Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y Cynghor Rhyddlrydlg Cenedlaethol…

[No title]

Bwrdd y 6 Celt.9

BLODWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BLODWEN. Mae beirdd pob oes yn tynu tant Eu telyn am y tynaf; Gan ollwng ffrwd eu dawn yn Hit Am ben y ferch a garaf." Canasant i Myfanwy dlos, I Gwen, i Jane ac Olwen: Mae genyf finau gystal hawl I ganu can i Blodwen. Mae cariad bardd yn arfer bod Yn lluaws mawr o ddarnau Ei gwallt yn aur, ei grudd yn rhos, Ei llygaid,—glas wybrenau. Ond cig a gwaed yw'm meinir i, Bron fel ryw eneth arall, 'Does fawr wahaniaeth ond ei bod Yn fil mwy hardd a diwall. Mae'r beirdd am lunio cywrain gan- Yn y mesurau caethion; Troi cwynfan serch i lifo hyd Welyau'r cynghaneddion. Wal, croesaw fyth ar reol gaeth I gywir feib Ceridwen; Ond, gwell gen i yw bod yn rhydd' I ganu can i Blodwen. Nid ydyw beirdd yn rhoi eu bryd Ar garu daearolion, Ond mae'u cariadon hwy, yn lion. Breswylwyr byd angelion. Gall angylesau fod yn hardd, A'u llwybrau yn ddiwyro Ond, gwell o lawer gen i gael Ryw sylwedd i'w gofleidio. Yr wyf yn hoffi canu can I Blodwen feinir hyfwyn Mil gwell yw bod ar hirddydd haf Dan gysgod deiliog irlwyn, Yn casglu mel ar wefus dlos A sibrwd serch-gyfrinion; A chariad gyda'i fysedd man Yn asio'n un ddwy galon. SHON Y FOTTT,

EISTEDDFOD Y RHYL.

[No title]