Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
D. J. TRUSCOTT & CO. Auctioneers, House, Dairy & Farm Agents, &c. 11, BOND COURT, WALBROOK. N60 Gallons daily at 4d., 214 Shop, Price £550. 1.. W., 42 gallons daily at 4d., Bl4 Shop, £475, W.C., 44 gallons daily at 4d., £15 Shop, £650. W.. SO gallons daily at 4d., £650. N., 36 gallons daily at 4d., £15 Shop, £350. Indoor 214 weekly, £40 Ditto, £30 weekly, £ 135. Ditto £12 weekly, B50 W., 28 gallons daily 4d., £30 Shop, £400. HILK BUSINESSES. GREAT BARGAINS H. Willings & Co Dairy Agents, 125, FLEET STREET, LONDON, E.G. Telephone -150 HOLBORN. DAIRY SHOW; NOTICE. We shall be pleased to see as usual both Old and New Clients at our office adjoining The Dairy Supply Co. Stand. THE FOLLOWING CONCERNS JUST RECEIVED. MILK.—S.W., 13 Barns at 4d., Shop jE14, Pram, £280. West, 13 Barns at 4d., Shop £10, Pram, £ 235. Fulham, 16 Barns at 4d., Shop £10, 2 Prams, 1!350. Clapham, 12 Barns at 4d., Shop £10, Pram £250. N.W., 8 Barns at 4d., good Shop, £ 75. S.W., 3 Barns at 4d., Shop B12, Pram, £180. N.W., near 111, 10 Barns at 4d., Shop JS10, £ 220. Another, 7 Barns at 4d., Shop £10, Pram, £140. Near Wands- Worth, 9t Barns at 4d., Shop £20, Pram, £250. N., 9 Barns at 4d., Shop £14, Pram, £200. Offer. LAMBETH. MILK.—19 Barns daily at 4d., Shop £15 weak, con- ui. venient House and Shop at very low Rent, Lease, 2 Prams, Price only £360 genuine. OXFORD CIRCUS. MILK.—23 Barns daily at 4d. less little at 3d., -ui Shop £18 week, 2 Pram Rounds, well-fitted ,Shop, good House, Rant nearly all let off, L3a3e. Price only £700, recommended. HACKNEY. MILK.—10 £ Barns daily at 4d., Shop £ 18 week, -UH. 1 Pram Round, Rent cheap, half let off, same hands 5 years, ready-made trade, good House, Price £ 240. Call or write. WEST END. MILK.—28 Barns daily a.t 4d., Shop £ 28 week, 3 Prams, good Premises, £ 800. Another, 27 Barns daily (21 at 4d.), 2 Rounds, Phot:) at offiaa, same hands 20 years, £430. Further particulars of Ir. Willings & Co., address above.
FFARWEL I
FFARWEL I UNIAD Y "CELT" A'R LONDON WELSHMAN." Bydd yn syn ac yn flin gan ganoedd Ulywed mai hwn fydd y copi olaf gyhoeidir 0 GELT LLUNDAIN. Mae'r CELT wedi ym- drechu ymdrech deg ac wedi gwneyd, ni gredwn, wasanaeth nid b/chan i Gymry Llundain yn ystod y deng mlynedd di- weddaf. Llawer gwatth cyn i'r CELT gael ei gychwyn, gwnawd ymirech i sefydlu papyr wythnosol er gwasanaeth i Gymry'r brifddinas ond methu waaeth pob antur- laeth o'r fath. Yn mis Ionawr 1895, cych- wynwyd y LONDON KELT gan Mr. T. J. Evans ac ychydig gyfeillion fel papyr dwyieithog. Vn tnis Medi 1896, sefydlwyd cwmni new- ydd i'w gario ymlaen, trowd y CELT yn bapyr Cymraeg o glawr i glawr, bu'r ysgrifenydd yn ei olygu am ryw ctl we' mis, ac ar ol hyny daeth Mr. T. J. Evans yn ol i'w hen gadair ol- ygyddol. Ni fyddai'n weddus i ni ddyweyd gair am waith a gwasanaeth a dylanwad y 'CELT yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf and credwn y galtwn, gyda phriodoldeb, ddyweyd cymaint a hyn. Mae wedi bod yn gyfrwng i uno Cymry'r Brifddinas at eu gilydd, i'w gwneyd yn fwy adnabyddus o'u Silydd, ac hefyd, ni obeithiwn, i'w gwneyd yn well Cymry, yn fwy iaithgarol, llengarol a gwladgarol. Os ydym wedi llwyddo i wneyd hyn, yr ydym wedi ateb dyben ein bodolaeth," a thra boddlon ydym i ganu ein" Nunc Dimittis," fel Simeon gynt. ———— Yr ydym yn gosod ein heinioes i lawr, nid o angenrhaid, ond o lwyrfryd calon. Fe wyr ein darllenwyr fod y Mri. Harrison, St. Martin's Lane, wedi penderfynu cyhoeddi wythnosolyn newydd i Gymry Llundain dan yr enw," THE LONDON WELSHMAN," Y Parch J. Machreth Rees, bardd cadeiriol Eisteddfod y Rhyl eleni, ac un o lenorion gwychaf