Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

.GWOBRAU Y "CELT."

Advertising

8 wrdd yf Oelf. P

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-ma welant ddim mewn unrhyw fudiad a geisia lesoli sin gwlad a'n pobl. T. G. Davies. Cewch air yn gyfrinachol. Nid lie Y CELT yw ymdrin & mater personol fel sydd genych chwi. Papyr glan yw'r CELT i fod. Bob Jones. Diolch am eich sypyn, a cha'nt le yn eu tro. Er y gosodir amryw golofnau o Saesneg yn y CELT ar ol ei helaethu, bydd mwy o sylw nag o'r blaen yn cael ei roddi i hen lenyddiaeth ein oenedl hefyd. Dewch eto ar eich tro. E. G. Williams. Croesaw gyfaill. Caiff eich geiriau draethu eu cenhadaeth fel y gwelwch. Ellen Williams (Castle Street). Diolch am y nodyn ac mae teulu'r Bwrdd yn cydymdeimlo a chwi oher- wydd gwaeledd eich anwyl fam. Hyderwn y bydd Wedi llwyr wella cyn y daw y papyr hwn i'ch Haw. Eifionydd. Llawen oedd gan y Maowy gael y gwa- hoddiad, a bydd ef ac ereill 0 wyr mawr y ddinas yn y Rhyl. T. E. Morris, Ll.B. Blin genym nas gallwn dder- byn eich gwahoddiad i ddod i wlad y Gardis am dro gyda'r Hynafiaethwyr Oymreig. Gobeithio y oewch Jbin hyfryd, ac yna bydd i chwi wyr y North weled "Ceredigion yn ei gogoniant. Llinos Wyre. Yr oedd gweled eich dagrau edifeiriol yn ddigon i doddi calon Bardd yr Offis, a rhoddwyd ile gan hyny i'r emynau. Y BARDD HANER-CORONG. Cyn terfynu gwaith y dydd hysbysodd y Gol. fod awdwr y penillion ar y "Cymro Llundeinig ar ei wyliau wedi dod yn ol o'r wlad, a chan fod angen y pres arno yr oedd wedi presenoli ei hun yn y fflwrdd. Ffurfiwyd oyloh Gorseddol ar fyrder, a chan fod y Macwy wedi anghofio ei gleddyf bu raid iddo ddefn- yddio rule un o hogiau'r offis, a gwnaeth Bardd yr Offis wain bapur iddi er mwyn i bobeth fod yn rheol- aidd ao yn unol â gofynion defodol yr Orsedd. Yna, wedi cael trefn, galwyd ar y catrcharor, ac wele hwnw yn codi yn llawen gan hysbysu mai ei enw priodol ydoedd,- MR. D. LEWIS DAVIES, 28, Hastings Street, King's Cross, yr hyn o'i ddeongli yn iaith y beirdd yw, Rosser- onian." Cafodd y brawdd ieuanc, Rosseronian ei alw i an- rhydedd yr Urdd Haner-coronog a chan ei longyf- arch ar y fuddugoliaeth, ebe'r Gol., Dos ac na jpbecha mwyach." Ar hyn terfynwyd y cwrdd.