Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Professor Henry Jones criticises…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Professor Henry Jones criticises the Revival. ON Friday evening, Jan. 6th, Professor Henry Jones, of Glasgow, delivered a lecture at Denbigh before a crowded audience on "Reason and Religion," in the course of which he referred briefly to the revival. Concluding a most learned and interesting address, Professor Jones ösaid the strength of the Christian religion lay not in signs and mysteries, but in its reasonable- ness and the light it threw on the life of man. It showed what was great and small in life, re- pealed to man his real nature, revealed to him -his real God, and showed also the true sequence of cause and effect in the order of the world. St. Paul might have dreamed dreams and seen 'Visions; even Jesus of Nazareth might have seen visions and heard voices He might have wrought miracles. But the strength of religion lay not in these things. They were not religion, and the crowning miracle of Jesus ot Nazareth ^as that He loved man with so great a love. He had no objection to the religious revival in Wales, but he would say that the strength of the Christian religion lay in its sanity. The remarks made by the lecturer brought the Rev. D. E. Jenkins, Presbyterian minister, to his feet. He said he had just arrived from the field of revival in South Wales, and felt that 1£ Professor Jones did not explain the words he made use of in connection with the move- ment some of the audience might possibly go away under a misapprehension. He wished it to be known that Evan Roberts, the revivalist, was under no delusion whatever as to visions. When he entered on a course of study with the view of preaching the Gospel it was his intention to preach its terrors, but he now felt that his Message was a message of love, and if sanity ^as the prime essence of Christianity, as the ecturer had stated, then everything he saw in connection with the revival was intensely sane. Professor Jones: I should like to know what you want me to explain; because, let me tell you beforehand that I shall neither withdraw nor qualify anything until I find that I am wrong. I do not wish, one way or the other, to affect the revival. This commotion and excite- ment may be necessary to draw many people to religion-that I do not deny; but I do deny that these things constitute religion. The Bishop of St. Asaph (who presided) said it had been a profound pleasure to him to listen to Professor Jones for the first time. Mr. Jones had touched on some very great themes that night and had given his audience real food for thought. He (the Bishop) had not yet expressed any opinion on the great religious movement in South Wales at the same time he wished to say how grateful he was to Professor Jones for having the courage to tell his audience that the strength of the Christian religion lay in its sanity. It may be necessary to draw a crowd from the outside, but this did not constitute re- ligion. In making that remark, God forbid that he should say one word to discourage the work of lifting up those who were living a life of degradation and sin.
