Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Gohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebiaethau. {Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr.] EISTEDDFOD BOXING NIGHT. At Olygydd y "LONDON WELSHMAN." SYR,—Yn eich rhifyn olaf o'r flwyddyn sydd newydd fynd heibio, ynglyn a'r eisteddfod uchod, ymddengys y dyfyniad a ganlyn yn y golofn "Am Gymry Llundain — "Y mae'r hen wyl nynyddolhon wedi colli llawer o'i dylanwad a'i bri. Hwyrach mai gormod o gyfyngu sydd wedi dod ami. Pan yr apelir at holl Gymry Llundain am nodded, dylid rhoddi testynau mwy cynredinol i gystadlu arnynt, ac nid pynciau yn dal cysylltiad arbenig ag ysgolion y Methodistiaid Calfinaidd." Os na ellir llongyfarch eich gohebydd ar ei gywirdeb, yn sicr fe ellir gwneyd hynny ar ei allu i grynhoi llawer mewn ychydig, oherwydd o fewn cylch saith llinell yn llythyren fras y LONDON WELSHMAN llwydda i wneyd dau haeriad-(I) Fod yr eisteddf >d ar y goriwaered (ii) fod hynny i'w briodoli i'r cyfyngu sy ar y restynau- ac i roddi pregeth fer i'r Methodistiaid Calfinaidd ar eu hafresymoldeb yn disgwyl am gefnogaeth Cymry Llundain tra ar yr un pryd yn cau allan y cyfryw o'r cystadleuaethau. Y mae nodiadau eich gohebydd yn ddyddorol ac fel rheol yn gywir, a charwn i er dim awgrymu nad ysgrif- enodd y sylwadau a ddyfynir ond gyda'r amcanion goreu. Ar yr un pryd, gresyn yw na wnaeth ei hun, ar yr achlysur hwn, yn hyddysg yn y ffeithiau cyn gosod y drefn i lawr, oherwydd nid oes rithyn o sail i'r haeriad fod gormod o gyfyngu" ar destynau yr eisteddfod, ac fad y pynciau yn dal cysylltiad arbenig ag ysgolion y Methodistiaid Calfinaidd." I'r gwrthwyneb, dengys y testynau a ganlyn nad oedd bosibl i un eisteddfod fod yn fwy rhydd ac agored:- Traethodau—(i) "Y Beibl Cymrelg ei hanes a'i ddylanwad"; (2) "Charles o'r Bala" (i rai dan 25 oed); (3) Ann Griffiths a'i Hemynau (i ferched). Barddoniaeth-( I) Can ddesgrifiadol, Yr Ysgol Sabbothol"; (2) dau englyn, "YrArolygwr." Anhawdd yw canfod unrhyw gysylltiad, arbenig neu gyffredinol, rhwng y testynau uchod ag ysgolion y Methodistiaid Calfinaidd, ac anhawddach fyth yw canfod unrhyw gysylltiad rhwng y testynau cerddorol ac amryw- iaethol a'r cyfryw ysgolion. Os oes prawf ychwanegol yn eisieu er dangos mor ddisail ydyw haeriad eich goheoydd fe'i cenfir yn y ffaith fod y testynau yn agored 1 holl Gymry Llundain, ac i'r prif wobrwyon gael eu hennill gan aelodau o Eglwysi Annibynol. Yr eiddoch, &c., King's Cross. JAMES OWEN. At Olygydd y "LONDON WELSHMAN." SYR,—Trwy gyfrwng eich newyddiadur clodwiw, dymunaf yn wylaidd alw sylw eich darllenwyr at anghywirdeb bychan a lithrodd i fewn i'r adroddiad o'r Eisteddfod uchod, a ymddangosodd yn eich rhifyn di- weddaf. Yn yr adroddiad dan sylw rhoddwyd fy enw i lawr fel y buddugwr ar yr englynion, yr hyn, fel y gwyr y mwyafrif oeddynt yn bresenol, sydd yn hollol anghywir, gan mai ar y testyn arall yn adran y farddoniaeth, sef y gan ddesgrifiadol, Yr Ysgol Sabbothol," yr oeddwn i yn fuddugol. Felly, y mae yr anrhydedd o fod yn fuddugol ar yr englynion yn perthyn i rywun arall nad atebodd i'w enw yn yr Eisteddfod. Mewn pethau bychain, yn ogystal ag mewn pethau mawrion, ystyriar nad yw ond teg a chyfiawn rhoddi "yr eiddo Caesar i Caesar." Yr eiddoch, &c., Ionawr 2il, 1905. D. LEWIS DAVIES. CITY ROAD At Olygydd y "LONDON WELSHMAN." SYR,—Gan fad y LONDON WELSHMAN erbyn hyn wedi dyfod mor boblogaidd gan ein cenedl ymhob cwr o'r wlad, a gaf fi fel aelod o'r Look Out Committee yn y lie uchod, anfon cais at rieni, perthynasau, a chyfeillion y rhai hyny sydd yn bwriadu dyfod i fyw i'r ddinas yma, am iddynt anfon cyfeiriad y cyfryw rai i'r Parch. Thomas Jones, 45, Almorah Road, Islington, N. Sicr wyf fod llawer iawn o'n pobl ieuanc yn myned ar goll yn swn a helynt y ddinas fawr yma. Os bydd rhyw weinidog Wesleyaidd, neu rywun arall, MI gwybod am rywrai yn perthyn i'r Wesleyaid yn bwriadu dyfod i fyny, bydd y pwyllgor uchod yn dra diolchgar iddynt os y byddant mor garedig ag anfon i'r cyfeiriad a nodwyd. Yr eiddoch, &c., AELOD. THE NATIONAL WELSH FESTIVAL. To the Editor of THE LONDON WELSHMAN." SIR,-I have read the letter of Patriot," in your number of December 24th. I am the treasurer of the National Welsh Festival Fund, and if the writer of the letter will kindly, in your paper, give his name and address, I will at once take steps ,to let him give his views as to our Festival, and discuss the facts (or other- wise) set out in his letter. I am, sir, Your Obedient Servant, J. MASON WILLIAMS, 79, Loughborough Park, S.W. 28th December, 1904.

Football.