Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CYMRY LLUNDAIN. CEFNOQWCH GYMRO. R. H. JONES, From POOLE'S. LADIES' & GENTLEMEN'S TAILOR, 8, ELEPHANT ROAD (Close to Elephant and Castle Station), NEW KENT ROAD, S.E. On receipt of a postcard, R. H. J. will call on Customers living at a distance. OVERCOATS! OVERCOATS From 35/- LADIES' TAILORING a Speciality.] BRE I HYN DA, GWAITH DA, TORIAD FFASIYNOL.. J
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
ESTABLISHED 1789. N. PJIIU co HIGH-CLASS Mineral Waters OUR SPECIALlTY- BREWED GINGER BEER in Stone Bottles. POTASS WATER, SELTZER WATER, SODA WATER, LITHIA WATER, LEMONADE, GINGER ALE, &c. SPARKLING AND BRILLIANT. In Corked or Large Screw-Stoppered Bottles or Syphons. The oldest firm of Mineral \Vater Manufacturers in the \Vo' lei. Established by N. PAUL, in Geneva, as lJAU L SCH WEPPE and GOSSE, in 1789; and in London as N. PAUL, & CO., and laiei in Buw Street as PAUL & BURROWS, in 1802. 4 PAUL & CO., 33, King's Rd., St. Pancras, N.W,
Y TOELI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y TOELI. Cefais gryn fwynhad wrth ddarllen stori gampus Mr. W. Llewelyn Williams "Second Sight" yn y rhifyn diweddaf o CYMRO LLUNDAIN. Yr oedd yn dda odiaeth, ac yn debyg i ambell i stori glywais yn Aberystwyth ers llawer dydd gan y diweddar Mr. John Jones (Ivon), Com- merce House-gwr ag oedd wedi casglu ar hyd ei oes straeon a hen chwedlau sir Aberteifi, yn enwedig y rhan ogleddol o honi. Llawer noson ddifyrus gawsom gydag ef yn y Radical Club, Aberystwyth, yn ystod y gauaf. Fe fyddai yn cadw twr o honnom fechgyn ieuainc am oriau yn adrodd straeon, ac yr oeddym oil yn eu mwynhau'n fawr. Daeth coffadwriaeth am dano i'm cof wrth ddarllen stori Mr. Williams—mwy felly pan yr oedd yn son am "y Toeli." Yr oedd gan Ivon ryw wmbreth o straeon am y toeli, ond cyn mynd ym mhellach doeth fyddai rhoddi ystyr y gair toeli, fel y mae i'w gael yn Ysten Sioned," llyfr a argraphwyd yn Aber- ystwyth yn 1882 o dan olygiaeth y diweddar Ganon D. Silvan Evans ag Ivon. Dyma beth ddywedant Toeli, yng Ngheredigion, sydd yr un peth a tholaeth neu dolath mewn rhai parthau eraill o'r Deheubarth a thybir fod y naill yn llygriad gwerinaidd o'r gair teulu, a'r llall o'r gair tylwyth ac felly mae'r ddau yn bur debyg o ran eu hystyr. Yr hyn a olygir wrth y naill a'r llall ydyw ysbryd neu ddrychiolaeth angladd, claddedigaeth, neu gynhebrwng. Gelwir yr un ddrychiolaeth hefyd yn gyheuraeth mewn rhai mannau o'r Dywysog- aeth. Mewn gair, y mae'r toeli yn gyffelyb ym mhob dim i'r angladd gwirioneddol, ond yn unig nad oes gan y gwyddfodolion toeliawl gnawd ac esgyrn, nac, hyd y gwyddys, un sylwedd arall." Oddiwrth hynyna gwelwn fod mwy nag un ystyr i'r gair toeli, yn cyfateb i wahan,ol barthau o Gymru, ond nid yw un o honynt yn gwahan- iaethu llawer oddiwrth eu gilydd. Ond awn ym mlaen i roddi desgrifiad o weledigaeth fel ag y mae i'w gael yn Ysten Sioned — "Yr oedd gwr a gwraig o amaethyddion yn byw mewn un o'r plwyfau helaethaf o fewn cantref Moeddyn, yng Ngheredigion. Dalient dyddyn canolig o ran maint, a chyfrifid hwynt yn ddynion synwyrol, gone.t, geirwir, ac yr oeddynt