Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HIGH-CLASS PIANOS. John Strong & Sons, Ltd., 118, EUSTON ROAD, LONDON, MANUFACTUBERS OF HIGH-CLASS PIANOS ONLY. Our Instruments have gained the DIPLOMA OF HONOUR AND FIRST DEGREE OF MERIT Yn open competition with the leading makers, English and Continental. ALL PIANOS AT LOWEST CASH PRICES, OR ON EASY TERMS TO SUIT PURCHASERS. Mf Good Second-hand Pianos Vy the best Makers always in Stock. A Large Assortment to select from. Highest Testimonials from the leading artistes. Mr. MADOC DAVIE.3, A.R.C.M. & L.C.M., writes:- "I like your Pianos very much. They have a beautiful tone, crisp touch, and in every way high- class instruments." CALL AND INSPECT OUR STOCK. John Strong & Sons. Ltd., 118, EUSTON ROAD, N.W. MISS JENNIE JONES, A.R.C.M., TEACHER OF PIANOFORTE, HARMONY, AND THEORY OF MUSIC. ALSO ACCOMPANIST FOR CONCERTS, EISTEDDFODAU, etc. ADDBEss- 168, NEW KENT ROAD, LONDON, S.E. PEDR ALAW Mus. Bac. Beirniad Cerddorol ac Arweinydd Cymanfaoedd. c) feiriad- HALDON HOUSE, POPPLETON ROAD LEYTONSTONE. Mr. TOM MORGAN Gold Medallist National Ei&teddfod of Wales Hate Solo Coinet H.M. Coldstjeam Guards Band). CORNET SOLOIST FOR CONCERTS TRUMPET SOLOIST FOR ORATORIOS ADJUDICATOR FOR BAND AND INSTRUMENTAL COMPETITIONS. Address- 91a, SLLVERTHOBNE ROAD, CLAPHAM, S.W MR. MADOC DAVIES, A.R.C.M TEACHER OF SINGING AT THE LONDON COLLEGE OF MUSIC-J GIVES LESSONS IN Voice Production and Solo Singing ADDRESS— J56, PRINCE OF WALES ROAD, HAVERSTOCK HILL.
Paham mae Masnach yn Wan?
Paham mae Masnach yn Wan? Os nad yw cvrw yn gryfach nag arfer, y mae y flaith fod llai o hono yn caei ei yfed yn brawf eglur fod yr yfwyr yn brin o arian. Ond o ran h)ny, pa eisieu piawf: y mae pavby dyddiau hyn yn cysuro eu hunain gan ddyweyd fod masnach yn wan. Nid yw yn eglur pa gysur sydd i w gael o hyn, os nad ihyw gied ddirgelaidd fod yr awr dyw- yllaf yn agosaf i'r dydd. Llawer o geisio egluro r achos sydd. Y rhyfel yn y Dwyrain, y rhyfel yn Neheubarth Affrica; ysfa'r Cyng- horau trefol a sirol i fod yn hatl ar bwrs y wlad a benthyca arian yn ddiderfyn y cyi- oethogion yn arllwys eu harian am y tegan newydd ond costfawr-y motor car; dim digon o aur i gyfateb i veithgarwch mas- nachol y wlad. Dyna rai o'r rhesymau a roddir. Ond, beth by nag yw yr achos, neu yr achosion, y mae cymdeithas yn bur glaf; a chylchred- iad ei gwaed yn afreolus a gwan. Pan y mae gweithrediadau masnach mor eang, mor gymhlethedig ag yw yn ein hoes ni, nid y ihyfeddod yw eu bod yn dyrysu yn eu plethi ar rai adegau ond fod pethau yn myned yn mlaen cystal. Y mae y cyflog wythnosol sy'n ofynol i fwydo teulu gweithiwr mewn ardal weithfaol yn Ngh) mru wedi teithio yn ami o bellderau y ddaear. Dyddorol iawn fyddai, pe gallai y geiniog ddweyd ei hanes, fel y treiglodd o un cwr i'r wlad i'r llall. Ac y mae'r holl weithrediadau amrywiol, pleth edig, yma yn cael eu dal ynghyd gan un elf en ysprydol-sef cred. Dywedodd Mr. Chesterton, dro yn ol, mai y cyngor inasnachol goreu oedd yr adnod honor Ceisiwch yn gyntaf Deyrnas Dduw a'i gyfiawnder Ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg." Dywediad rhyfedd yn sicr, ar yr olwg gyntaf. Byddai yn S) n iawn gan bobl y Stock Exchange feddwl