ein cenedl, fydd y gol yg-ydd, a sicrheir ni y bydd y LONDON WELSHMAN yn bapyr teil- wng o Gymry Llundain. Teimlem, dan yr amgylchiadau mai anoeth fyddai i ddau bapyr Cymraeg ymladd a'u gilvdd yn Llun- dain, ac ofnem mai'r canlyniad fyddai llawer o "ddigasedd a phob anghariadoldeb," ac efallai marwolaeth y ddau bapyr yn y di- wedd. Nid oeddem erioed wedi meddwl na bwriadu gwneyd arian o'r CELT. Ein hunig amcan oedd cael papyr Cymraeg oedd yn talu ei ffordd. Gan mai meddyliai o hedd a goleddem ni, nid anhawdd oedd i wr mor dangnefeddus a siriol a Machreth ddod i delerau teg a ni. Yr wythnos hon daethpwyd i gydwelediad, ac ar ol heddyw bydd CELT LLUNDAIN wedi ymuno yn y LONDON WELSHMAN." Ond er mai o'n badd yr ydym yn gwneyd hyn, nid yw'n anaturiol ein bod yn teimlo'n flin wrth ffarwelio â,'n hen d darllenwyr a'n cyfeillion. Yn ystod y deng mlynedd o'i fywyd, mae'r CELT wedi gwneyd Uu o gyf- eillion, wedi gwasanaethu llawer achos, ac wedi gwneyd caredigrwyddadegauo Gymry tylawd y brifddinas. Ni ofynoid ac ni chwenychodd dal gan neb am garedigrwydd, ac, o'r ochr araU, gwasanaethwyd iddo gan ugeiniau o ohebwyr yn rhad ac am ddim. Ni thalwyd dinau i neb am erthygl na pharagraph na chan. Gwirfoddolwyr oedd yr oil o'i ohebwyr. Rhoidodi Mr. T.J. Evans oriau lawer bob dydd a phob wythno3 i'w wasanaeth, ac ni dderbyniodd dal na gwobrwy o fath yn y byd. Credwn fod Cymry Llundain dan rwymau mawr i Mr. Evans am ei ffyddlondeb diflino, a'i hunan- aberth parhaus. Nis gwyddom am neb arall fyddai wedi gweithio fel y gwnaeth ef, ddydd ar ol dydd, a blwyddyn ar ol blwyddyn,—yn unig am ei fod yn "caru ein cenedl ni." Teimlwn ein rhwymedigaeth personol i Mr. Evans am ei sirioldeb dan bob amgylchiad, ei garedigrwydd dihafal, a'i amynedd didolc. Yn ystod ein bywyd, daethom ar draws llawer math o ddyn, a buom yn cydweithio a degau ac ugeiniau o wyr y wasg yn Lloegr a Chymru; ond o bawb adnabyddom erioed, ni welsom gym- rawd ffyddlonach na chyfaill mwy dilwgr na Golygydd y CELT. Wrth difla ein meii vl ya ol dros yr w/th mlynedd diweddaf, rhuthra i'n cof eiw llawer un wnaeth gymwynas a charedigrwydd i'r CELT. Mie'r rhun f.vvaf o hoiyit eta ar dir y byw,—Mr. J. EI. Davies, Blfed, y Parch. D. C. Joies, y Parc i. J. E. Divies, M.A. y Proffeswr Lewis Janes, y Proffeswr Anwyl, Eilir, Watcyn W/n, Mr. David Rhys, Mr. R. Morris Lewis, Dr. Morgan Divies, Pair Alaw, Mr. Tudor Rtlys, Mr. Winton Evans, a llawer ereill nas gallwn eu henwi ymil. Iddynt hwy oil dymunem dalu ein diolchgar- wch llwyraf am yr hyn a wnaethant erom. Diolchwn hefyd o galon i Mr. Isaac Davies am ei wasanaeth fel cyssodydd, a. gohebydd, yn ogystal a golygydd. Llawer wythnos bu raid iddo ef ein gwasan- aethu fel cyssodydd, gohebldd, a golygydd, a blin iawn genym feddwi fod ein cysylltiad dedwydd ag ef yn ca.el ei dori heddyw. Mae gair o ddiolch hefyd yn ddyledus i Mr. Grellier a'i Fab, y rhai fuont yn wir ffyddlon i'r papur, ac a'i argraphasant yn ddirwgnach am yn agos ddeng mlynedd—mewn gair ni chawsom ond sirioldeb a chymhorth ym mhob man, ac nid oedd 11 d-I y wasg mewn bod ond yn nychymyg Bardd Bach yr Oftis I Un gair arall. Teimlaf y dylem ni, Gynvy Llundain, wneyd rhywbeth i ddangos i Mr. T. J. Evans ein bod yn cydnabod ei waith hunanaberthol yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Bwriadwn ffurfio pwyllgor i drefni cinio gyhoeddus, complimentary dinner, i Mr. Evans, ac i gyflwyno tysteb iddo fel ar- ddangoseg bach o'n parch a'n hedmygedd a'n diolchgarwch. Byddwn yn dra diolchgar os gwna'r rhpi hyny o ddarllenwyr y CELT sydd yn cydweled a'r syniad ymohebu a ni yn Lamb Building, Temple, E.C. Ac yn awr, am y tro diweddaf, ffarwel! LLEWELYN WILLIAMS.
