Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
JlILK BUSINESSES. MORE BARGAINS H. Willings & Co Dairy Agents, .3.25, FLEET STREET, LONDON, E.G. Telephone -150 HOLBORN. Close PICCADILLY. tILK.—Well-fitted Shop, good House, Yard, Side Entrance, Rent moderate, nearly all let off, Long Lease, 17 Barns daily at 4d. on one Pram, Butter, Eggs, &c., 225 week; same hands over 20 years. £ 650, recommended by H. Willings & Co. CROYDON. MILK.—14 Barns daily, 200—300 Eggs weekly • good House, Stabling, Rent 8/6 week, 2 Prams, Price £70, bargain. Willings & Co., above. EALING, W. MILK.—8 Barns daily at 4d., Shop £10 week, good .ili- Shop, 4 Rooms, &c., Rent low, Long Lease, one Pram Round. Price R175 offer. Willings & Co. Near TOWN, S.W. MILK.-Close important junction, 9! Barns daily m at 4d. on one Pram, Shop taking £20 week, very convenient Premises at a low Rental; no book debts. 9250, genuine. NORTH LONDON. MILK.—40 Barns daily nearly all 4d. on 3 Prams -ut. good Premises, <6750. Offers wanted. Kent, 91 to 10 Barns daily at 4d., Cart, nice Shop and House, Price £90, bargain. Full particulars of H. Willings & Co.* 125, Fleet Street, London, E.C. Y Dyfodol. [Sir Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn ahoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1904. ——— Medi. „ 23. Walthamstow. Darlith gan Parch. H. Barow Williams, Llandudno. „ 29. Falmouth Road, Te a Chyngherdd Blynyddol. Hydref „ 23. Cyfarfod Pregethn Clapham Junction, Principal Owen Prys, M.A., Trefecoa, ac eraill. » 26. Cyngherdd Blynyddol Clapham Junction. Tachwedd » 3. Cyngherdd Mawr Eglwys Walham Green yn Fulham Town Hall. j, 14. St. Benet, Cyngherdd Blynyddol. „ 17. (Nos Iau), Cyfarfod Te Blynyddol Radnor Street, Chelsea. Hhagfyr „ 1. Eisteddfod Flynyddol, Town Hall, Hammersmith. 'Yn awr yn barod! CERDDI "CERNGOCH" Sef Casgliad o Weithiau JOHN JENKINS (Penbrynmawr, Talsarn), YN CYNWYS Cerddi Natur, Cerddi Coffa, Cerddi ,caru, Cerddi Cwrw, Cerddi Pendrws, a Manion, DAN OLYGXABTH II, AP CEREDIGION" A DAN JENKINS cyfrol HARDD, GYDAG YMYLAU GOREUR- EDIG, 314 TUDALEN AR BAPUR DA, 14 0 DDARLUNIAU. PRIS 3/- (I DANYSGRIFWYR 2/6), GYDA'R POST 4c. YN RHAGOR. Y Gyfrol rataf a harddaf o unrhyw Wasg yn Nghymru. I'w gael yn SWYDDFA'R CELT, 211, GRAY'S INN ROAD, LLUNDAIN.
GWEINIDOG YN YMADAEL.
