Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y Byd a'r Bettws.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Byd a'r Bettws. Heddwch gwaeddai Hwfa y dydd o'r blaen ond I'r Gad ydyw bloedd Mr. D. Lloyd-George heddyw. Yn ol pob argoelion bydd y cynulliad yn Nghaerdydd ar y 6ed o'r mis nesaf y cwrdd mwyaf cenedlaethol" a gaed erioed. Er cefnogi cadgyrch Mr. George y mae arwyddiwn y ceir can' mil o bunau gan Eglwysi Rhyddion Lloegr. Gydag ychydig eithriadau, bydd yr Ael- odau Seneddol Cymreig oil yn Nghynad- ledd Caerdydd. Rhydd Syr Alfred Thomas groesaw Cymreig iddynt hwy a llawer o'r cynrychiolwyr, hefyd, mewn gwledd fawr. Y mae rhai o ysgolfeistri Mynwy wedi myned "ar streic yn erbyn y Bwrdd Add- ysg, ac y mae hwnw, wedyn, heb wybod pa le y mae yn sefyll. 0 ie, pwnc dyddorol yw pwnc addysg yn Nghymru heddyw I Nid yw'r Gymraeg i farw'n fuan, er cym- aint y siarad sydd. Mae yn agos i filiwn yn abl i'w siarad yn Nghymru ac ar ol yr ystadegau diweddaraf, y mae 93,744 o ber- sonau, wedi eu geni yn Nghymru, yn awr yn byw yn yr America. Nid ydyw yn syndod, felly, mai yn y wlad hono y ceir y newyddiadur Cymraeg goreu. Ymddengys fod y "Parch." J.Vyrnwy Morgan yn dechreu cael ei draed dano eto yn Nghymru, medd y Drych, a'i gyfeiriad yw Ty'r Eglwys, Cwmafon, Port Talbot. Ei anturiaeth olaf oedd cyhoeddi Cofiant a Gweithiau Edward Roberts (A.), Seion, Cwmafon, yn gyfrol 345 tudalen. 0 hyn allan, bydd gan Esgob Bangor sedd yn Nhy'r Arglwyddi. Ar ol marw'r Esgob Carlisle, ei frawd o Fangor sydd,, yn ol y trefniadau, i esgyn i'r sedd wag yn Nhy'r Arglwyddi. Bydd gan Gymry, felly, ei chynrychiolaeth llawn yn y Ty uchaf am yspaid yn ychwaneg eto. Bu farw Tywysog Bismark, mab hynaf cawr yr Almaen, ddydd Sul diweddaf, yn ei bymthegfed flwydd a deugain. Ceisiodd ys- gwyd teyrnwialen ac yfed o'r cwpan y gwnai ei dad, ond nis mynai natur iddo. Y mae dyn du o Jamaica, sydd er's amser wedi cymeryd arno ei hun ddysgu y werin yn Llundain, wedi cael allan nad oes yna yr un cyfeiriad at y Sais yn y Beibl, tra ;nol darganfyddiadau diweddar yn Abyssinia yr oedd y dyn du yn gallu darllen ac ys- grifenu yn amser Solomon. Pawb dros ei genedl ei hun onide ? Gwahoddir gwehyddion Cotton, Lancashire,, i ymfudo i Ddêa Gogledd America, hwya'u gweithfeydd. Gwlad y Gwyddel yw America,. ac er mewn llawnder yno, nid yw wedi anghofio y cam wnaed a'r Ynys Werdd. Cyn hir, fe fydd Prydain a'i hadfeilion wedi myned yn ddim ond lie i ddifyru yr Ianci.