Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Y Gaerfa Sadarn.
Y Gaerfa Sadarn. Am Borth Arthur y sieryd pawb y dydd- -iiau hyn. Mae'r wasg ddimeu wedi pro- phwydo am ddinystr y lie ac am alanas y Rwssiaid o'i mhewn. Er mewn cyfyngder caled, ac er ymosodiad mor feiddgar gan y Japs, y mae'r gaerfa wedi profi i'r byd mai nid peth hawdd yw meddianu dinas a am- ddiffynir gan haid o filwyr profedig. Ond y mae tynged y lie wedi ei selio. Os na Iwyddir i ruthro'r ddinas yr wythnos hon, y mae yn amlwg nas gall ddal; allan yn hir, oherwydd amgylchynir y lie gan fyddinoedd y gelyn fel nad oes bosibl y gellir cludo ond ychydig fwydydd i fewn i'r cadau sydd yn amddiffyn mor rhagorol. Er syrthio o Borth Arthur, nid yw'r rhyfel fjresenol wedi ei derfynu. Mae cadau Ym- herawdwr Rwssia mor lliosog fel nas gellir dychmygu am foment ei fod yn barod i iblygu glin i genedl fechan y Japs. Os oedd tierth o gwbl yn ymresymiad y wasg Jingo- aidd yn Lloegr adeg rhyfel y Transvaal, y ] mae'n rhaid i'r genedl fwyaf orchfygu yn y pen draw. Heddyw, byddinoedd y penadur ieuanc o Tokio sydd yn chwifio baner budd- ugoliaeth; ond, y'mhen blwyddyn neu ddwy, bydd cadau y Czar yn dechreu ymuniawnu i'r frwydr ac yn sicr o wthio y dyn melyn o'i diriogaethau yn y Dwyrain pell. Ond, nid gwaith heb golled enfawr fydd hyny. Y mae'r difrod ar fywydau eisoes yn ofnadwy i feddwl am dano, ac addefa'r naill blaid fel y llall nad ydyw yr ornest ond megis ar ddechreu hyd yn hyn. Pa le y mae'r son am Heddwch Rhyng- wladwriaethol heddyw ? Y mae'r byd wedi syrthio oddiwrth y ddelfryd a osodwyd o'n blaenau beth amser yn ol. Pan gyfarfu'r gynhadledd yn Hague, i dderbyn neges fawr y Czar, credid fod gwawr y mil flwyddiant yn agos. Ond cyn sychu o inc y papyr, ar yr hwn y rhoed y cynygion, wele Brydain yn rhedeg i ryfel costus yn erbyn cenedl fechan werinol yn Affrica ac yn claddu ei degau o filoedd o wyr goreu ei gwlad a thra yr oedd gwasg y Cyfandir yn hwtio cadau Sion BlVl, weleRwssia ei hunan yn parotoi i oresgyn rhanau eithafoedd y Dwyrain, ac yn rhedeg i ryfel blin a gwyr Japan. Ymddengys y cyfan fel pe nad oes le i Heddwch godi ei ben ar y ddaear yma, ac mai ffiloreg ff61 yw siarad am frawdoliaeth gyffredlnol. Yn lie dysgu gwell ffordd i fyw, a rhoddi safon mwy anrhydeddus i ddynion ymgyrhaedd ato, y mae y wasg, er's talm, ar ei heithaf yn ceisio gyru pobl pob gwlad 'n ben- ben, ac yn awyddus am i bleidiau crefyddol a gwleidyddol wrthwynebu eu gilydd ar bob pwnc o reolaeth. Nid yw dyddiau hedd wedi dod eto, ac ni welir mo'r cynydd a'r brawdoliaeth dychymygol tra y pery yr ys- bryd cydymgeisiol presenol a'r awyddfryd cenedlactholymao sathru pob cenedl dan draed cenedl arall. Ac y mae parhad o'r dirywiad yma yn y cymeriad dynol i'w briodoli, yn benaf, i wasg lygredig ac arian- gar yr oes faterol hon.
