Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y Diwygiad a'i Effeithiau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Diwygiad a'i Effeithiau. MYNED rhagddo gyda nerth y mae y Diwygiad, a bron bob rhan o Gymru erbyn hyn o dan ei ddylanwad. Yn Abertawe a'r cylchoedd y llafuria Mr. Evan Roberts yr wythnos hon, a cheir yno gyfarfodydd mor hynod ag a gaed yn unman eto. Cydweithia pob enwad a'u holl ynni, ac yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn Nghapel Ebenezer prydnawn dydd Mawrth, cymerwyd rhan gan y Parch. W. Talbot Rice, Ficer y dref. Golygfa bur anghyffredin oedd gweled clerigwr Cymreig ym mhulpud Capel 'Sentars Daw adroddiadau o bob cwrr o'r wlad am y teimladau rhyfedd sy'n meddiannu pobl yn y cyfarfodydd, ac effeithiau rhyfeddach ar fywyd a moesau. Yn Mrawdlys Chwarterol Mor- ganwg, a gynhaliwyd dydd Mawrth, unarddeg o garcharorion oedd i'w profi, llai o lawer, meddai y Barnwr Williams, nag mewn un frawdlys a gynhaliwyd ers mwy nag ugain mlynedd. Cwynai Mr. W. T. Stead nad yw y diafol yn ddigon amlwg ynglyn a'radfywiad. Ond cafwyd rhai profion yr wythnos hon nad yw am ildio'r dydd ar unwaith. Hwtiwyd y diwygwyr ar eu ffordd i gyfarfod yng Nghwmbwrla gan nifer o fenywod syrthiedig meddw. Aeth nifer o an- ffyddwyr i un o'r cyfarfodydd yng Nghaerdydd, a mynent gael dadl ynghylch cywirdeb rhyw rannau o'r Ysgrythyr. Ond trodd y gynulleidfa i weddio a chanu, a daliwyd un o'r cwmni gan edifeirwch, a chiliodd y lleill allan. Mae pethau erbyn hyn yn llawn mor fyw yn y Gogledd ag ydynt yn y De. Tybir yn gyffredin fod chwarelwyr ac amaethwyr y Gogledd yn llawer oerach a mwy dihwyl na glowyr a haiarn- weithwyr y De. Ond nid oes fawr o arwyddion o hynny heddyw. Mae Sir Gaernarfon yn eirias fel Sir Forganwg. Fel engrhaifft o'r hyn sy'n mynd ymlaen yno, dyfynwn a ganlyn o eiddo gohebydd o Ddyffryn Nantlle :— Mewn un cyfarfod dyna'r canoedd wrthi a'u henaid ar dan yn canu- Cerdd yn mlaen, nefol dan, Cymer yma feddiant glan. A chenir y geiriau gydag angerddoldeb, a dyblir a threblir y geiriau nes enyn rhyw dan rhyfedd yn eu heneidiau. Wedi hyn daw rhai i gyfarch yr Orsedd ar ol eu gilydd, cyfyd un yma ac acw- Pechadur wyf, 0 Arglwydd, Yn curo wrth Dy ddor, meddai rhywun o'r gongl bellaf, ac ar hyn dyma pawb yn ymdywallt yn yr iselder gan gyfaddef. Yn ddisymwth, dacw Pen Calfaria, Nac aed hwnnw byth o'm col. ac ar draws hynny tywallta rhywun ei galon gyda Diolch Iddo, Byth am gofio llwch y llawr. Wedi hyn clywir rhyw un fu ar gyfeiliorn yn codi i ddweyd ei brofiad, ac yn y diwedd torra allan i ganu— n Ond buddugoliaeth Calfari Enillodd fwy yn ol i mi. Peth sydd yn rhyfedd yma yw fod y rhai fu unwaith a'u cefnau at eu gilydd yn troi eu gwynebau, ac mewn un cyfarfod dacw ddau frawd fu am flynyddoedd heb siarad a'u gilydd yn cymodi yn gyhoeddus, ac mewn cyfarfod arall wele wraig yn codi ar ei thraed, ac yn dweyd ei bod yn maddeu i'w holl elynion. Mae y golygfeydd yn rhyfedd, ac weithiau yn arswydol. Cwyd gwraig acw gan weddio yn ddrylliog, ac ar ei thraws cana rhywun- Arglwydd, danfon Dy leferydd, ac yn sydyn wele ddyn ieuanc ar ei draed, a golwg wyllt-ddifrif arno a'i ddwylaw i fyny, gan rybuddio yr ieuenctid o ddifrifoldeb eu cyflwr, ac ar hyn cana- Iesu, Iesu, Ti sy'n trefnu'r oil Dy Hun, ac arweinia pawb i'w ganu gyda difrifoldeb. Draw daw rhyw adsain wan o'r geiriau- Paid a'm gadael, dirion Iesu, Gwrando lais fy nghri, a chyda hyn dyma hi yn oddaeth o dan, a -chanu a chanu glywir am amser."

THE WELSH REVIVAL.

Sir James Joicey on the teaching…

AN EISTEDDFOD CHAIRMAN AND…

Colofn y Qan.