Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

.Cystadleuaeth.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cystadleuaeth. Ar ol enill y brif wobr yn Eisteddfod Llanelli, dan arweiniad Mr. Harry Evans, y mae y Merthyr and Dowlais Philharmonic Society wedi penderfynu na wnant gystadlu mwy. Ysgrifena Mr. D. Firangcon Davies lythyr i'w cymeradwyo, yn mha un y dywed fod llifeiriant cystadleuaeth yn chwalu ac yn rhwygo galluoedd cerddorol Cymru. Cy- hudda y newyddiaduron yr Eisteddfodwyr yn Abertawe ar wyl y Banc o fod wedi ymddwyn fel hooligans. Amddiffyna yr Athraw Randeggar y Cymry yn erbyn y cyhuddiad, a dengys mai nid hooligans eithr hwyl-igans oedd yno. Modd bynag, nid oedd llawer o felodedd yn y crochwaeddi. Paham h) ny tybed ? Paham y mae dyn mewn natur ddrwg yn rhoi allan swn eras aflafar ? Gwrandewch ar y bechgyn sydd yn gwerthu eu nwyddau ar hyd yr heolydd: y maent yn gwaeddi, ond y mae yna gwrs o felodedd yn eu swn. Gwrandewch o'r ochr arall ar y bookie yn ceisio cynllwyno y di- niwed a'r gwirion i'w faglau ar faes y rhed- egfeydd; mor aflafar yw ei dwrw. Y mae y naill fel y llall ) n dangos perthynas ei galon a'i gyd-ddynion. Ond am anghydseiniau aflafar eras a chas nis gall neb yn sicr fod yn waeth na phlant Mammon o ddeutu y Stock Exchange pan y mae chwant arian yn cynddeiriogi ynddynt. Beth, yn wir, yw melodedd, beth yw swyn can? Ai nid yr un peth a phrydferthwch blodeuyn ? A beth yw hyny ond cydbwysedd y rhanau a'r cyfan. Y mae y rhosyn yn ddernyn bychan o'r greadigaeth, yn mha un y mae deddfau y byd mawr tuallan wedi dod i gydgord ynddo. Y mae yn ddernyn o ddeddf, o foesoldeb. Nid oes ofn na braw arno, nid yw yn rhuthro nac yn crynu. Cymer ei le yn naturiol yn mysg yr aneirif fodau o'i amgylch. Llwfrdra a gwendid mewn dyn sydd yn ei wneyd yn rheibus am arian. Flynyddau yn ol, pan fyddai diffyg ar yr haul, byddai'r bobl yn crynu ac yn dychrynu, ond eisteddai y seryddwr yn dawel a di- gyffro yn ei ystafell am ei fod yn deall deddfau y greadigaeth. Rhuthra a dych- ryna y bobl heddyw yn eu gwanc am flyf- oeth. Nid oes ganddynt flydd yn neddfau y greadigaeth. Nid ydynt yn gweled mai yr un ddeddf ag sydd yn bwydo y rhosyn sydd yn rhoddi bara beun- yddiol i ddyn. Yn eu hofn a'u gwendid, yn y gwagedd o geisio ymddangos yr hyn nad ydynt, meddyliant fod balance yn y banc yn noddfa iddynt. Ond lie mae ofn mae pyd- redd neu anghydsain. Ar yr un pryd, nid byd haiarn, disymud yw hwn; nid delw farw o berffeithrwydd. Y mae yr holl ronynau sydd yn cyfansoddi y rhosyn mewn cydymgais a'u gilydd. Nid drygioni yw cystadleuaeth. Y mae'n achosi bywiogrwydd iachus. Ond, er hyny, y mae yn erwin fel y gauaf ac yn lladd y gwan a'r llwfr. Er canu yn dda y mae gotyn am am- ynedd, pwyll, a repose. Anhawdd yn wyneb cystadleuaeth chwyrn yw dal at yr hunan- reolaeth yma. Ond os gellir, yn sicr, fe geir gwell canu. Cymeriad cadarn yw un o el- ienau pwysicaf celf. Y mae yna yn barod swyn a melodedd yn nghanu Cymru, ac os y deuant trwy brawf llym cystadleuaeth fe ddaw nerth a chadernid hefyd i'w chan. Rhaid codi uwchlaw clod bach personol ac enill ychydig arian mewn Eisteddfod. Rhaid ymgodymu k galluoedd cryfaf y byd, ym- ladd a ffaeleddau cenedlaethol a magu nerth a chryfder iechyd nes daw yn wlad y cewri. Rhaid magu y gallu i dderbyn ami gurfa gan gor tref cymydogol gyda gwen a thymer dda gan gredu fod pob aflwyddiant yn gam at lwyddiant ac yn rhan o ddisgyblaeth cenedl sy'n bwriadu dod yn Gor y Byd.

[No title]

YR AELODAU CYMREIG A'U GWAITH.

PIANO MEWN TAFARN.

[No title]