Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Y Cynghor Rhyddlrydlg Cenedlaethol…
Y Cynghor Rhyddlrydlg Cenedlaethol Cymreig. I'R GAD I'R GAD I'R GAD GYDWLADWYR,—Mae gweitbrediadau di- weddar Ty'r Cyffredin wedi profi yn ddiam- beuol fod yn mryd y Llywodraeth i osod ar wAr Cymru iau ormesol sydd wedi ei chyn- llunio gan yr offeiriaid. Y mae eu pender- fyniad i dreisio yr hen wlad yn gymaint, fel y maent wedi damsang ar freiniau'r Senedd yn y fath fodd digwilydd fel ag i orfodi yr boll blaid Ryddfrydig, o dan y gwr Anrhyd- eddus H. H. Asquith, A.S., i ymdaith allan o'r Senedd-dy fel gwrthdystiad cyhoeddus- peth na ddigwyddodd erioed o'r blaen yn hanes y Senedd. Gweinyddodd siroedd Cymru y Ddeddf Addysg newydd yn ol y llythyren fanylaf. Profodd hyny i'r Llywodraeth nad oedd y aldeddf yn debygol o gyrhaedd amcan eu meistri offeiriadol; ac, o ganlyniad dygwyd i fewn Fesur Gorfodol-cyntaf yn hanes Cymru ddiweddar; ac erbyn hyn y mae y mesur yn ddeddf, a'r Llywodraeth heb gym- aint a rhoi cyfle i'w ddadleu. Deddf ydyw sydd yn dwyn oddiar y werin bob peth tebyg o ddiogelu addysg anenwadol effeithiol, ) n unol a dyhead dyfnaf Cymru. Mae'r Llywodraeth wedi cynyg at roi mewn grym ddymuniadau'r esgobion a'r offeiriaid, hyd yn oed lie y mae'r dymun- iadau hyny yn amlwg wrthwynebol i les y plant, a lies uchaf gwir addysg. A oddefwn ni hyn yn ddistaw ? Nid oes ond un atebiad yr ydym mor bell wedi gorchfygu y Llywodraeth ar dir Deddf Addysg 1902 ac oni chawn ni yn awr dderbyn yr her newydd hon, ac ymladd y frwydr hyd ei diwedd ? Golyga hyn lafur caled, llawer o aberth, undeb perffaith, ac ymlyniad ffyddlon i'r arweinwyr a amlinell- odd y cynlluniau sydd wedi dyrysu cyn- llwynion awdwyr y Ddeddf Addysg, ac sydd eto yr un mor ddiwyd, a chyda'r un argoel- ion am fuddugoliaeth, yn tynu allan gyn- lluniau y frwydr sydd o'n blaen. Mae ein llywydd—Mr. D. Lloyd-George, A.S.-eisoes wedi casglu dros bum' cant o bunau at fil punau y Drysorfa Ymosodol; ac yn awr yr ydym yn deisyf ar i bob carwr rhyddid yn Nghymru, ac yn mhob gwlad arall hefyd, nid yn unig i wneyd y swm uchod i fyny, ond i gyfranu yn helaeth ac ar unwaith, tuagat gario allan yr ymgyrch hon yn egniol a llwyddianus. Cofier, hefyd, ein bod drwy hyn yn ym- ladd yn ail-osodiad treth yr yd, gwaddoliad y tafarnwr, ac adferiad caethwasiaeth Bry- deinig yn Affrica. Anfoner cyfraniadau i EDWARD THOMAS (Cochfarf), Cadeirydd y Pwyllgor Cenedlaethol, Caerdydd. C. E. BREESE, Morfa Lodge, Porthmadog (trysorydd). WALTER H. HUGHES, Pontypool (ysgrifenydd).
[No title]
Dywedir fod miloedd o lythyrau wedi eu cyfeirio yn y Wyddelaeg yn cael eu hanfon trwy y Llythyrdy yn yr Iwerddon gan fas- nachwyr ac ereill; ond gan nad yw swydd- ogion y llythyrdai, hyd yn oed yn y Ueoedd gwledig lie y siaredir yr hen iaith, yn ei deall, mae yn achosi penbleth. Bu dirprwy- aeth o'r Gaelic League, rhai mewn diwyg y wlad, yn ymbil am wellhad o flaen y Prif Bost-feistr yr wythnos ddiweddaf. Pe buasai angeu wedi oedi ond pum' munyd, buasai y saith dyn a laddwyd a'r unarddeg a anafwyd wedi dianc yn ddianaf rhag dymchwel y ddaear a'r meini yn nglofa Ynysddu, Casnfcwydd, dydd Sadwrn.
