Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Hyn a'r LiaiL

Oddeutu'r Ddinasm

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddinasm Mae organ newydd capel y Tabernacl Cymreig yn awr yn barod, a cheir clywed ei swn yfory (Saboth). Daw newydd o'r America fod y Parch. J. Davies, Shirland-rd., yn cael croesaw cynes a chynulliadau mawr i wrando arno. Ni fydd cynrychiolaeth liosog o Gymry Llundain yn y Rhyl yr wythnos nesaf; er hyn, ymddengys y bydd yr urdd swydd- ogol yno yn lied gryno. Daeth Mr. A. T. Lawrence, K.C., i fri yn ddiweddar ynglyn ag amryw faterion cyf- reithiol Cymreig ac ni fydd yn syndod gan rai ddeall ei fod wedi ei ddyrchafu i'r fainc Farnol yn yr Uchel Lys, oherwydd gwyddis ei fod yn wr galluog, llawn synwyr cyffredin. Ymddengys erthygl amserol ar wleidydd- iaeth Gymreig, yn rhifyn Medi o'r Independ- ent Review. Y mae cael amlinelliad o gyn- lluniau dyfodol yr aelod tros Gaernarfon ynglyn a chadgyrch wleidyddol Cymru yn sicr o ddwyn lies yn yr amseroedi hyn. Rywfodd neu gilydd, y mae gormod o swyn yn Mr. Lloyd-George i'r esgobion ei adael yn llwyr. Yr wythnos hon, mae esgob Tyddewi yn gwylied ei droion ar gopau yr Alpau, a'r wythnos nesaf bydd Esgob Llan- elwy yn gyd-gadeirydd iddo yn y 'Steddfod. 'Does neb yn meddwl am deithio i Gymru ond mewn tren y dyddiau hyn. Gwir yr a ambell un mewn modur, neu ar olwynur, os byddo'r tywydd yn ddymunol a'r cwmni yn ddifyr ond dull yr hen bobl gymeroid Mr. D. J. Davies, King's Cross, y dydd o'r blaen, pan y penderfynodd gerdded yr holl ffjrdd o Lundain i ganolbarth Ceredigion. D/ma'r ail waith i Mr. D lvies roddi ei goesau ar waith am y daith hirfaith hon. Y llynedd, cerddodd o'r Marble Arch i ben pont Llanbedr, Ceredigion, mewn pum' niwrnod ond y tro hwn, rhoddodd y gew- ynau ar waith, a chwblhaodd yr un gwaith mewn pedwar niwrnod. Cychwynodd yn oriau man boreu ddydd Llun (Awst IS) ar y daith, gan droedio o Hyde Park trwy ddyffryn y Tafwys mor bell a Rhydychen y dydd cyntaf. Tranoeth cyr- haeddodd Caerloyw. Dydd Mercher daeth i'r Fenni, a dydd lau cyrhaeddodd ei gar- tref yn Llanbedr, ar ol taith bleserus o 214 milldir. Yr oedd yn haeddu gwyliau tawel ar ol y fath daith hirfaith. Yn yr Arddangosfa Gydweithredol yn y Palas Grisial gwelid llechi o Chwarel Gyd- weithredol Bethesda. Ymwelodd llawer, fel arfer, a'r arddangosfa flynyddol hon.

Advertising