Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

1 Llyfrau Newyddion.

YR OLL GELTIAID.

ARDDULL Y GYMRAEG.

[No title]

PWYSIGRWYDD Y TEULU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PWYSIGRWYDD Y TEULU. Darllenwyd papyr rhagorol gan Mrs. Bosanquet, ar Werth y Teulu,"o flaen y Gymdeithas Brydeinig dydd Llun, a rhodd- odd bwyslais ar bwysigrwydd y teulu. Un gwahaniaeth pwysig rhwng ein hoes ni ac oes ein teidiau yw, mai y dyn ei hun yw yr .1 unigolyn (itnit) yn awr tra mae y teulu fel cyfangorph oedd yr unigolyn gynt. Yn nghyfundeb y teulu y mae y cryf yn gofalu am fabandod ieuanc a babandod hen yr aelodau. Nis gall yr un genedl fod yn gref ac iach ag sydd trwy ei hysb) sebau yn dyweyd na fiw i ddyn a theulu ganddo ofyn gwaith nac ymofyn lloches ty. Yn y teulu y mae y dyn yn cyffwrdd a'r tragwyddol di-ddecbreu ac a'r tragwyddol ddi-ddarfod, ac y mae yn rhoi macs iddo lafurio ynddo ac er ei fwyn ag sydd inor eang a'i enaid ei hun-yr oesoedd aneirif sydd i ddod. Yn lie hyny, yr ydym ni yn pendroni hefo pethau bach personol ein bywyd bach ein hun. 'Does dim fel cyfranogi yn amcanion amhersonol y teulu am godi cyneddfau dyn- ion i lawn gwaith. Yn y teulu dysgir eg- wyddorion masnach ar yr un pryd ag y dysgir iaith ein mham. Y mae dynion cadarnaf a m W) af athrylithgar Lloegr yn dod o'r Gogledd, ac yno y mae gwasanaeth y llafurwr yn dibynu ar ei ragoriaeth ef a'i deulu fel cyfangorph,—nid arno ef yn ber- sonol. Rhagoriaeth fawr amaethyddiaeth yw ei bod yn ffafrio y teulu fel cyfangorph. Rhyw drychineb ynglyn a'r serchiadau teu- iuol sy'n arwain y cyfoethogion i grwydro o wlad eu mebyd, a chan mai ganddynt hwy y mae y cyfoeth gorfodir y llafurwyr i'w dilyn i'r trefydd mawr ac yno gael eu nychu gan bob trueni. Gormod, hwyrach, ydyw disgwyl y gellir dwyn pob dyn yn ol i ym- serchu a meddu tir ei wlad a'i aelwyd ei hun ond yn y cyfeiriad yma y gorwedd nerth a chryfder cenedl.

Advertising