Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

--Aa-f,. I-----iI i---d-Byd…

[No title]

Galon Genesis.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Galon Genesis. Y peth bach mwyaf penderfynol yn y byd yw y galon. Y peth mwyaf diflino, dior- phwys, didroi.yn-ol. Nid yw ei mhaint ond cymaint a dwrn cauedig dyn ond hi ydyw ffynonell ei holl weithgarwch a'i holl weith- redoedd. Hi sydd yn enill brwydrau ar faes y gwaed, hi sydd yn goresgyn caerau ac yn eu cymeryd, hi sydd yn gwrthsefyll holl ymosodiadau y gelyn ac yn ei yru ar ffo. Hi yw cartrefle dewrder a ffynonell nerth. Nid yw byth yn gorphwys, nid oes gwyliau yn dod i'w rhan hi. O'r boreu hyd y nos ac o'r nos hyd y boreu drachefn, y mae ei chur- iadau hi yn ffyddlawn a diaros, o un flwyddyn i'r llall; ac o foreu oes hyd henaint ni phalla ac ni ddiffygia. Ni erys ar ei thaith er mwyn neb, a phan y mae pawb wedi ang- hofio ei bodolaeth, curo, curo yn dawel, y mae hi. Nid oes ond un gelyn all ei gorch- fygu, ac, am a wyr dyn, y mae cerddoriaeth ei churiadau yn ymgolli ac yn myned yn rhan o gerddoriaeth amser eangach. Yna derfydd pob rhyw ganu Ond y canu hwnw mwy. Y mae pob ton o deimlad a ddaw dros y corph yn effeithio arni, pob ton o hapus- rwydd yn llawenychu ei symudiadau a phob awel o alar yn arafu a lleddfu ei cherdded- iad ac y mae hithau yn anfon ei hewyllys i bob rhan o'r corph ymfywia bob gwythien a denfyn ei hewyllys i'r gwaedlestr gwanaf a lleiaf. Curo y mae yn yr hedyn bychan anweledig ac yn y corph sydd wedi cyr- haedd ei lawn dwt. Y mae i genedl ei chalon, lie y canol- bwyntia ei holl deimladau, lie mae cronfa ei nerth a chyflenwad ei gwroldeb. Yr ydym wedi gweled cenhedloedd bychain, cryno, ac unol a gwirioneddol, o'r ysbryd yn gorch- fygu cenedloedd mawr, ond llac, chwyddedig ac amlygiad yr ysbryd yn anwireddus yn- ddynt. Cenedloedd bach, fel dynion bach, y byd sydd yn wrol, yn feiddgar ac yn an- orchfygol. Y mae eu calon, cartrefle eu dewrder, mewn unoliaeth perffaith a'r holl gorph. Unol fel un gwr: y mae curiad y galon genedlaethol yn cyrhaedd ac yn maethu ac yn cryfhau yr aelod lleiaf. Y mae y serch genedlaethol yn gwefreiddio trwy bob rhan a chyfran o'r cyfan. Nerth serch at ei dyheadau, at y Messiah sydd yn swyno y meddwl cenedlaethol o'r amser boreuaf, ac, fel cerddoriaeth nas gellir ei glywed ond yn cyd-daro a churiad y galon, yn cydfyned a hi trwy holl ddigwyddiadau amser, yn cydblygu a chydgrymu yr oil i'r un amcan cenedlaethol-y nerth serch yma sydd yn rhoi i'r genedl ewyllys a dymuniad i sylweddoli a chorpholi y dyfodol. Y galon yw nyth rhyfeddodau y serchiadau. O'i chanolbwynt hi yr ymestyn yn ol tros gym- ylau a muriau amser, hen adgofion am wr- oniaid a fu, dewrder Owain Glyndwr, daioni Hywel dda, cryfder Gruffydd ap Cynan, coethder Rhys ap Tewdwr a llu ereill; ac ymlaen y mae yn gweled, megis mewn rhith breuddwyd, y gwroniaid sydd i ddod atynt hwy, hefyd, yr ymestyn ei serch ynddynt hwy y mae yr un ddelfryd cenedlaethol- Messiah y genedl, drychfeddwl y genedl, nad yw eto ond wedi ymddangos mewn cysgodion, ac mewn rhan. Cura y galon ei cherdd hyd nes gorphen ei gwaith, nes cyf- lawni ei gorchwyl, nes amlygu ei hamcan, hyd nes y delo angeu ac a'i tawdd a'i ym- golla mewn delfryd eangach gan fod pob cenedl yn Messiah of some central thought For the delight and fulfilment of mankind.

[No title]