Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Jones y Rheol Euraidd. I

.Bywyd Cenedl.

8 wrdd yf Oelf. P

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

8 wrdd yf Oelf. P Gyda phryder yr agorodd y Macwy ddor yr ystafell- olygyddol yr wythnos bon. Yr oedd y fath dorf en- fawr o'r tuallan yn disgwyl ei agoriad, fel y credai efe fod rhyw gynhwrf mawr i fod; a chofiai yn dda am helynt nos Wener yn y Ty, a'r wedd fygythiol oedd ar Mabon ac Alfred Davies pan gyhoeddwyd eu, bod i gael eu taflu tros y trothwy Yn blaenori yr haid hyn, hefyd, yr oedd amryw o'r A.S.-od, a phan gawsant ollyngdod i mewn, deallodd y Gol. ar unwaith mai eu nheges ydoedd ei longyfarch ef ar ei waith yn helaethu'r papyr. Ond cyn i'r Gol. gael amser i ddiolch iddynt ani, eu geiriau caredig, wele Bob Jones yn arllwys niter o englynion o'i god i'r Bwrdd, a dyna'r Macwy yw darllen y cyntaf fel hyn — CYNGOR I'R CYFOETHOG. Agor dy drysor, dod ran-trwy gallwedd Tra gellych i'r truan, Gwell ryw awr golli'r arian Na chau'r god a nychu'r gwan. Ieuan Brydydd Hir. 'Roedd y Prydydd Hir yn ddigon byr ei eirlau yn y genhadaeth bwysig hon, ond mae'r wers yn y pedair llinell mor fyw heddyw ag erioed, a ohymaint c angen ei dysgu ar ddechreu yr ugeinfed ganrif ag: mewn unrhyw oes yn hanes y byd. Son am y Prydydd Hir"ebai'r Llinos, "y mae genyf gof fod englyn tlws i'r eiddo ef yn mynwent ty ardal enedigol." Oes, oes trawai Bob i fewn, yr hwn sydd a phob englyn ar flaenai ei fysedd, dyma fe, ac 'rwyf yn er, gofio yn ctda Caeth yw llywodraeth Lledrod-mewn daear Mae'n dewis ein gosod Codwn trwy Dduw o'n ceudod Bawb yn rhydd un dydd sy'n dod.' < Dyna ddigon torai Bardd yr Offis i fewn. Peid-- iwch son am gladdu a beddergryff pan y mae'r CELT yn mynd i ddechreu byw. Fe gewch ddigon o i ddwyn pethau o'r ansawdd yna i fewn pan yn claddu gelynion y papyr ac yn rhoi ffarwel i'r edlychod hyny