Bwrdd y 6 Celt.9
Bwrdd y 6 Celt.9 Cyn ymwahanu am y gwyliau daeth torf barchus ynghyd o gylch y Bwrdd, yn benaf er llongyfarch y Gol. a'r perobenogion ar y trefniadau newydd oedd- ent wedi wneyd erbyr y gauaf dyfodol. Hysbysodd y doethawr iddynt fod y rhagolygon yn galonogol iawn ac fod y Cymry yn unfarn o blaid cefnogi y mudiad newydd. Nid heb ystyriaeth fanwl oedd y cyfan wedi ei benderfynu ac 'roedd gweled parod- rwydd y fath nifer o ysgrifenwyr i lanw colofnau y papyr o wythnos i wythnos yn hwylusu y trefniadau yn ddirfawr. Yn ychwanegol at y dysgedigion sydd eisoes wedi addaw, byddai gohebwyr lleol yn mhob ardal trwy Gymru yn gyru eu nodiadau ami ar brif symudiadau y genedl. Ameenid rhoddi crynhodeb byr a chywir o bob digwyddiad fyd4 yn ymwneyd A chenedl y Cymry yn ogystal a chrybwylliadau am blant Gwalia yn mhob rban o ddagar. Mae gan y CELT lu o gyfeillion yn mhob llan a phentref, ac ma.e ei dderbynwyr cyson o wledydd tramor yn addaw eu newyddion arbenig i ni eto o dro i dro. "I chwi'r gwleidyddwyr" ebai'r cadeirydd gan anerch yr aelodau Seneddol oeddent yn bresenol. Y mae genym, fel cenedl, i ddioloh am eich gwaith rhagorol tros ein gwlad yn Nhy'r Gleber yn ystod y tymor a aeth heibio. Boed i chwi gael pob mwyn- had o'r seibiant a'r heddwch ydych wedi gyflawn enill trwy eich Ilafur caled. Yr ydych o'r diwedd wedi dysgu pregeth fawr y CETT ar hyd y deng mlynedd diweddaf yma trwy uno eich rhengoedd i weithio fel un gwr tros hawliau arbenig Cymru. Caed prawf rhagorol eisoes o beth ellir wneyd pan gymerwch eich harwain gan Gymro a wyr beth yw ein cenhadaeth a'n gofynion fel pobl. Pan yr ym- gynullwch eto i ofalu am hawliau Cymru, hyderaf y bydd i chwi anghofio pob man wahaniaethau a chladdu pob rhithin o eiddigedd y naill at lwyddiant y llall, a pharhau i gydweithio er dyrchafiad cyffred- inol ein bywyd cenedlaethol. Cofiwch mai trwy godi yr hen wlad y mae i chwi esgyn grisiau anhydedd hefyd, ac na chyrhaedda yr un o honoch binacl a chlod drwy barhau i fychanu y rhai a gydnabyddir heddyw fel goreuwyr ein pobl. Undeb a theyrngar- wch a lwyddant yn y pen draw, am hyny boed i ohwi gofio hyn yn eich cynhadleddau dyfodol ac yn y brwydrau sydd raid i chwi eu hymladd yn y man." Ar hyn ymadawodd y llu a chaed y gweddill o'r cyfarfod yn gwrdd busnes "-ys dywed rhagleni'r cymanfaoedd enwadol. S. B. John. Yr ydym wedi danfon y papyr yn ol eich cais, a gobeithio y cewch wyliau hapus yn nhawelwch y mor yna. W. Davies. Nid oes dim newydd-deb yn eich ysgrif Tro i Landrindod." Gwir yr enwch amryw o wyr Llundain oeddent yno yr wythnos ddiweddaf, ond ai nid oedd rhywbeth gwerth eich sylw yno heblaw gwyr mawr y ddinas yma ? Hwyrach fod y tywydd poeth a gywsoch yno wedi gwneyd pawb yn rhy ddiog i siarad am neb na dim rhagor na phasio barn am wisgoedd y rhianod a 'cigars' y pregeth- wyr ifenc. W. M. (Kentish Town). Buasai'n dda genym gy- hoeddi eich llythyr onibae ei fod mor anghywir o ran ffeithiau. Hwyrach mai wedi darllen areithiau yr esgobion Cymreig ydych yn unig, ac er mai esgobion ydynt ni charem ddyweyd eu bod bob amser yn gywir mewn ffeithiau. Mae gwyr mawr dysgedig yn gwisgo spectol rhagfarn a phlaid yn ami. Astudiwch yr ochr arall o'r pwnc a chewch fod llawer i ddyweyd dros gynllun Mr. Lloyd-George. Edmygydd. Nid oeddem am friwio teimladau neb o honoch chwi wyr y gan, pan yn condemnio gwobrau mawr i gorau mewn eisteddfod. Os mai gwelJa canu a chodi safon cerddoriaeth yn ein gwlad yw amcanion y cystadleuaethau hyn, yna fe ddylai fod digon o gariad ynoch at y gwaith heb- law'r swyn o enill gwobr fawr yn y fargen. 