Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

GWEINIDOG YN YMADAEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWEINIDOG YN YMADAEL. Y mae'r Parch. R. Ellis Williams, gwein- idog poblogaidd eglwys Fedyddiedig Castle Street, wedi derbyn galwad odliwrth eglwys Burry Port a Pembrey, sir Gaerfyrddin, i fyned i'w bugeilio, a bwriada ymsefydlu yno tua dechreu mis H vdref. Hysbysodd hyn i'w gynulleidfa yn Castle Street y noson o'r blaen a daeth y newydd gyda sydynrwydd a syndod ar bawb o'r gwrandawyr gan nad oedd neb wedi clywed fod un o'r eglwysi Cymreig yn yr hen wlad a'i llygaid ar fugail parch us yr eglwys lios- ocaf gan yr enwad yn Llundain; a theimlid chwithdod cyffredinol wrth ddeall ei fod wedi penderfynu gwneyd y newidiad hwn er mwyn cael ychydig o dawelwch ar ol ei dymor maith a llafurfawr yn Llundain. Er's pymtheng mlynedd, bellach, y mae Mr. Williams wedi bod yn arweinydd yr enwad Fedyddiedig yn y brifddinas, a'r eglwys yn Castle Street wedi llwyddo yn fawr o dan ei weinidogaeth. Nid maes hawdd fu ganddo i weithio ynddo, oherwydd addefir yn gyffredinoi mai treth ar gorph ac ymenydd gweinidog yw arosiad hir yn mysg cynulleidfaoedd cyfnewidiol y ddinas yma. Er hyny, gallodd Mr Williams ddal y prawf yn gampus, ac addefir yn gyffredinol ei fod yn un o'r efrydwyr caletaf yn ei enwad yn ogystal ag yn un o'r pregethwyr coethaf yn eu mysg. Bydd ei golli o Lundain yn chwith ganlu mawr o gyfeillion, a sicr yw y symuda i Gymru gyda dymuniadau goreu ei edmyg- wyr yn y ddinas yma; a diau pan y caitf fwy o amser i ymgydnabyddu a'i frodyr yn yr hen wlad, y rhoddir iddo yn fuan bob anrhydedd ag y gall ei enwad osod amo. Rhoddir y manylion am adeg ei ymadawiad yn ein rhifynau dyfodol.

GWOBRA U Y "CELT."

PEN TYMHOR Y SENEDD.

OOLOFN GOFFA JAMES HUGHES.

HYN A'R LLALL.