[No title]
Ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf, cyr- haeddodd casgliad y Cyfundeb Anibynol tuagat Gronfa yr Ugeinfed Ganrif, yn ol yr adroddiad sydd newydd ddod allan, y swm o 23,542p. Nifer yr aelodau ydynt 130,409 ac y mae cyfartaledd y rhodd ar gyfer pob un yn dod i 3s 7jc. Y rhanbarth sydd wedi fyfranu fwyaf ydyw gogledd Morganwg, yr bc>n a gasglodd 3,999p.
Anherfyn Ryfeddodau.
Anherfyn Ryfeddodau. Bu Mr. Balfour yn ceisio athronyddu gwyddoniaeth i ddysgedigion y Gymdeithas Brydeinig yn Nghaergrawnt yr wythnos o'r blaen; a thebyg yw eu bod hwy ac yntau mewn mwy o dywyllwch yn awr na chyn dechreu. Y mae yr athrylith gryfaf, yn ol addefiad Mr. Balfour ei hun, yn myned yn ganddryll wrth geisio amgyffred dirgelion natur. Flynyddoedd yn ol, pan oedd Huxley, Tyndal a Darwin yn anterth eu clod, yr oedd natur a'i rhyfeddodau wedi dod yn beth syml, hawdd ei deall i'r meddwl gwanaf. Gan fod elfenau natar yn cyduno yn unol a deddf mesur a phwys neillduol, daeth y dysgedigion i'r farn fod yr holl greadigaeth wedi ei hadeiladu o'r gronynau (atoms). Nid oedddyn-enaid a chorph-ond math o adeil- ad gwych, fel Eglwys Gadeiriol Sant Paul, -wedi ei roddi ynghyd, ronyn wrth ronyn- megis llwch yn cael ei ddal ynghyd gan gum. Nid oedd eisieu Duw na dim ysprydol. Yr oedd pob peth mor hynod o gyson a synwyr cyffredin. Ond erbyn heddyw, y mae gwydd- oniaeth wedi myned gam yn mhellach, ac y mae wedi syrthio dros y dibin i foroedd o ryfeddodau; bron a boddi, nid yw'n gwybod pa un ai yw yn breuddwydio ai yn effro, pa un ai sylwedd ai lledrith yw yr oil. Erbyn heddyw, y mae Marconi wedi gallu anfon telegrams filldiroedd o ffordd heb gyfrwng gwifrau. Yn wir, nis gwyr Marconi, ac nis gwyr neb arall, beth yw y cyfrwng sydd yn ei alluogi i anfon ei negeseuau. Y mae dychymyg y gwyddonwr yn galw y cyfrwng hwn ether; ond nid yw neb erioed wedi ei weled na'i deimlo. Am a wyr neb, gall y cyfrwng fod yn angylion gwasanaethgar. Yn mhellach, tybia gwyddoniaeth erbyn hyn fod y gronynau neu'r atoms, a ystyrid fel y peth- au eithaf a lleiaf mewn natur, yn ddim ond pecynau bach o drydaniaeth, y rhai, er mor fach, ydynt fydoedd o nerthoedd a rhyfedd- odau, anfeidrol fawr yn eu bychander. A beth yw trydaniaeth nid oes un dyn a wyr. Tybir yn awr mai trydaniaeth yw pobpeth. Y mynyddoedd oesol, y creigiau cedyrn, y ddaear sylweddol, yr haiarn caled a'r dur amhlygedig: nid ydynt oil ond clymau a phlethiadau yn nghorwyntoedd trydaniaeth anweledig. Nid yw yr atoms ond trobyllau yn yr ether sydd yn ymestyn trwy yr eang- derau. A dyn-y mae efe yn cerdded ar gymylau trydaniaeth, cymylau y mae'n ei weled, yn ei deimlo, yn ei aroglu, ei ar- chwaethu a'i glywed; a chwmwl o drydan- iaeth yw ef ei hun. A beth yw trydaniaeth? Digon teb/g mai llewyrch yr ysprydol yw. Yn y modd yma y mae gwyddoniaeth, wedi dechreu ymchwilio i natur gyda