Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Atal y Gormeswyr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Atal y Gormeswyr. u Anghyfiawnder ni ffyna," sydd hen wireb Cymreig. Ac ni phrofwyd hyny yn fwy eglur ar unrhyw achos nag a wneir yn awr gyda'r Ddeddf Addysg yn Nghymru. Ceisiwyd gor- oiesu cenedl gyfan o Ymneillduwyr hedd- ychol a'i gosod o dan draed offeiriadaeth o'r fath waethaf, a hyny yn ngwyneb y jgwrthwynebiadau cyndynaf a thaeraf a all- "asai cynrychiolwyr y wlad hono eu gwneyd mewn ffordd gyfansoddiadol. Er apelio am -degwch a chydraddoldeb, nis gwrandawyd ^ais ein pobl; eithr caed Dsddf Addysg ar fyfrau ein gwlad sydd yn unol a gofynion manylaf yr Eglwyswyr a'r defodwyr culaf syniadau. A beth fu'r canlyniad? Yn yr etholiadau sirol cyntaf a gaed, wele, ys- gubwyd i ddifancoll bron yr oil o'r rhai a gefnogent y Ddeddf yn Nghymru. Trwy hyn, llwyddwyd i atal ymosodiad cyntaf yr tsgobion ar ein tir addysgiadol. Wedi deall fod y Ddeddf gyntaf yn anig- onol at gynllwynion trefnedig yr offeiriaid, daeth cri oddiwrth ei chefnogwyr am gyn- Huniau newydd i orfodi yr awdurdodau lleol i wneyd fel y gorchymynid iddynt gan Fwrdd Addysg Llundain. Gwelodd yr offeir- iaid fod diffygion yn y gyntaf, a cheisiasant Ddeddf arall i gynwys y gwelliantau gofynol, ac yn y Mesur Gorfodol a basiwyd yr wyth- nos ddiweddaf, credent fod y balm wedi ei ddarganfod. Ond ow, mor anhawdd yw cynllunio drygioni! Daw'r newyd i heddyw, cyn bod y Ddeddf olaf bron wedi gadael yr argraphwasg, fod y Llywodraeth a'r blaid offeiriadol, yn ogystal a'r Bwrdd Addysg yn Llundain mewn trafferth dirfawr ynglyn a'r holl fusnes, ac wedi deall fod yn bosibl eto i atal pob symudiad o eiddo'r eglwys er sicrhau rheolaeth ar gynlluniau addysg plant bach Ymneillduwyr Cymru. Nid rhyfedd eu bod yn ofni.. Mae Cymru "Wedi gosod ei gair y bydd iddi wrthwynebu y Mesur hwn eto gyda'r un cyndynrwydd ¡ llythyrenol ag a ddefnyddia tuagat y Ddeddf Addysg ei hun. Y ffaith yw, mae'r Mesur Gor- fodol yma mor 11awn o ddiffygion fel y gellir yn hawdd osgoi pob cosp uniongyrchol, ac TRor eang ei weithrediad fel y gall y Cyng- horau Sirol beri cryn drafferth i reolwyr Addysg yn y brifddinas. Yn wir, cymaint yw'r ofnau nes y mae'r holl wasg Doriaidd yn apelio at Mr. Lloyd-George i beidio gwneyd dim a andwya ei yrfa yn y dyfodol. Y mae'r syniad hwn yn chwerthinllyd, fel pe tnai nid ar waetha'r wasg hono y daeth Mr. George i'w safle anrhydeddus bresenol. Diolch mai nid gwr i'w hudo a'i ddenu oddiar ddyledswydd cenedl yw'r aelod tros Arfon. Egwyddorion, ac nid hunanles, yw lei arwyddair o'r cychwyn, a dyna sydd yn ,cyfrif am ei lwyddiant. Y mae y genedl fel un gwr o'i du; ac, yn wir, ni oddef Ym- neillduwyr Cymru yr un cynrychiolydd yn y Senedd, ychwaith, os nad yw yn barod i 'Ymladd hyd yr eithaf dros hawliau cydwybod, a defnyddio pob gallu cyfreithiol eto er atal yr ymgais budr presenol o ormesu Cymru ani ei bod yn fechan a thylawd.

IGADAEL CYNLAS.

Dirywio'r Eisteddfod.

GWYL GENEDLAETHOL RHYL.

DAMWAIN MEWN GLOFA.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH