Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y Gaerfa Sadarn.

[No title]

Anherfyn Ryfeddodau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Anherfyn Ryfeddodau. Bu Mr. Balfour yn ceisio athronyddu gwyddoniaeth i ddysgedigion y Gymdeithas Brydeinig yn Nghaergrawnt yr wythnos o'r blaen; a thebyg yw eu bod hwy ac yntau mewn mwy o dywyllwch yn awr na chyn dechreu. Y mae yr athrylith gryfaf, yn ol addefiad Mr. Balfour ei hun, yn myned yn ganddryll wrth geisio amgyffred dirgelion natur. Flynyddoedd yn ol, pan oedd Huxley, Tyndal a Darwin yn anterth eu clod, yr oedd natur a'i rhyfeddodau wedi dod yn beth syml, hawdd ei deall i'r meddwl gwanaf. Gan fod elfenau natar yn cyduno yn unol a deddf mesur a phwys neillduol, daeth y dysgedigion i'r farn fod yr holl greadigaeth wedi ei hadeiladu o'r gronynau (atoms). Nid oedddyn-enaid a chorph-ond math o adeil- ad gwych, fel Eglwys Gadeiriol Sant Paul, -wedi ei roddi ynghyd, ronyn wrth ronyn- megis llwch yn cael ei ddal ynghyd gan gum. Nid oedd eisieu Duw na dim ysprydol. Yr oedd pob peth mor hynod o gyson a synwyr cyffredin. Ond erbyn heddyw, y mae gwydd- oniaeth wedi myned gam yn mhellach, ac y mae wedi syrthio dros y dibin i foroedd o ryfeddodau; bron a boddi, nid yw'n gwybod pa un ai yw yn breuddwydio ai yn effro, pa un ai sylwedd ai lledrith yw yr oil. Erbyn heddyw, y mae Marconi wedi gallu anfon telegrams filldiroedd o ffordd heb gyfrwng gwifrau. Yn wir, nis gwyr Marconi, ac nis gwyr neb arall, beth yw y cyfrwng sydd yn ei alluogi i anfon ei negeseuau. Y mae dychymyg y gwyddonwr yn galw y cyfrwng hwn ether; ond nid yw neb erioed wedi ei weled na'i deimlo. Am a wyr neb, gall y cyfrwng fod yn angylion gwasanaethgar. Yn mhellach, tybia gwyddoniaeth erbyn hyn fod y gronynau neu'r atoms, a ystyrid fel y peth- au eithaf a lleiaf mewn natur, yn ddim ond pecynau bach o drydaniaeth, y rhai, er mor fach, ydynt fydoedd o nerthoedd a rhyfedd- odau, anfeidrol fawr yn eu bychander. A beth yw trydaniaeth nid oes un dyn a wyr. Tybir yn awr mai trydaniaeth yw pobpeth. Y mynyddoedd oesol, y creigiau cedyrn, y ddaear sylweddol, yr haiarn caled a'r dur amhlygedig: nid ydynt oil ond clymau a phlethiadau yn nghorwyntoedd trydaniaeth anweledig. Nid yw yr atoms ond trobyllau yn yr ether sydd yn ymestyn trwy yr eang- derau. A dyn-y mae efe yn cerdded ar gymylau trydaniaeth, cymylau y mae'n ei weled, yn ei deimlo, yn ei aroglu, ei ar- chwaethu a'i glywed; a chwmwl o drydan- iaeth yw ef ei hun. A beth yw trydaniaeth? Digon teb/g mai llewyrch yr ysprydol yw. Yn y modd yma y mae gwyddoniaeth, wedi dechreu ymchwilio i natur gyda chyf- ryngau y synhwyrau corphorol, wedi teithio yn mlaen gyda goleuni bach synwyr cyff- redin nes o'r diwedd y mae mater wedi di- flanu o'r golwg a phob peth sylweddd1 yn myned yn gymylau amser; a hwythau yn gweled nad yw y greadigaeth enfawr ond cyd-berthynas nerthoedd; ac maent heddyw wyneb-yn-wyneb a'r b/d tragwyddol ac ys- prydol. The cloud-olapp'd towers, the gorgeous palaces. The solemn temples, the great globe itself [hasj dissolved. And like [an] insubstantial pageant faded, Leave not a rack behind. Nid oes dim yn bod ond eneidiau, ac nid yw y greadigaeth fawr ond meddwl yn ymsymud ac yn amlygu. Fel y beirdd, y mae'r gwydd- onwyr, hefyd, wedi dod i weled mai cysgod yw mater, neu, yn ngeiriau Islwyn:— Y marwol, cysgod o'r anfarwol yw, A'r greadigaeth enfawr, cysgod Duw Cysgodion o'i Anfeidrol allu Ef a'i ras Yn dod yn feithion fydoedd hyd y nef Am oesoedd ar ol oesoedd Ond pan y daw yn ei holl ogoniant draw Fe fill yr holl gysgodau oil yn un j A byth ni walir ond efe ei hun.

PRIODAS MR. DAVID ROBERTS…