chyf- ryngau y synhwyrau corphorol, wedi teithio yn mlaen gyda goleuni bach synwyr cyff- redin nes o'r diwedd y mae mater wedi di- flanu o'r golwg a phob peth sylweddd1 yn myned yn gymylau amser; a hwythau yn gweled nad yw y greadigaeth enfawr ond cyd-berthynas nerthoedd; ac maent heddyw wyneb-yn-wyneb a'r b/d tragwyddol ac ys- prydol. The cloud-olapp'd towers, the gorgeous palaces. The solemn temples, the great globe itself [hasj dissolved. And like [an] insubstantial pageant faded, Leave not a rack behind. Nid oes dim yn bod ond eneidiau, ac nid yw y greadigaeth fawr ond meddwl yn ymsymud ac yn amlygu. Fel y beirdd, y mae'r gwydd- onwyr, hefyd, wedi dod i weled mai cysgod yw mater, neu, yn ngeiriau Islwyn:— Y marwol, cysgod o'r anfarwol yw, A'r greadigaeth enfawr, cysgod Duw Cysgodion o'i Anfeidrol allu Ef a'i ras Yn dod yn feithion fydoedd hyd y nef Am oesoedd ar ol oesoedd Ond pan y daw yn ei holl ogoniant draw Fe fill yr holl gysgodau oil yn un j A byth ni walir ond efe ei hun.
PRIODAS MR. DAVID ROBERTS…
PRIODAS MR. DAVID ROBERTS 1. MISS MARY PIERCE. Ar yr 17eg o'r mis hwn, unwyd mewn gl&n briodas, yn Eglwys Dewi Sant, Pad- dington (gan y Parch. Benjamin Thomas, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch J Crowle Ellis), Mr. D. Roberts, Westbourne Grove, W. (gynt o Lanrwst) a Miss Mary Pierce, St. David's Cottage, Paddington Green (gynt o Lanfihangel Geneu'r Glyn, Ceredigion). Daeth nifer fawr o gyfeillion y ddeuddyn ieuanc ynghyd i'r Eglwys i wylio'r seremoni gysegredig ac i ddymuno'n dda i'r par ded- wydd ar eu huniad hapus. Mr. W. J. Rob- erts (brawd y priodfab) oedd y dyn goreu/ tra y gweinyddwyd ar y briodasferch, fel morwynion, gan Miss E. Pierce a Miss M. Pierce, Miss Maggie Pierce a Miss Lita Rogers-Jones. Rhoddwyd y ferch ieuanc ymaith gan ei thad; a gwasanaethwyd wrth yr organ gan Mr. Vincent Davies, organydd y lie, yr hwn a chwareuodd y "Bridal March (Lohengrin) a "Wedding March" (Mendelssohn) yn ddeheuig. Ar ol yr uniad aeth y cwmni priodasol i dy rhieni y briodferch lie y cafwyd gwledd briodasol rhagorol. Caed anerchiad doniol gan y gweinidog, Mr. Thomas, a darllenodd y bardd Gwyddfryn benillion o'i waith ar y briodas. Ar ol y wledd, ymadawodd y ddeuddyn ieuanc am Ogledd Cymru i dreulio eu mis mel, yn nghanol dymuniadau goreu eu hewyllyswyr da, ac o dan gawodydd o rice a confetti. Yr oedd gwisgoedd y briodas yn hardd iawn. A ganlyn yw rhestr o'r anrhegion :—Y Priodfab i'r briodferch, gold bracelet set with precious stones; y Briodferch i'r Priodfab, gold scarf pin set with pearls; y priodfab i'r morwynion priodas, gold brooches rhieni y briodferch, household linen; Mr. John Pierce (brawd y briodferch), oheque; Mr. Hum- phrey Pierce (brawd eto), tea service; Mr. a Mrs. Harvey Farmer, silver water jug Mr. a Mrs. Eaton, copper trays; Miss Hudson, silver fruit servers; Miss