Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y Gymanfa Geitaidd.

[No title]

Bwrdd y ' Ce/f. '

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd y Ce/f. Bu'r Gol. yn affodus iawn yn ei wyliau eleni. Aetb oddiyma yn ben wr penwyn, gwargam, gyda'r bwriftd o adenill peth o'i ieuengrwydd a'i hoywder yn yr Hen Wlact; ond ow, fel arall y bu. Pan ddaeth i'r 'stafell, ar ddiwedd yr wythnos hon, yr oedd mor- hen fel nad oedd neb o'r bechgyn yn cofio am dano. Son am Rip Van Winkle gynt, nid oedd i'w gyd- maru ag ef; a'r esponiad ar y cyfan oedd, fod yr ben wr wedi mynychu cynulliadau benafol Cymru gyda'r fath ffyddlondeb nes hollol newid ei bersonoliaeth. Yn nghyntaf, aeth i Aberteifi, i fysg yr Hynaf- iaetbwyr, ac ni chaed gair o'i enau ond am drigolioit yr hen wlad rhyw ddwy fil a rhagor o flwyddi yn ol. Wedi hyn, hwyliodd i Gaernarfon, er cyduno gweddill o'r Celtiaid i gynal Sassiwn, BC, wrth gwrs,. efe a roed yn ben, a mawr yr effaith a gafodd arno. Yn ddiweddaf oil, talodd ymweliad a'r Hen Eistedd- fod yn y Rhyl, a chafodd fod hono fel yn y dyddiatt hapus gynt yn cadw ei phrif nodweddion, yn arbenig ei set dros y beirdd a'r cwrw. Do, fe ddaeth yn ei ol, ac, o hyn allan, y mae wedi tyngu nad el ond i gynulliadau bywiog y genedl, sef gornest corau meib- lon neu faes y bel droed. Oherwydd ei absenoldeb, yr oedd y gwaith wedi aros, a'r peth cyntaf a roed o'i flaen oedd cwynion y gwahanol ohebwyr, a gwnaeth yntau eu calonogi a'r geiriau cysurlawn a ganlyn :— Daron. Do, fe gawliodd y D--1 eich penillion;. ond caiff y gwr bach fod yn fwy gofalus rhagllaw. J. G. Jones. Enw gorseddol y Marcwis o Fôn yw Cadrawd Hardd," ac o ran hyny enw gomeddol yw, hefyd, fel y dywed y cyssodydd yn ein rhifyn di- weddaf. W. Davies. Ar ei wyliau yr oedd y Gol., ac mae'r cnaf hwnw, fel pob gwr bynheddig arall, yn aughofio pobpeth am bregethwyr pan oddicartref. Gwelwch y rbes yn y rhifyn hwn. E. Jones. Trefnir i wneyd y cyfnewidiad yn y papyr ddechreu Hydref, ond y mae ysgrifau Saesneg eisoe& wedi eu sicrhau. Gwelwch un yn y rhifyn hwn. Cymro. Ie wir, shit ddoniol ydyw a dylid ei chy- hoeddi led-led Cymreigdod. Yr unig beth a hoffeIIli fyddai rhagor o fanylion, sef, i ddyweyd fod y Gol. newydd briodi"gwidw gyfoefahog" fel ag i sicrhau safle arianol y papyr, ac, hefyd, fod trefniadau wedi eu cwblhau er sicrhau erthyglau ar foesoldeb oddi- wrth bregethwyr a droir allan o'r pwlpud am feddwi. Y mae'r testyn mor eang wyddocb. Ateb Cwyn y Methodist yw penawd ysgrif o'r Gog- leddbarth ond nid ateb yw gwneyd "ensyn- iadau" anheg ac anghywir. Y mae'n eglur fod y "Methodist" yn gweled brycheuyn yn llygad ei frawd, tra y mae trawst mawr yn ei lygad ef ei hun. Gwir yw hyn; a phe bai rhagor o honom yn edrych ar ol ein busnes ein hun, deuai'r byd yn fwy unol a theg.

" RHODDI CEIRCH IDDO."