Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Cspdrem ar yr WyL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cspdrem ar yr WyL Bu Eisteddfod Rhyl yn llwyddiant arianol, ond, a fu hi yn llwyddiant cenedlaethol? Llesoli y genedl, wedi'r cyfan, ddylai fod yn brif amcan yr hen sefydliad; ond rhaid addef mai prin lawn ydoedd y nodweddion Cymreig ynglyn a hi o'i dechreuad i'r di- 'Wedd. Alltudiwyd y corau Cymreig o'r ym- drechfeydd am mai safonau Seisnig a ddefn- yddid i'w clorianu distawyd yr areithwyr Cymreig am na allasai y dorf wrando ar bersonau yn siarad yr iaith hono; a churwyd y beirniaid llenyddol o'r llwyfan am mai a materion Cymreig yr ymdrinient. Mae y pethau hyn yn dod yn rhy gyffredin ynglyn oâ hi er's amser, ond ni fuont yn fwy amlwg erioed nag oeddynt yn Rhyl eleni. Aeth pres y prif ddarn cerddorol i LJegr, ond ataliwyd y brif wobr lenyddol. Y rheswm hyn ydoedd, nad oedd yr un o'r gweith- iau a anfonwyd i mewn,yndeilwng. Credwn ^ai anheg iawn ydyw ymddygiad o'r fath, yn enwedig pan y gwyddai'r pwyllgor a'r beirniaid fod llafar enfawr wedi boi ynglyn a'r cyfansoddiadau ac fod mwy na gwerth y wobr o amser wedi ei dreulio ynglyn a rhai 0 honynt. Addefid fod yr amser yn rhy brin at y fath destyn. Os felly, ni ddylid cosbi'r ynigeiswyr. Byddai yn fwy anogol i chwilotwyr y dyfodol, pe gwobrwyasid y goreu, hyd yn oed pe gorfodid y pwyllgor a atal rhan o'r arian. Fel y saif yn awr, y Itlae'r gystadleuaeth yn anfoddhaol iawn. Bu'r beirdd yn fwy ffortunus. Yn eu had ran hwy anaml yr atelir gwobr, eithr ca'r goreu ei dal. Ni chaed rhyw safon uchel iawn eleni, medd y beirniaid, eto yr oedd yr oil yn deilwng o gydnabyddiaeth. Os am gadw cymeriad yr hen Wyl, rhaid dysgu y bobl i dalu mwy o sylw i'r adran lenyddol, a rhoddi gwell gwrandawiad i Gymry blaen- llaw ond os na wneir hyn. fe aiff yr oil yn fath o ornestau canu na fyddant o ddyddor- deb i neb ond haid o las-lanciau terfysglyd, heb ronyn o garc dros les na llwyddiant ein pobl.

Y Cynghor Rhyddfrydig Cymreig-

Barddoniaeth. :^

[No title]