Roberts, silver jam spoons; Miss A. E. Davies, silver photo frame Mr. a Mrs. Cave, silver mounted salad bowl and servers Miss Moses, silver mounted flower vase; Miss Maggie Evans, silver pickle fork; Miss Maggie Pierce, linen Mr. D. L. Lloyd, wrought iron and copper flower vases; Mr. a Mrs. Weeks, brass and copper candlestick and match stand Mr. E. Bence, silver photo frame; Mr. W. J. Roberts, oheque; Mr. a Mrs. J. E. Davies, table cloth; Miss Emily Thomas, pair of ornaments; Mrs. George Thomas, cream jug and sugar basin on silver stand; Mr. Watson, cheque; Monsieur Westry Reg, silver spirit kettle Mr. Julius Frank, Japanese vases and coffee cups and saucers; Mr. Theobold, silver teapot, basin and cream jug; Mr. a Mrs. Roger Jones, case of siver table cutlery Mr. Rice, skin rug; Miss Ellen Evans, silver teapot; Mr. a Mrs. Vaughan, table glass; Mr. Miller, cruet; Mr. a Mrs. W. Williams, china teapot; Mr a Mrs Morris Parry, silver mounted biscuit box; Mr. a Mrs. G. Owen, picture Mr. a Mrs. Gordon Lewis, revolving breakfast dish; Mrs. Crocker, silver tea caddy; Miss Carter, embroidery key board oover; y buyers a'r walkers (o W. A. Cyf.), oak hall stand; assistants (W. 0., Cyf.), brass coal scuttle Mr. Dick Pierce, two oil paintings; Mr. a Mrs. Hughes, Penygarn, tea cosy; Miss Davies, Wileirog, silver jam spoon; Mr. a Mrs. Jones, silver butter knife; Miss Maggie Jenkins, Dole, rug; Mr. a Mrs. John Williams, pair of silver candlesticks; Mr. a Mrs. Davies, Jerningham Road, Eider down quilt; Miss Jane Lewis, oak and silver butter dish and trowel; Mr. a Mrs. Thomas Pierce, Ormond Man- sions, silver cake basket; Miss M. A. Jones a Miss W. Jones, silver mounted jam dish; Misses May a. Hettie Williams, silver wedgewood china butter dish; Mr. a Mrs. Edward Pierce, pair of blankets; Mr. Humphrey Pierce, toilet service Miss Maggie Pierce, table cloth; Miss E. Pierce, linen tray cloths Mr. J. Erwin, Bristol, dinner service; Miss Armstrong Williams, tea cloth; Mrs. Biddall, Picture, Mr. H. M a J. Biddall, picture Miss A. Williams, Finchley Road, toilet cover; Miss Kate Evans, Harladen, silver jam spoon and butter knife Mr. H. J. Roberta, brass inkstand; Miss Bunting, table cloth; Miss Lewis, Machynlleth, fruit dish; Miss Lita Roger- Jones, gold chain; Mr. a Mrs. Hugh Jones, pair of pictures; Mr. a Mrs. James Williams, Shakespeare's complete works, leather bound, 3 vols.; Miss Annie Pierce, afternoon teacloth; Mr. H. Bunnyh, jam jar and butter dish to match; Miss Maggie Morgan,pair of hall brushes; Parch. J. Crowle Ellis, Beibl; Mrs. J. Crowle Ellis, table centre Mr. a Mrs. Evan Lloyd, dressing case Miss Cheil, linen Miss Ada Lloyd, silver butter cooler; Mr. a Mrs. David Jenkins, set of 3 copper water jugs; Mr. George, eider down quilt; Mr. a Mrs. Watkin Davies, cheese cover dish; Mi. a Mrs. W. Lewis, brass fire screen.