Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Pellebyr—" NURDIN, LONDON." Pellseinydd-P.O. 6484 CENTRAL. NAT. 3526 GERRARD; NURDIN a PEACOCK, WELLS STREET, OXFORD STREET, LONDON, W. WYAU ) Trosglwyddwyr a dadforwyi uniongyrohol o LLABTH ("Condensed YMENYN I bobrhanofyd. TEWADWY MilkV CAWS I Wedi eu prynu a'u parotoi gan ein Goruch- DAN Y NOD '• NURD INN." Hjr h o/ k OTMC I wylwyr lleol, o dan ein sel a'n henw yn I y lleoedd eu gwneir. LLAETH TEWADWY YN LLAWN LARD HUFEN A PHUR. GW ARENrIR EU PURDEB. Rhestr o'r Prisiau ar Archiad. DAN Y NOD" PEACOCK." LLAETH PARATOEDIG A PHUREDIG I3AIR.SO Maethyn Rhagorol yn YN LLAkWN HUFEN AG HEB EI PELYSU ^le Ymenyn. MBWN BLYGHAU HYLAW. PRISIAU ISEL. IACHUSOL, MAETHLiON A BLASUS. Gwareatir glrtr^eu dracur. Pecyn Pwys. i'w ail werthu 8c. Haner pwys, 4c. II Prisau a Samplau ond anfon eich cardyn.
Sassiwn Bangor.
Sassiwn Bangor. Y mater y teimlid mwyaf o ddyddordeb ynddo yn y Sassiwn ydoedd y cynygiad i uno Colegau y Btla a Threfecca, a sefydlu un coleg yn Aberystwyth, yn ol cynllun Mr. D. Davies, L'andinam, yr hwn, yn nghyd a'i deulu, sydd wedi addaw rhodd sylweddol at y draul. Ba'r cynllun gerbron Cymdeithasfa Llanrwst dri mis yn ol, a'r pryd hwnw pen- odwyd pwyllgor i fyned i mewn i'r cynllun, ac i ddwyn adroddiad i'r Gymdeithasfa hon. Cyn galvv am y cyfryw adroddiad, fodd bynag, hysbysodd yr ysgrifenydd-y Parch. J. O. Thomas, Porthaethwy—ei fod wedi derbyn cenadwri oddiwrth Gymdeithasfa'r Deheudir i'r perwyl ddarfod iddi, yn wyneb y cenadwriaethau a dderbyniwyd o'r Cyfar- fodydd Misol ar y mater, benodi pymtheg o frodyr i ffurfio pwyllgor i ymdrafod a phwyllgor cyffelyb o Gymdeithasfa'r Gog- ledd, ac i ddwyn mewn adroddiad i'r Gymdeithasfa nesaf. Wedi cryn lawer o siarad, penderfynwyd cytuno ag ysbryd yr awgrymiad wnaed gan y Parch. Otven Hughes, Amlwch, sef fod y Gymdeithasfa, yn y He cyntaf, mewn ateb- iad i genadwri y De, yn datgan ei pharod- rwydd i benodi pwyllgor o 15 i'w cyfarfod hwy mor faan ag y derbynid adroddiad y pwyllgor a barn y Cyfarfod Misol. Penodwyd y brodyr canlynol i dyny allan benderfyniad i'r perwyl hwnw: Parch. Owen Hughes, Owen Owens, Jahn Williams, Ler- pwl; E. J. Jones a Mr. Peter Roberts. j Wele'r penderfyniad: Ein bod fel Cym- deithasfa yn llawenychl1 wrth weled parod- rwydd ein brodyr yn y De i gyd-ymgynghori a ni ynglyn a'r mater pwysig o gael un Athrofa Dduwinyddol i'r Cyfundeb ein bod yn ystyried mai angenrheidiol f ydd i ni yn y Gogledd nodi pwyllgor i gyfarfod eu pwyllgor hwy fel yr awgryment; ac os bydd adroddiad y pwyllgor ymchwiliadol benod- wyd genym, a barn ein C yfarfodydd Misol, yn ffafriol i'r undeb, y byddwn yn apwyntio y cyfryw bwyllgor yn ddioed." Ar gynyg- iad y Parch. John Williams, cafodd y pen- derfyniad hwn ei basio yn unfrydol. Cvflwynwyd anerchiad goreuredig hardd i'r Parch. Daniel Rowlands, Bangor, ar ei ymneillduad fel ysgrifenydd cyffredinol Trysorfa y Gweinidogion, yr hon swydd a lanwyd ganddo am 30 mlynedd. Caed adroddiad dyddorol iawn o hanes yr achos yn Arfon, gan y Parch. W. Williams, Talysarn, gan ddangos cynydd mawr. Cyflwynodd y Parch. J. Howel Hughes, Bala, yr