GWEINIDOG YN YMADAEL. Y mae'r Parch. R. Ellis Williams, gwein- idog poblogaidd eglwys Fedyddiedig Castle Street, wedi derbyn galwad odliwrth eglwys Burry Port a Pembrey, sir Gaerfyrddin, i fyned i'w bugeilio, a bwriada ymsefydlu yno tua dechreu mis H vdref. Hysbysodd hyn i'w gynulleidfa yn Castle Street y noson o'r blaen a daeth y newydd gyda sydynrwydd a syndod ar bawb o'r gwrandawyr gan nad oedd neb wedi clywed fod un o'r eglwysi Cymreig yn yr hen wlad a'i llygaid ar fugail parch us yr eglwys lios- ocaf gan yr enwad yn Llundain; a theimlid chwithdod cyffredinol wrth ddeall ei fod wedi penderfynu gwneyd y newidiad hwn er mwyn cael ychydig o dawelwch ar ol ei dymor maith a llafurfawr yn Llundain. Er's pymtheng mlynedd, bellach, y mae Mr. Williams wedi bod yn arweinydd yr enwad Fedyddiedig yn y brifddinas, a'r eglwys yn Castle Street wedi llwyddo yn fawr o dan ei weinidogaeth. Nid maes hawdd fu ganddo i weithio ynddo, oherwydd addefir yn gyffredinoi mai treth ar gorph ac ymenydd gweinidog yw arosiad hir yn mysg cynulleidfaoedd cyfnewidiol y ddinas yma. Er hyny, gallodd Mr Williams ddal y prawf yn gampus, ac addefir yn gyffredinol ei fod yn un o'r efrydwyr caletaf yn ei enwad yn ogystal ag yn un o'r pregethwyr coethaf yn eu mysg. Bydd ei golli o Lundain yn chwith ganlu mawr o gyfeillion, a sicr yw y symuda i Gymru gyda dymuniadau goreu ei edmyg- wyr yn y ddinas yma; a diau pan y caitf fwy o amser i ymgydnabyddu a'i frodyr yn yr hen wlad, y rhoddir iddo yn fuan bob anrhydedd ag y gall ei enwad osod amo. Rhoddir y manylion am adeg ei ymadawiad yn ein rhifynau dyfodol.
GWOBRA U Y "CELT."
GWOBRA U Y "CELT." HANER-GORON AM DDIMEU. Rhydd y Gol. haner-coron bob wythnos am y cerdyn post a gynwys yr hanesyn Cymreig goreu, addas i golofn Oddeutu'r Ddinas." Rhaid ilr cardiau ddod i law erbyn bareu dydd Mercher yn yr wythnos, ac enw a chyfeiriad yr anfonydd ar bob un. Cyfeirier y cardiau: Gol. Oddeutu'r Ddinas," 211, Gray's Inn Road, W.C. ADGOFION Y GWYLIAU.—GWOBR. Erbyn diwedd mis Awst bydd y nifer liosocaf o wyr y CELT wedi bod ar eu gwyliau yn Nghymru. Er mwyn sicrhau rhai o'u hadgofion am y gwyliau, ac enyn ynddynt ddyddordeb yn y lleoedd a fynychir ganddynt, rhoir gwobr o haner gini am yr ysgrif oreu ()I Adgofion am Wyliau Haf 1904. Dylai'r ysgrif fod o fewn tua dwy golofn o'r CELT ac yn ddesgrifiadol o'r lie neu'r lleoedd a ymwelwyd it hwy, ynghyd a hanes digwyddiadau 0 ddyddordeb i Gymry Llundain. Er mwyn rhoddi mantais i'r cystadleuwyr, cania- teir hyd y 10fed o Fedi i anfon yr ysgrifau i fewn, Noder ar yr amlen "Adgofion," a chyfeirier hwynt i OL y CELT, 211, Gray's Inn Road, W.C.
PEN TYMHOR Y SENEDD.
PEN TYMHOR Y SENEDD. Golwg dorcalonus oedd ar Mr. Balfour, ddydd Mawrth, yn canu ffarwel i'r fath nifer o addewidion. Ar ddechreu y tymor fe osododd restr hirfaith o fesurau ger bron yr aelodau, a chyhoeddai y deuai y cyfan ar ddeddflyfrau ein gwlad cyn cau y drysau am wyliau yr haf. Oar, fel ei siomwyd O'r holl nifer nis gellir dyweyd iddynt basio ond un o unrhyw bwys, sef mesur er gwaddoli y tafarnwr 0 ddinyg amser, ebai'r Prif- weinidog, rhaid oedd gasjd tua dau ddwsin o honynt o'r neilldu, ac felly y bu. Canlyn- iad y cyfan yw na chaed erioed y fath dymor diffrwyth a'r tymor Seneddol presenol. Gydag eithrio o waddoli'r bragwyr a bygwth y Cynghorau Sirol Cymreig, nis ceir fod unrhyw fesur a elwir o un gwerth-hyd yn oed gan y Toriaid eu hunain-wedi ei osod ar ddeddflyfrau y wlad yn ystod y chwe' mis diwedlaf hyn. Yn sicr, ni oddef- asid y fath ddiffrwythder gwallgofus a hyn pe bae llywodraeth Ryddfrydig mewn aw- durdod, a phaham y rhaid i ninau ei dioddef yn awr ?
