Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Cyfaredd y Wlad.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am y tro cyntaf, enwir un o wiblongau y Llynges Brydeinig ag enw Cymreig. Enwir yr un a adeiladir ar y Clwyd Ysgotaidd yn awr yn Carnarvon." Mynd a dod yw'r hanes ynglyn a'r A.S.-od Cymreig. Wele Mr. Lloyd George yn ol erbyn 'Steddfod Rhyl, ond aiff Mr. Sam Evans ar daith i'r 'Merica. Yn ystod yr Hydref dyfodol bwriada Mr* William Jones dalu ymweliad a gwlad yr lancis eto, a bydd yn darlithio mewn amryw- leoedd ar bynciau llenyddol ac hanesyddoÐJ y mae efe yn feistr arnynt. Da genym ddeall fod Mr. William Jones, A.S., ac Esgob Llanelwy wedi dylanwadu ar y Prifweinidog i gydnabod hen lenor Cym- reig arall. Y mae Glan Menai wedi cael blwydd-dal o £30 am ei lafur maith ar ran: hanes a hynafiaethau ein gwlad. Fel arweinydd Eisteddfod y mae Mabon yn ddiguro, ond y mae poethder yr hin eleni wedi bod yn faith ar gorff cadarn aelod y glowyr hefyd. 0 hyn allan rhaid fydd iddo ymgymeryd a'r cynulliadau hyn yn ystod y gauaf yn unig. Mae parhad o'r bin pleserus yma wedi cadw lluoedd ar lanau y m6r eto. 0 bob ardal yn Nghymru hysbysir fod yr ymwelwyr yn ar0& yn fwy diweddar nag erioed. Can y lletywyr o hyn allan fydd, "0 na byddai'n hâf 0" hyd 1" Mae Ficer Ski wen mewn pryder mawr am gymeriad crefyddol y Cymro, a chred fod) Ymneillduaeth yn prysur droi'r wlad yn baganaidd. Wel, y mae'n rhyw gysur i ni weled fod rhywun o fewn y corlanau EglwysigT -ni waeth o ble yr aethant yno-yn dechreir,, pryderu am gyflwr moesol y wlad. Feallai y daw gwawr o ddiwygiad ar ol hyn. Y mae Mesur cau y Tafarndai ar y Sabotb wedi profi mor fendithiol i Gymru fel ag mae sir Fynwy wedi penderfynu gwneyd cais am estyniad y Mesur iddynt hwythau.