Trefnu'r Gadoedd.
Trefnu'r Gadoedd. Yn ol pob rhagolygon bydd cynhadledd fawr Caerdydd ar y 6ed o'r mis nesaf yn un o'r cynulliadau mwyaf cenedlaethol a gaed oddiar ddyddiau Llewelyn Fawr. Y mae ein bodolaeth, fel cenedl, yn y glorian, ac y mae'r wlad wedi sylweddoli hyny. Y canlyniad yw, fod pob Cyngor Sir a phob etholaeth trwy Gymru wedi penderfynu an- fon cynrychiolwyr teilwng o'n nodweddion cenedlaethol yno i siarad, ac i dderbyn y cyfarwyddiadau angenrheidiol, er sicrhau fod pob mudiad, a phob gair a leferir, yn unol a'r cynllun mawr tuagat enill y frwydr hanesiol hon. Er mai Cymru sydd i daro'r ergyd, y mae'r gwledydd cylchynol yn dech- reu deall fod y canlyniadau o bwys iddynt hwythau. Mae Lloegr yn gwybod, os cyll Cymru'r dydd, y bydd yr ergyd yr un mor drwm i Ymneillduwyr y wlad hono ag a fydd i Gymru ei hunan ond, os enillir yr ornest, gwel y gwledydd ereill ar unwaith y pwysigrwydd mawr o sicrhau ymreolaeth i bob gwlad ar faterion o'r natur yma. Cym- aint yw'r dyddordeb yn mysg blaenoriaid y mudiad Rhyddfrydol yn Lloegr fel y mae argoelion y ceir can' mil o bunau oddiwrth yr Eglwysi Rhyddion er cynorthwyo Mr. George a'i gynllun dros iawnder. Bydd llygaid yr holl deyrnas ar weithrediadau y gynhadledd hon, ac y mae'r brwdfrydedd lleol eisoes mor uchel fel nad oes berygl y gwelir sedd wag yn un o'r cyfarfodydd, er fod y neuaddau mwyaf yn Nghaerdydd wedi eu llogi i'r achlysur. Mae Mr. Lloyd- George wedi apelio at gynorthwy ei gyd- genedl yn yr argyfwng pwysig presenol, ac y mae'r ateb sydd eisoes wedi ei roddi yn brawf fod cenedl gyfan o'i du yn y gadgyrch hon dros iawnder a rhyddid cenedlaethoL YR EGLWS A'R YSGOLION. Os bydd raid cau holl ysgolion Cymru, oherwydd anoethineb y Llywodraeth, y mae yr Ymnejllduwyr wedi penderfynu agor pob capel a neuadd, ar eu traul eu hunain, er addysgu y plant, hyd nes y llwyddir i gael hawliau cyfartal i bob plentyn a phob meistr. O'r ochr arall, gwel yr Eglwyswyr fod perygl y daw hyn oddiamgylch; ac y maent yn awr yn prysur barotoi gogyfer ag addysgu plant eu cynulleidfaoedd hwy ac hysbysant yr agorir pob eglwys blwyfol trwy y wlad cyn byth y gadewir i'r plant fyned yn ddi-ddysg neu droi drosodd i awyrgylch amhur yr enwadau Ymneillduol. Hawdd ydyw gwneyd y fath fygythiad; ond y mae'n amlwg mai peth arall fyddai gosod y bwriad mewn grym. Mae'r Eglwys yn Nghymru wedi bod yn hynod o anheyrngar ar hyd y blynyddau a chan ei bod mor bell oddiwrth fywyd cyffredin y bobl, y mae'n amlwg mai bychain iawn fyddai y cynulliadau yn yr eglwysi pe yr agorid hwy. Er calonogi yr arweinwyr, dylai pob ardal trwy Gymru uno ar unwaith yn bwyllgorau gweithgar, er gwylied pob symudiad ac er casglu y cadoedd i drefn erbyn y bydd raid gwynebu y Llywodraeth yn ei hudoliaethau ar hyd a lied y wlad. Ond i ni gadw mewn. undeb, terfynir y cynllun mewn buddugol- iaeth lwyr i Ymneillduwyr Cymru.