OOLOFN GOFFA JAMES HUGHES.
OOLOFN GOFFA JAMES HUGHES. Yn nghynulliad diweddaf Cyfarfod Misol Llundain buwyd yn ymdrin a'r mater o osod beddfaen newydd ar orweddfan Iago Tri- chrug yn nghladdf a henafol Bunhill Fields, Cyflwynwyd cynlluniau o'r golofn fwriad- edig gan y gwneuthur wyr, a hysbyswyd y byddai'r gost tua ^50. Y mae cyfaill eisoes wedi addaw rhoddi deg punt os ceir y deu- gain ereill o hyn i'r Pasg nesaf. Gwneir casgliad arbenig at y golofn yn y capelau Methodistaidd, a hyderir y gellir sicrhau yr hen feddfaen i'w osod mewn lie amlwg ar fur capel Jewin. Byddai hyn yn ddoeth, ond pa angen sydd am wneyd y golofn yn beth mor Gyfundebol. Mae Cymry Llundain oil yn teimlo dyddordeb yn y mud- iad, ac mae meddwl nas gellir cael dim cyn- orthwy at golofn o'r natur yma ond oddiwrth Fethodist yn sarhad ar deyrngarwch pobl Llundain at fudiadau cenedlaethol. Gwir mai pregethwr Methodist oedd y Parch. James Hughes, ond y mae ei enw a'i lyfrau wedi dod yn anwj gan bobenwader's blyn- yddau lawer; a doeth y gwnai y Cyfarfod Misol i osod y fath fudiad a h wn yn fudiad cyffredinol i holl Gymry'r ddinas.
HYN A'R LLALL.
HYN A'R LLALL. Mae Prifysgol Rhydychen wedi anrhyd- eddu Dr. Griffiths a'r gradd o Ddoctor mewn Gwyddoniaeth. Gwr o Abertawe ydyw y doctor, ac y mae wedi gwneyd gorchestion lawer. Bydd yn dda gan Gymry yn mhob man weled fod un o brif sefydliadau addysgol y byd wedi anrhydeddu Cymro trwyadl. Dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf, agorwyd nodachfa dair-sirol rwysgfawr yn Nghaerfyrddin er ffurfio trysorfa i godi iech- ydfa i'r darfodedigaeth ger Llanybyther. Bwriada y Pabyddion wneyd cartref i urdd o fynachod a mynachesau yn Mhwllheli, a disgwylir Due o Norfolk i agor y sefydliad. Y mae yr Ysgrifenydd Rhyfel yn amcan- gyfrif y cyst gorfodaeth milwrol, pe deuai yn ddeddf y wlad hon, ^25,900,000. Cyn hir fe fydd yn rhaid trethu y Llywodraeth er mwyn y deiliad os parha y trethi i gyn- yddu fel y gwnant yn awr; o achos ni fydd gan neb arall arian. Yn unol ag awgrymiadadau Syr Norman Lockyer bwriedir ffurfio cymdeithas er lledaenu arddull gwyddoniaeth o feddwl trwy yr holl Ymherodraeth. Gwae y bardd a'r breuddwydiwr pan ddaw y dyn pwys a mesur ar ei draws. Y mae nith y diweddar John Bright wedi dod, trwy ewyllys ei gwr, yn un o ferched cyfoethocaf y deyrnas, ac yn werth miliwn o bunau. I'r da y daw daioni. Ffromai Dr. Edwards, Cemmaes, pan yn cadeirio yn nghyfarfon y nos yn Eisteddfod Carno, Gwyl y Banc, fod urddas cadeirydd wedi ei ddarostwng. Tra y condemnid cardota gan y byd, nid oedd ar y cyfun- debau crefyddol gywilydd yn y byd i gar- dota, ac unig werth cadeirydd ydoedd fod ganddo arian yn ei logell.