0 dipyn i beth, fe ddaw'r un ysbryd i fewn i'r gor- nestau canu yma ag a welir yn awr ar feusydd y rhedegfa yn Lloegr. M. Lloyd, Daeth yr arian i law yn ddiogel, a diolch am eich cefnogaeth ffyddlon. Haner coron am ddimeu. O'r wlad y daw'r nodion goreu ar gerdyn post bob wythnos. Mae bechgyn a merched y ddinas ar eu gwyliau, ac felly yn abl i anfon eu nodiadau yn hwyliog a di-lol. Yr wyth- nos hon caed y nodyn goreu oddiwrth Mr. J. Row- lands, Melin Gerrig, Machynlleth, i'r hwn yr an. fonwyd yr haner ooron. GWOBRAU Y "CELT." HANER-CORON AM DDIMEU. Rhydd y Gol. haner-coron bob wythnos am y cerdyn post a gynwys yr hanesyn Cymreig goreu, addas i golofn Oddeutu'r Ddinas." Rhaid i'r cardiau ddod i law erbyn boreu dydd Mercher yn yr wythnos, ao enw a chyfeiriad yr anfonydd ar bob un. Cyfeirier y cardiau Gol. Oddeutu'r Ddinas," 211, Gray's Inn Road, W.C. ADGOFION Y GWYLIAU.—GWOBR. Erbyn diwedd mis Awst bydd y nifer liosocaf o wyr y CELT wedi bod ar eu gwyliau yn Nghymru. Er mwyn siorhau rhai o'u hadgofion am y gwyliau, ac enyn ynddynt ddyddordeb yn y lleoedd a fynychir ganddynt, rhoir gwobr o haner gini am yr ysgrif oreu o Adgofion am Wyliau Haf 1904. Dylai'r ysgrif fod o fewn tua dwy golofn o'r CELT ac yn ddesgrifiadol o'r lie neu'r lleoedd a ymwelwyd a hwy, ynghyd a hanes digwyddiadau o ddyddoideb" i Gymry Llundain. Er mwyn rhoddi mantais i'r cystadleuwyr, canift- teir hyd y lOfed o Fedi i anfon yr ysgrifau i fewn* Noder ar yr amlen Adgofion," a chyfeirier hwynt 01. y CELT, 211, Gray's Inn Road, W.C.
BLODWEN.
BLODWEN. Mae beirdd pob oes yn tynu tant Eu telyn am y tynaf; Gan ollwng ffrwd eu dawn yn Hit Am ben y ferch a garaf." Canasant i Myfanwy dlos, I Gwen, i Jane ac Olwen: Mae genyf finau gystal hawl I ganu can i Blodwen. Mae cariad bardd yn arfer bod Yn lluaws mawr o ddarnau Ei gwallt yn aur, ei grudd yn rhos, Ei llygaid,—glas wybrenau. Ond cig a gwaed yw'm meinir i, Bron fel ryw eneth arall, 'Does fawr wahaniaeth ond ei bod Yn fil mwy hardd a diwall. Mae'r beirdd am lunio cywrain gan- Yn y mesurau caethion; Troi cwynfan serch i lifo hyd Welyau'r cynghaneddion. Wal, croesaw fyth ar reol gaeth I gywir feib Ceridwen; Ond, gwell gen i yw bod yn rhydd' I ganu can i Blodwen. Nid ydyw beirdd yn rhoi eu bryd Ar garu daearolion, Ond mae'u cariadon hwy, yn lion. Breswylwyr byd angelion. Gall angylesau fod yn hardd, A'u llwybrau yn ddiwyro Ond, gwell o lawer gen i gael Ryw sylwedd i'w gofleidio. Yr wyf yn hoffi canu can I Blodwen feinir hyfwyn Mil gwell yw bod ar hirddydd haf Dan gysgod deiliog irlwyn, Yn casglu mel ar wefus dlos A sibrwd serch-gyfrinion; A chariad gyda'i fysedd man Yn asio'n un ddwy galon. SHON Y FOTTT,
EISTEDDFOD Y RHYL.