adroddiad a ganlyn o arholiad ym- geiswyr am y weinidogaeth. Ymgeisiodd 14. a bu 12 yn llwvddianus :— 01 Safon 400 William John Roberts, Llanberis 368 Ellis Llewelyn Wiiliams, Llanllechid 347 Owen Owens, Portdinorwic 326 John Fcanois Griffith, Llanrwst 314 Owen Humphreys Jones, Waenfawr 313 Gth. R. Jones, Borth, Porthmadog 295 Griffith Ellis Jones, Nebo, Arfon 279 Idwal Davies, Pantperthog 278 Richard Williams, Hirael, Bangor 264 Hywel Parry, Llandegfan 250 David Lloyd Jones, Llandinam 233 Oaradoc Ivor Rowlands, Bootle 200 ————— Cyflwynwyd adroddiad Cyfeisteddfod Ath- rofa'r Bala gan y Parch. John O^en, W/dd- grug". Hysbysid yn y cyfryw adroddiad fod gwaith rhagorol wedi ei wneyd yn ystod y flwyddyn, ac fod nifer yr efrydwyr (45) yn j uwch nag y bu er pan drowyd y sefydliad yn goleg duwinyddol. Galwodd y Parch. E. Roberts, Dolgellau, sylw at y Dydd Diolchgarwch sydd i'w gynal ar y trydydd Llun yn Hydref. Cyfeir- iodd at y rhesymau neillduol sydd eleni dros neillduo y dydd hwn i ddiolch i'r nefoedd. Dywedodd fod yna lawer o demtasiynau yn cael eu gosod ar ffordd pobl ieuainc i fyned oddicartref ar y dydd hwn. Dylid gwneyd yr oil oedd yn bosibl i rwystro hyn. Ynglyn a Chasgliad yr Ugeinfed Ganrif, dywedodd y Parch E. James Jones, yn ei ad- roddiad, fod dros 57,485P wedi ei gasglu, ar yr hyn y disgwylid 700P o log. Disgwylir y bydd 6o,ooop wedi cael ei gasglu erbyn dechreu y flwyddyn nesaf. Cynygiodd Mr. J. Owens, Caer, bender- fyniad o gydymdeimlad ag Eglwvs Rydd Unedig Scotland. Cefnojodd y Parch. E. James Jones y penderfyniad, yr hwa oedd wedi ei dynu allati yn ofalus, gan beidio dat- gan barn ar y cwestiwn mewn dadt. Oad yr oedd cwestiwn arall yn codi ynglyn a'r dyfarniad, sef beth oedd sefyllfa yr holl eglwysi rhyddion ereill a'u meddianau ? Nis j gwyddai a oedd eiddo unrhyw enwad yn j awr yn ddiogel. Ond boddlonwyd yn awr ar yn unig ddatgan cydymdeimlad yn syml a'r Eglwys Rydd Unedig. i Ar gynygiad y Parch. J. Pryce Davies, Caer, a chefnogiad y Parch. D. Rowlands, pasiwyd i roddi llythyr cyflwyniad i'r Parch. D. M. Richards, Llanberis, ar ei symudiad i gymeryd gofal eglwys Utica. j Penodwyd y Parchn. J. Williams, Gwrec- sam, a Mr. John Owens, Caer, i gynrychioli y Gymdeithasfa yn Nghymanfa Ddirwestol I Gwynedd yn Mhenygroes. s
Advertising
The' Principalitu lote. 0 ø p.. GO CD œ p. œ 0 z Fla z E-t rn. ""II CD td 0 The' Principalitg Fountain Pen. A PERFECT PEN FOR ALL COMMERCIAL PURPOSES. Fitted with 14 ct. gold nib. SPECIAL OFFER 3/- Each To be obtained only of W. ISACKE, Wholesale and Retail Stationer, Printer Accoant Book JWakeir, 2", Edgware Rd., W. SPECIALITY IN Milk Ledgers and Dairy Trade Account Books. —— Any Ruling supplied on Shortest Notice. SEND FOR ESTIMATES.
PROVINCIAL PAPERS IN LONDON.
PROVINCIAL PAPERS IN LONDON. The LONDON KELT (and all Provincial Papers) is on sale every Friday morning art 9.30. Order of your Newsagent, or direct of W. H. EVERETT & Son, Ltd., Bells Build- ings, Salisbury Square, E.C. Established 1793. Full List free on application. Special Messengers despatched morning, mid-day, and evening, to all the leading parts of London- 0