Llundain a'r Diwygiad.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llundain a'r Diwygiad. Y mae yn rhy fuan i ysgrifenu llawer ar y Diwygiad yn Llundain hyd yn hyn; ac etto, yn wyneb cais y CVMRO, ac yn wyneb yr hyn sydd yn cymeryd lie yn rhai o'r eglwysi, mae'n anhawdd bod yn ddistaw. Prin y gellir dweyd fod y llanw mawr wedi cyrhaedd, ac etto y mae yma rywbeth nad oedd yn arfer bod-yn sicr y mae blaen y llanw wedi dyfod i mewn i amryw o'r eglwysi. Y mae rhywbeth fel trwst cerddediad ym mrig y morwydd i'w glywed o bob cyfeiriad. Nis gallaf roddi dim manylion am yr hyn sydd yn cymeryd lie yn unman ond yn Jewin. Clywaf fod yna gryn adfywiad mewn amryw leoedd, a bod pethau lied rymus yn cymeryd lie yn Willesden Green, Falmouth Road, Hammersmith a Walham Green, beth bynag am ychwaneg. Gallaf ddweyd yn ddifloesgni fod JEWIN wedi cael amser da iawn yn ddiweddar. Ers mis bellach yr ydym wedi cael cyfarfodydd yn gyson bob nos-a chyfarfodydd bendigedig ydynt. Mawl, gweddi, a phrofiad yw yr elfenau mwyaf amlwg ynddynt, ac y mae yn ffaith ryfedd na elwir ar neb wrth ei enw i wneyd dim, ond y mae'r brodyr a'r chwiorydd yn ufuddhau o honynt eu hunain i gymhellion mewnol yr Ysbryd. Y mae hyn ynddo ei hun yn ddiwygiad gwerth ei gael. Heblaw hynny y mae rhyw ddwysder anghydmarol, a chryn lawer o wres weithiau yn nodweddu y cyfarfodydd. Y mae'r cyfarfodydd hefyd yn dechreu dyfod yn boblogaidd. Mewn amser a aeth heibio, ni fyddai, lawer pryd, fwy na rhyw 30 neu 40 yn bresenol yn y cyfarfodydd wythnosol; ond erbyn hyn nid yw yn rhyfedd gweled o ddau i dri chant yn bresenol, a hynny bob nos yn olynol. Hyfryd iawn yw bod yn y cyfarfodydd yn awr. Teimlwn yn sicr fod Ysbryd yr Arglwydd yn gwneyd gwaith ar eneidiau yn ein plith. Yr ydym wedi cael y fraint o groesawu amryw o'r newydd i'n plith yn y cyfarfodydd, ac yr ydym yn credu fod llawer iawn yn ychwaneg i ddyfod. Y mae'n ymddangos i mi fod yr Arglwydd am nesu attom, a'i fod yn barod i wneyd gwaith mawr yn ein plith. Y cwestiwn yw, A ydym ni yn barod i'w groesawu ? Y mae Efe yn sefyll wrth y drws ac yn curo. 0 na chaem ninnau yn mhob man agor yn ewyllysgar iddo. Y mae ein cyfrifoldeb yn fawr, ac y mae hyd yn oed y Saeson yn disgwyl am fendith drwom ni'r Cymry erbyn hyn. Yr ydym wedi gweled amryw o honynt yn ein cyfarfodydd ni noson ar ol noson, ac er na ddeallant y gwasanaeth, etto eisteddant ,yn dawel i fwynhau'r cyfarfod hyd y diwedd, yr hyn yn fynych na chymer le cyn 10 o'r gloch. Y mae'r Diwygiad yn dyfod, ceisiwn ninau symud y rhwystrau, fel y gall ddyfodynei lawn nerth. J. E. D.
Eisteddfod Memorial Hall,…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Eisteddfod Memorial Hall, 1904. Beirniadaethau. i. Traethawd, "Y Beibl Cymreig, ei Hanes a'i Ddylanwad." Y mae pedwar traethawd yn y gystadleuaeth. Dygant olion amlwg o lafur manwl a gwaith oedd yn rhwym o fod yn bleser i'r cystadleuwyr. Ar destyn fel hwn, nid y wobr yw'r peth pwysig, ond y mwynhad o chwilio hanes, ac olrhain dylanwad Gair Duw ar ein gwlad a'n cenedl. Dyry Cymro Bach hanes lied gyflawn o'r Beibl Cymreig, ond nid yw ei driniaeth o ddylanwad y Beibl cystal. Ymddengys fel pe bai heb amgyffred ystyr y Beibl i Gymru yn neillduol. Ond y mae ganddo draethawd da. Ychydig o hanes cyfieithiad y Beibl i'r Gymraeg geir gan Timotheus ii." Ond manyla ar ddy- lanwad y Beibl ar y wlad. Ei fai yntau ydyw cymeryd golwg rhy gyffredinol ar ddylanwad y Beibl Cymreig. Gellid cymhwyso llawer o'r dylanwadau, i'r Beibl ymhob gwlad. Ond y mae gan Timotheus ii." draethawd da iawn. Y mae traethawd Un a'i ewyllys ynddo yn fwy addfed. Traetha hwn yn helaeth eto ar hanes y Beibl Cymreig, ond ni thai nemawr sylw i ddylanwad "y Beibl ar y genedl. Buasai hwn yn gynyrch rhagorol iawn oni bae am yr anghyfartaledd hwn. Y mae yma fanylder a chraffder, a llawer o feddylgarwch. Y traethawd cyflawnaf a thecaf yn y gystadleuaeth yw eidclo Gwyneddwr." Ysgrifena yn llithrig, dyddorol, a meistrolgar. Barnwn mai efe yw y goreu yn y gystadleuaeth, ac y mae'n berffaith deilwng o'r wobr. 2. Traethawd, "Charles o'r Bala." Y mae tri o draethodau yn y gystadleuaeth hon. Nid yw rhaniad Caradog" o'i destyn yn gyflawn iawn. Paham y cyfynga ddylanwad Thomas Charles i lenyddiaeth Gymreig ? Ond dyry Caradog fraslun lied dda o'r gwr dysgedig a duwiol, ac y mae'r awdwr ieuanc yn sicr o fod wedi cael benditli wrth ysgrifenu y traethawd, bendith well na gwobr eisteddfodol. Ysgrifena Deiniol yn drefnus a chlir iawn, ac y mae yn gwneyd defnydd da o'r hyn y mae wedi ddarllen am y testyn. Ond y mae "Traws- gwlad yn rhagori ar y ddau gyntaf. Dealla hwn ei bwnc yn drwyadl. Ysgrifena'n ystwyth, yn alluog, yn ddwys a theimladwy. Bu ei ddarllen yn foddion gras i ni. Traethawd rhag- orol yw eiddo "Traws-gwlad," a theilynga y wobr yn rhwydd. 