerdd a chan wedi cartrefu rhwng ei bryniau prydferth. Yn mharc Tredegar, ehedai meddwl Ar- glwydd Tredegar yn ol i'r amser yr oedd ei henafydd Ifor Hael yn cynal Eisteddfod yn Mharc Cleppa, dan yr un haul a'i lygaid goleuni. Yn Gwernygleppa y bu nai Ifor Hael-Dafydd ap Gwilym-yn canu. Taniwyd ysbryd Mr. Howell J. Williams yn Eisteddfod Carno i amlygu yr hyn oedd yr Ymherodraeth Brydeinig yn ddyledus i Gymru a'r Eisteddfod: ni fuasai genym etif- eddiaeth mor odidog onibai y cenhedloedd Celtaidd, Ysgotaidd a Gwyddelig, ac yn ei farn ef, yr oedd dylanwad Cymru yn neill- duol o amlwg". Yn Nghaerfyrddin bu llwyddiant mawr ar ymuniad campau seiclo ac iach ddigrif- chwareuon ereill a chystadleuon yr Eistedd- fod. Y llywydd oedd Syr Lewis Morris. Y mae hanes yn dynwared ei hun ac yn dod a'r hen fabol-gampau a'r pedair chwareu-ar- hugain fu unwaith mor boblogaidd yn mysg ein henafiaid i fri eto. Cor o Fanceinion enillodd y brif wobr. 0 dan arweiniad arabaidd Dr Gomer Lewis a'i deyrnwialen esgobol, bu cystadleuaeth gorawl fywiog yn Abertawe am y wobr o gan' punt. Ar ol cael eu curo yn Nghaer- fyrddin gan gor o Fanceinion, aeth cor Caerdydd a chor Manceinion i ail-ymladd yn Abertawe, a'r tro hwn gorfu Caer- dydd. Yn Nghaerdydd cadeiriwyd gan Mr. D. T. Phillips, Cynghorydd yr Unol Dalaethau yn y dref hono, a chafwyd rhagorach cyn- ulliad na'r flwyddyn ddiweddaf. Cor o Nar- berth enillodd yn Tenby a chor o Drecynon yn Llanfairmuallt. Anhawdd gwybod pa le i gael "Joe." Addefodd, ychydig amser yn ol, ei fod wedi troi yn bagman i werthu nwyddau Ym- herodrol-yn mwthynod y gweithwyr mae'n debyg. Pa ryfedd ynte i'r dorf yn Eisteddfod Corwen, ddydd Llun, pan ddaeth un o'r corau cystadleuol ymlaen i ganu dan nawdd y gwir anrhydeddus Joseph Chamberlain ac y gwelwyd fod yr arweinydd yr un ffynud ei wynebpryd ag ef, waeddi: Joey." Ond nid 11 Joey oedd ef ac ni enillodd y wobr ychwaith. Cor o'r Rhos, a ganodd bron yn berffaith, gafodd yr anrhydedd. Ni faga torth fach na chryfder na meistrolaeth ysgyfaint. Yn y brif gvstadleuaeth gorawl rhowd y lie blaenaf i Ffestiniog a'r ail i Gaernarfon. Mr. E. H. Parry (arolygydd y mwnglodd- iau dan y Llywodraeth, Johannesburg), a lanwai y gadair yn nghyfarfod y boreu yn Eisteddfod Corwen, oherwydd anallu Mr. Ernest Rhys i fod yn bresenol a siaradai yn uchel am y teimlad cenedlaethol a fod- olai yn mysg Cymry Deheubarth Affrica tra yr esgeulusid y Gymraeg yn Nghymru.