y gellid cael cyngor mewn adnod ar y ffordd oreu i fasnachu. Yn wir, fe dybir yn bur gyffredin fod crefydd a masnach yn bethau anghyfathrachol ac fod yna gagen- dor anherfynol rhwng pethau bydol a pheth- au ysprydol. Y mae y swn aur ac arian a chopr a geir mewn adroddiadau blynyddol y capelau fel pe yn perthyn i fyd hollol wahanol i fyd crefydd, er ei fod mewn cy- sylltiad anorfod a hwy. Dywed pobl smart y byd fod yn amhosibl cario masnach yn mlaen ar egwyddorion y Bregeth ar y Myn- ydd, rhan o ba un yw yr adnod dan sylw. Y mae Mr. Chesterton yn dyweyd nid yn unig y dylid peidio anghotio yr adnod wrth fas- nachu ond-ac yn hyn y mae ei newydd-deb -nad yw yn ddichonadwy cario masnach yn mlaen ar yr un egwyddor arall heblaw yr un sydd yn yr adnod hon. Y cwestiwn yw, a yw yn bosibl cael cyfoeth, anrhydedd, clod, parch a phethau goreu a blasusaf y byd hwn heb i ryw raddau, yn gyntaf ac yn brif beth, geisio cyfiawnder teyrnas nefoedd. Y mae llawer yn ceisio; llawer o short cuts y mae meddwl dyn yn ei gynllunio i gael cyfoeth a pharch. Rhyfeddol mor ddeheuig yw y cynllwyn a'r cynjlunio sydd, ond pan y dygir y bobl hyn o flaen eu gwell methu wna eu cynlluniau a sef) 11. Er mawr waeddi a churo tympanau, nis gellir cael enwogrwydd ond trwy wir wrhydri. Gwir y gellir cael lliw a lledrith enwogrwydd, ond nid yw y dyn yn teimlo ei fod yn enwog; nid yw yn enwogrwydd iddo ef. Paham ynte, y mae masnach yn wkn ? Digon tebyg mai y rheswm yw nad ydyw masnach yn ddigon y sprydol; o achos yr ysprydol yw y peth byw hwnw ag sydd yn cydio mater wrth fater a'i wneyd yn enaid byw, iach a chryf. Y mae eisieu ysprydoli masnach eisieu rhoi unwaith eto'n ngweith- rediadau masnachol dynion fiydd, a gobaith a chariad, fel y ca' dyn lie bynag y bo, beth bynag a wna, y boddhad dwyfol hwnw a elwir crefydd. Nid tylodi sydd yn rhoi ing ac nid cyfoeth sydd yn rhoi cysur ond y rhywbeth- hwnw, beth bynag ei gehir-x mae geiriau yn pallu ei ddesgr,fio-gelviir, ef weithiau teyrnas nefoedd, pob gair ddaw o enau Duw, enaid, dyledswydd—ond beth by nag ei g elwir,—y peth hwnw sy'n cydio )n nhanau enaid dyn ac yn rhoi cyv»air a cherdd iddynt. Yn lie h)n, gwelir dyn ag sycd yn meddu gallu naturiol at fod yn grefftwr yn gadael llwybr ei ddyledswydd ac yn troi yn fasnachwr heb )r un rheswm ond fod mwy o arian i'w wneyd, fe dybia, yn y c) feiriad hwnw. Gwelir, hefyd, fechgyn hoffus yn cael eu gwthio i fod yn fcddyg, cyfreithiwr neu rywbeth arall nad yw eu calon ddim yn y peth, am yr un rheswm ond eu bod, le dybir, yn alwedigaethau pur respectable. Y canlymad yw, y mae enaid y bechgyn yn marw a'u corph yn myned yn ysglyfaeth i ddioi gadarn. Yr enaid yw enaid masnach, a phan fo hwnw farw, er i'r corph fod yn fyw, fe fydd marw masnach. Fe ddengys Shakespere fod pob trychineb corphorol a thymhorol yn dechreu yn yr enaid. Cyn i fraich gadarn Othelo ddi- ffrwytho, yr oedd ei enaid wedi marw. Y mae ofn yn lladd Cassius, ac yna efe a anafa yn farwol ei gorph a'i gleddyt. Ac heddyw, ddydd ar ol dydd, y mae y cri torcaIonus yn cael ei gyhoeddi gan y trueiniaid sydd yn dianc trwy y Tafw) s, nad yw bywyd yn werth ei fyw. Gwrthryfelant yn erbyn y bydol- rwydd sydd yn gwerthu yr enaid am gyf- oeth, mewn byd ac eglwys.
