Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

Nodiadau Golygyddol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Golygyddol. BLWYDDYN YN HANES CREFYDD CYMRU. ERVS y flwyddyn 1904 yn flwyddyn gofiadwy yn hanes crefydd Cymru. Gwir mai y ddeufis diweddaf ohoni a osodant arbenigrwydd ami, ac y mae yn rhy fuan eto i gasglu ffrwyth y mis- oedd hynny. Ond yr oedd yn amlwg drwy y flwyddyn fod y wlad ar fin rhywbeth, er na fedrai neb ddywedyd yn sicr ar fin pa beth. Dyfnhai yr argyhoeddiad nad oedd y sefyllfa yr hyn y dylasai fod o ddydd i ddydd, gwelid fod y peirianwaith crefyddol yn analluog i gyflawni yr hyn a ddisgvylid oddiwrtho. Rhaid cyfaddef fod ffurfioldeb wedi taenu ei lwydrew difaol dros wyneb y tir, a bod y prennau heb nemawr o ffrwyth mewn canlyniad. Nid ydym wrth ddweyd fel hyn yn golygu nad oedd gwaith mawr yn cael ei wneuthur gan yr holl enwadau. Ond teimlid nad oedd yr effeithiau yn cyfateb. Ofnai llawer y byddai i'r helynt ynglyn ag addysg ddifa hynny o ysbrydolrwydd oedd yn aros. Ond fel arall y trodd allan. Y mae unrhyw beth a wna i bobl dalu sylw difrifol i elfenau sylfaenol eu crefydd yn sicr o brofi yn fendith iddynt yn y pen draw. Yr ydym wrth ddweyd hyn ) n cymeryd i mewn yr holl genedl, yn Esgobaethwyr ac yn Ymneillduwyr. Nid yw yn help i unrhyw eglwys mai o ran defod ac arfer, heb fedru rhoddi rheswm am y gobaith sydd ynddynt, y mae ei haelodau yn perthyn iddi. Ac y mae cyflwr gwaeth na'r cyflwr o ymryson a chyffro y bu Cymru ynddo drwy y flwyddyn-cyflwr o ddifrawder cysglyd ynghylch egwyddorion mawrion moesoldeb a chrefydd. Ni ryfeddem pe bae meddylegwyr y dyfodol yn dod o hyd i gysylltiad agosach rhwng Brwydr Addysg a'r Adfywiad nag y mae neb bron o honnom wedi feddwl. DENGYS ystadegau y pedwar Enwad Ymneill- duol cryfaf sydd newydd eu cyhoeddi eu bod nid yn unig wedi dal eu tir, ond yn parhau i ychwanegu cryfder. Cymerwn hwy bob yn un ac un yn ol trefn abiecol. Mae aelodau yr Annibynwyr wedi cynyddu 2,550, heb gyfnf unrhyw ychwanegiad a ddichon fod yn nifer aelodau yr eglwysi Cymreig yn y trefi Seisnig. Cyfanswm yr holl aelodau ddiwedd y flwyddyn oedd 153,330. Mae aelodau yr Ysgolion Sul yn fwy o 1,779. Perthyna i'r enwad 1,005 o addoldai, 759 o weinidogion, 353 o bregethwyr cynorthwyol; ac yr oedd y cyfraniadau at bob achos yn ^211,400. Vn mysg y Bedyddwyr bu cynnydd o 2,715 yn rhif ) r aelodau, yn gwneyd y cyfanrif yn 116,310. Chwyddodd yr Ysgolion Sul 4,267. Nifer yr addoldai yw 953, gweinidogion 575, pregethwyr cynorthwyol 510. Nid yw y swm a gasglwyd yn cael ei hysbysu. Cynyddodd aelodau y Methodistiaid Calfinaidd 2,954. Mae cynnydd cyfatebol wedi bod yn mhlith y gwrandawyr, ond yn unig mai ynglyn a'r eglwysi Seisnig yn benaf y bu hwnnw. Cyfanrif yr aelodau, 165,218. Nifer yr holl addoldai yw 1,599, o'r nifer hwn gwasanaeth Seisnig a gynhelir mewn 276. Casglwyd yn ystod y flwyddvn £ 239,681. Ni bu y cynnydd ym mysg y Wesleyaid Cymreig yn gyfartal i gynnydd y tri enwad arall. Dim ond 117 ydynt hwy yn lliosocach. Ond y mae cynnifer a 2,855 o aelodau ar brawf. Cyfanrif yr aelodau yw 21,782. Ni chymerir yr eglwysi Seisnig i mewn i'r cyfrif hwn gan nad ydynt

Advertising