Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Atal y Gormeswyr.

IGADAEL CYNLAS.

Dirywio'r Eisteddfod.

GWYL GENEDLAETHOL RHYL.

DAMWAIN MEWN GLOFA.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MASTER TOM JENKINS, AKERMAN ROAD, S.W. Gyda gofid dwys yr ydym yn cofnodi symudiad y cyfaill ieuanc uchod. Mab yd- oedd i Mr. a Mrs. E. Jenkins, 39, Akerman Road, Brixton: bu farw yn dra disymwth, boreu Sul y 7fed, ac efe yn 16eg mlwydd oed. Ergyd drom i'w dad a'i fam ydoedd ei golli, ac y mae cydymdeimlad a gweddiau eu cydnabod yn erfyn yn daer ar iddynt gael nerth i ddal y brofedigaeth lem. Gall ein cyfeillion galarus dynu cysur iddynt eu hunain o'r ffaith ddarfod iddynt gyflawni eu rhan yn ffyddlon tuagat eu hanwyl blentyn, ac ymdawelu mewn sicrwydd llawn ei fod ef wedi ei alw i "fyd sydd well i fyw." Fe gydnebydd pawb ar a'i adwaenai fod Tom yn gynllun o ddyn ifanc. Addawai dyfu i fyny yn addurn i'w rieni ac yn glod i'w genedl: er ei symud yn yr oedran tyner o unarbymtheg, nodweddid ef gan yr add- fedrwydd hwnw sydd yn prydferthu y prof- iadoL Yr oedd yn synwyrol iawn yn mhob peth. Anfynych y cyfarfyddid ag un mor dawel, didrwst a diymhongar ag ydoedd efe. Blin iawn genym feddwl na chawn edrych ar ei wyneb gwyliadwy, ond, fe erys delw ysbrydol o hono yn ein cof am byth, a bydd ei goffawdwriaeth yn fendigedig ac yn gy- segredig genym. Daeth cynulliad lliosog a pharchus o Gymry Llundain i Manor Park Cemetery, prydnawn Iau, tieg, i dalu y gymwynas olaf i weddillion marwol ein hanwyl gyfaill: nid oes cof genym fod mewn cynhebrwng mor doredig ei deimladau erioed. Gorchuddid yr arch gan flodau: yn mhlith llawer ereill, sylwasom ar un wreath oddiwrth gyd-ael- odau dosbarth yr ymadawedig yn Ysgol Sul Falmouth Road. Teimlem wrth edrych ar y wreaths drwy ein dagrau, na fu blodeu yn barotach erioed i wasanaethu ar y marw nag ydoedd y rhai hyn ddydd claddedigaeth Tom Jenkins. Yr oedd cydgord perffaith rhwng y blodau a'i gymeriad moesol ef: do, cyt- lawnodd ein cyfaill ei redfa mor ddistaw ac mor effeithiol ag y cyflawna y blodau eu cenhadaeth hwythau. Y swyn sydd yn y blodau ydoedd swyn amlycaf ei fywyd yntau: nid y peth a ddywedai, neu a gyf- lawnai, yn gymaint, oedd yn ein had-dynu i'w garu, ond yr hyn ydoedd ef ei hun Yr oeddem yn well o fod yn agos ato: 'roedd rhinwedd yn mynd allan o hono, heb ei fod ef ei hun yn ymwybyddol o hyny. Perarogl Crist ydoedd i Dduw. Ei enw'n perarogli sydd, A'i hun mor dawel yw. Huned yn dawel hyd amser Duw: gor- phwysed y dywarchen yn ysgafn ar ei fron- heddwch i'w Iwch yw ein gwir ddymuniad. E