3. Traethawd, "Ann Griffiths a'i Hemynau." Dau draethawd sydd yn y gystadleuaeth yn dwyn y ffugenwau Lydia a Miriam." Y mae'r ddau a gwallau grammadegol ynddynt. Y mae Lydia yn rhoddi hanes lied gyflawn o fywyd Ann Griffiths, ond ni rydd y sylw a ddylasai i'w hemynau. Y mae Miriam yn sylwi mwy ar yr emynau. Nis gallwn yn ein byw weled fod un yn rhagori digon ar y llall i benderfynu rhyngddynt. Rhaner y wobr. 4. Can ddesgrifiadol, "Yr Ysgol Sabbothol." Un gan ddaeth i law, yn dwyn yr enw" Alun Mabon." Nid yw hon yn gan ddesgrifiadol o'r Ysgol Sul, y mae'n gan hanesyddol digon di- rodres a difrychau. Teilynga'r wobr. 5. Dau englyn, Yr Arolygwr." Dau gys- tadleuydd sydd ar y testyn. Nid yw Awel o'r Mynydd yn deall beth feddylir wrth englyn os yw'n awyddus am wybodaeth o'r dirgelwch hwn darllened ryw lyfr ar gynghanedd. Y mae gan Mynach ddau englyn cywir o ran cynghan- edd, gydag eithrio cyrch y llinell gyntaf, ond nid oes dim eithriadol ynddynt: gallai'r bardd wneyd eu gwell o lawer. Gwobrwyer ef. 6. Cyfieithiad i'r Gymraeg. Daeth 14 i law. Y mae'r Saesneg yn ddigon anhawdd ei ddeall, ond y mae Cymraeg y rhan fwyaf o'r cystadleuwyr yn anhawddach fyth. Ond y mae y rhan fwyaf wedi gwneyd gorchest ganmoladwy. Credaf mai'r goreu, y mwyaf syml a darllenadwy yw eiddo Buffalo Bill." 7. Cyfieithiad i'r Saesneg. 19 mewn llaw: yrollyn haeddu gwobr. Y mae eiddo "Bill Bailey a Brython o ryw ychydig yn rhagori. Rhaner y wobr. Ar air a chydwybod, NANTLAIS. Ammanford, Rhag. 1904.
Adennill y Gemau Coll.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
lesu Grist oedd yn cael mwyaf o le yn '59 ond yr Ysbryd Glan yw y Person Dwyfol sydd yn llond Diwygiad 1904. Nis gwn pa mor fanwl y dylid bod wrth wahaniaethu fel. hyn. Sicr yw fod Cymru wedi cael golwg newydd ar lesu eto hefyd. Mae emynau y Diwygiad presenol yn orlawn o Grist fel y gwyr holl ddarllenwyr y Tyst"; a chredaf y gellir -dweyd yn ddios fod y Groes wedi dod yn amlycach i'r genedl gyfan. Angerddoldeb newydd yn nghariad pobl at Iesu fydd un o ffrwythau yr ymweliad Dwyfol hwn. Syniad newydd, gwell, a dyfnach, a chywirach am yr hyn a olygir wrth wasanaethu yr lesu teimlad newydd ardderchog o'n rhymedigaeth iddo ac ystyr newydd bur i'r gair "disgybl." Gellir .dweyd ym mron y bydd Crist yn Grist newydd i'n cenedl ni ar ol hyn. Yr oedd y deugain mlynedd diweddaf wedi magu to o grefyddwyr nad oeddynt erioed wedi gweld y Ceidwad yn iawn. Ond dyna yw natur y gyffes a wneid ar bob llaw ? Crist traddodiad, a llyfr, a phregeth yn unig oedd gan gorph mawr ein haelodau crefyddol o'r blaen; ond y mae wedi dyfod yn Berson agos, anwyl, a real erbyn hyn-yn Grist profiad personol. Croes bell, yn y niwl yn rhywle, oedd Croes y Prynwr o'r blaen; dim dirnadaeth gywir am dani, ac, yn wir, dim awydd mawr i dreio dod o hyd i'w hystyr aruthrol ychwaith; ond bellach, mae'r Groes wedi ymddangos-mae'r niwl wedi clirio oddiar gopa Calfari, ac y mae'r breichiau fu ar led drosom, y dwylaw fu dan y dur erom, yr arlais bigwyd gan y ddreinen wedi dod i'r golwg, a'r weledigaeth wedi siglo calon, a chyffroi cydwy- bod, a. gwneyd argraph annileadwy ar Gymru Neges 1905 fydd cadw yr olygfa yn fyw yn y meddwl. Diogelu yr argraphiadau a wnaed, a dyfnhau y teimlad gynyrchwyd gan y weledi- gaeth sanctaidd hon. "Pen Calfaria, Nac* aed hwnw byth o'm cof."