Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y Dyfodolm

ynhadledd Oll-Geltaidd.

Y " GENINEN EISTEDDFODOL."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GENINEN EISTEDDFODOL." Er's blynyddoedd lawer, bellach, y mae Eifionydd wedi gwnevd gwaith pwysig yn nglyn a'n man Eisteddfodau drwy gyhoeddi, mewn argraffiad arbenig o'r Geninen, rai o'r darnau barddonol a wobrwyir o bryd i bryd yn y cynulliadau hyn. Fel rheol, ni cha' neb ond yr awdwr a'r beirniad unrhyw fudd oddiwth y cynyrchion o'r dosbarth hwn, am fod mwyafrif yr Eisteddfodau yn troi yn fethiant arianol, neu, am fod y pwyllgorau ynglyn a hwy heb ronyn o barch tuagat lenyddiaeth i dalu unrhyw sylw o barth cy- hoeddi gwaith goreu yr wyl. Y mae llawer i ganig dlos wedi myn'd ar goll drwy esgeul- usdra y man bivyligorau ac y mae'r gwa- hanol awdlau a wobrwyir yn anaddas i new- yddiadur, neu gylchgrawn, fel na chaiff y bobl gyffredin y fantais oddarllen y gwaith a ddyfernir yn oreu. Oad, o dipyn i beth, y mae Eifionydd yn gwneyd y diffyg i fyny. Y mae'n casglu, y naill flwyddyn ar ol y Hall, amryw ddarnau i'w gosod yn ei gasgliad, ac wele'r rhifyn am Awst (eleni) ger eia bron yn awr. Beth ddywedwn am dano ? Y mae ei gynwys yn amrywiol. Cynwysa awdlau a phryddestau, englynion a chywyddau,—pa rai, ryw dro, fuont dan bwys a mesur y beirniad doeth. Anheg, feallai, a'r gwyr fuont yn eu clorianu ac yn eu cyhoeddi fel clasuron yr iaith neu yn werth gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol," a brawddegau cyffelyb, fyddai i ni daflu ein llinyn mesur drostynt. Ond gellir dyweyd fod yma am- rywiol dalentau, yn ogystal ag amrywiol gyf- nodau, yn cael eu cynrychioli. Yn wir, ceir yma un dernyn a wobrwywyd yn 1861 yn cael goleu dydd am y waith gyntaf mewn dull safonol, tra y mae amryw yn cynrych- ioli talentau enwog rhyw chwarter canrif yn ol. Dechreuir gyda phryddest ar Orfoledd," yr hon a enillodd y gadair yn Nolgellau y Calan diweddaf. Er mai newydd ydyw, nid cynyrch y Bardd newydd mo honi; oher- wydd dilyna yr un hen gynllun ystrydebol o rigymu llawer heb ddyweyd fawr o ddim. Awdl fywiog ydyw yr awdl fuddugol ar Y Bugail yn Eisteddfod Dyffrynoedd yr Aled a'r Elwy y llynedd ac y mae pryddest cadair Glynderwen yn brawf fod yr awdwr yn fardd gwych. Am y mân ddarnau, y maent yn llu mawr gydag ami i berl tlws yn eu mysg. Dylai rhifyn yr Eisteddfod o'r cylchgrawn poblog- aidd hwn gael derbyniad parod gan ein beirdd ieuainc, oherwydd ca'nt bortread lied gywir ynddo o'r hyn a gydnabyddir gan ein beirniaid fel barddoniaeth. Y mae'n llawn gwerth y swllt a ofynir am dano.

[No title]