GWASANAETH SABOTHOL CYMREIG…
GWASANAETH SABOTHOL CYMREIG YN CAPE TOWN. Y mae Ysgol Sabothol Gymreig wedi ei sefydlu gan y Cymry yn Cape Town me" n cysylltiad a'r capelau Ymneullduol Seisnig ery flwyddyn 1897. Pregethid unwaith y mis gan y Parch. Enoch Jones (Eglwys Loegr) a'r Parch. Ben Evans (Anibynwyr). Yn yr Hydref diweddaf, bu symudiad ar droed i ddechreu cynal gwasanaeth Cym- reig bob nos Saboth, a chymaint fu'r llwydd- iant fel y penderfynwyd ffurfio Eglwys Gym- reig Oll-enwadol. Fe gyfarfu pwyllgor o'r pedwar enwad sydd yn y wlad, i ddewis gweinidog, a buont yn llwyddianus i gael gwasanaeth y Parch. D. Gwynfryn Jones, gynt o Gaer, yr hwn sydd yn awr mordwyo tua Cape Town. Rhifa yr aelodau dros 60; a chyda cynorthwy eu cydgenedl yn yr hen wlad, gobeithir y gellir sefydlu Eglwys Gymreig gref, yr hon a fydd yn gychwyniad i amryw eglwysi o'r fath yn Neheubarth Affrica. Y mae miloedd o Gymry yn wa- hanol ranau trefedigaeth y Cape ac o ddiffyg moddion Cymreig y maent yn esgeuluso pob gwasanaeth ar y Saboth. Ymwel lluaws 0 forwyr Cymreig a phorthladd Cape Town, a mawr brisir gwasanaeth Cymreig ganddynt. Erfynir am gynorthwy gan y C) mry hyn sydd yn mhell o dir eu tirion dadau" i sefydlu cynulliad Sabothol er iddynt gael yr Efengyl yn yr un iaith ag ei cly ir yri ngwlad y bryniau. Y trysorydd yn y wlad hon yw Mr. Jonathan Davies, Porthmadog.
[No title]
Wrth longyfarch Mr. Dan Davies, dywed- odd Arlywydd yr Unol Dalaethau ei fod yn falch o ddeall fod Mr. Davies wedi derbyn mwy o wobrau Eisteddfodol na'r un dyn byw, a'i fod wedi arwain y corau mwyaf eu rhif. Hoffa Mr. Roosevelt glywed y cor. Wrth agor nodachfa ynglyn a'r achos Wesleyaidd yn Llangollen, dywedai Mr. J. Herbert Roberts, A.S., ei fod yn myned yn fwy argyhoeddedig bob dydd tod ar y wlad eisieu, heblaw yr ymdrech a wneir yn y Senedd i ddadrys pynciau dyrys cymdeith- asol, deffroad muesol. Yr oedd arnynt eisieu rhywbeth oddiuchod a fuasai yn anadlu by wyd newydd i esgyrn sychion eu nodweddion a'u hymdrechion cenedlaethol. Heb hyn, byddai y llafur yn ofer.