EISTEDDFOD Y RHYL. ARHOLIAD GORSEDD Y BEIRDD. A ganlyn ceir enwau yr ymgeiswyr llwyddianus yc y gwahanol arholiadau :— Urdd Bardd.-Y Parch. H. Evans (Cynfor), Bryra- bo; Miss Martha Griffith (Mona), 38, Hatherley-st., Lerpwl; Evan Morris Hughes (leuan Orwig), Gareg Wen, Dinorwig Henry Parry (Dyfrydog), Penygraig- wen, Amlwch; Arthur E. Williams (Arthur ap leuan), Nebo, Llanllyfni; Owen Jones (Owain Hefin), Waen- fawr; T. Jones (Llanorfab), Ystradfellte; Gruffydd Pari (Gwyrfai), Waenfawr. Urdd Ofydd.—Owen Davies (Dolenog), 151, Forest Road, Walthamstow, Llundain, E. Urddau cerddorol. Pencerdd: M. L. Eardley (Pencerddes Arfon), 56, Dean Street, Bangor; Wil- liam R. Williams (Pencerdd Iolen), Plas-y-Rhiw,- Cwmyglo; Evan Griffith Williams (leuan Arfon). Hyfrydle, Bethel, Caernarfon. Cerddor: R. W. Jones (Ap Garmon), 79, Northbrook Street, Princes Avenue, Lerpwl; William G. Pritchard (EdHwd)? Glandwr Terrace, Clwtybont; Owen J. Griffith (Eil- ydd Alltwen), Dinorwic Cottage, Y Fachwen, Cwmy- glo; William Williams, A.C. (Perorydd Menai), 19, Tabernacle Street, Bangor; Hywel Alaw), Bethel, Caernarvon Rees Richards (Cerddor Saron), 7, Dinef- wr Terrace, Penybanc, Ammanford; Tom Richards (Alaw Blaenau), Gwyn Villa, Saron, Llandebie John Bevan (Alaw Myrddin), Brynmair, Saron, Llandebie;, Robert John Williams (Alaw Cilgwyn), Shaftesbury Street, Eccles, Manceinion; Edward Jones (Gly" Alaw), Glynceiriog; Kate Williams (Meirionwen Deudraeth), Blaenyddol, Penrhyndeudraeth. Cerdel Ofydd: David Thomas (Alaw Gwili), Manorafon, Cross Hands; Henry R. Jones (Alawydd Eilir), 11 Warden Street, Llanberis; R. W. Jones (Ap Garmon)* 79, Northkrook Street, Lerpwl; Richard Jones (Aber Alaw), Glan Aber, Cwmyglo Robert John Williams (Alaw Cilgwon), 24, Shaftesbury Street, Eccles, Man- ceinion; John G. Williams (Perdonydd Arfon), Bryn Hafod, Llanrug; John Mainwaring (Alaw IIefin), Glangwily Villa, Cross Hands; Richard D. Jones (Alawydd Eryri), Cae Poeth, Llanrug; Ritchie Hughes (leuan Alaw), Ty Coch, Llanrug Maggis Owen (Arvonia), Talgwynedd, John Street, Rhyl; John Evan Jones (Alaw Cynfi), Tai'r Capel, Eben- ezer, sir Gaernarfon John Evans Jones (Alaw Dein- iol), 2, View Terrace, Ebenezer, Caernarfon Jarrett Roberts (Alawydd Ifor), Ty'n-y-Fron, Llanrug.
[No title]
Dywed rhai o gyfeillion Mr. Chamberlain fod ei iechyd yn bur anfoddhaol er's tro- Mae'n ddrwg genym am hyn oherwyda haedda pob gwrthwynebydd ein cydym" deimlad os yw'r iechyd yn pallu.