yn barchus yn y gymydogaeth y preswylient ynddi. Aeth y gwr allan ym min yr hwyr i un o'r caeau llafur cyfagos; gwelodd fod yr yd yno bron a bod yn barod i'w rwymo dychwelodd i'r ty, gan ddywedyd wrth ei wraig fod yr yd ar y Banc Uchaf yn lied sych, a bod chwant arno ef fyned a'i rwymo. Yr oedd maes yr yd a ffordd fawr y plwyf yn myned gydag un ochr iddo, heb na chlawdd na gwrych rhyngddi a'r cae, ond yr oedd clawdd gweddol uchel yn rhedeg finfin a'r ffordd yr ochr arall iddi. Pan yr oeddynt wedi bod ryw yspaid hanner awr yn diwyd gylymu yr ysgubau, digwyddasant glywed, ar eu llaw chwith, ryw swn a sisial megys o bell, fel pe buasai bagad oddynion yn dyfod y ffordd honno. Ond Z, cynyddu a wnaeth y si, a chwanegu a wnaeth y godwrdd, ac wedi ymunioni a chraffu, gwelent fod yno dyrfa fawr; ac erbyn hyn yr oedd wedi dyfod yn agos ar eu cyfer ar y ffordd, ac 0 fewn ychydig bellder oddi wrthynt. Dyma angladd,' ebai'r naill wrth y llall, gan anghofio ar y mynudyn nad yw c'add.digaethau i'w gweled yn y nos. Clywai y ddau rwymydd y siarad a'r sibrwd, y trwst a'r berw, fel pe buasai yno gynnifer o bobl yn myned heibio mewn gwirionedd, ond ni ddeallent yr un sill, ac nid adwaenent un wyneb. Daliasant i edrych ar y nosawl orymdatth angladdol hyd oni chyrhaeddodd gwr arall y cae, a myned allan ar hyd y ffordd tuag eglwys y plwyf. Daeth angladd i waered y ffordd honno ym mhen rhyw dair wythnos." Yr oedd Ivon yn dweyd fod y to.eli yn beth cyffredin yn sir Aberteifi yn nechreu y ganrif ddiweddar, ond rhyfedd nad oes son am dano y dyddiau hyn. Feailai fod yna ryw un ym mhlith Cymry Llundain a all roddi ychwaneg o hanes rhyfedd y toeli. Mae yn hanes difyrus i bawb sy'n caru straeon a chwedlau yr Hen Wlad. D. L. F:
The Children's Column.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
The Children's Column. My DEAR NIECES AND NEPHEWS, Such a large number of you have replied to the questions I gave you a fortnight ago that it has taken me a long time to go through your letters. But the more the merrier. Several new hands—I almost said new faces-appear in this bundle, and I want to give the owners of those hands a very warm welcome. We are all of us very pleased to see them, and we hope we shall have many romps together. Some of you seem to be in doubt as to the number of the counties in Wales. Some give the names of twelve, others the names of thirteen. Now, we Welsh people always claim thirteen, but English people only give us twelve they say "Wales and Monmouthshire if they want to refer to the thirteenth. But we do not yield up Mon- mouthshire whatever others may say about it, the old land of Gwent, and of Caerlleon, where King Arthur kept his Court; the country of Ifor Hael, and where Dafydd ap Gwilym spent his early years. Therefore, do not forget that there are thirteen counties in Wales. Many, if not the majority, of you have not remembered that the consonants c, A t, g, b, d, 11, m, r, change after the word sir. Sir Mon, Sir Morganwg, Sir Dinbych, &c., is wrong these should be written Sir Fon, Sir Forganwg, Sir Ddinbych, &c. One of you has mentioned h mute." There is no mute letter in Welsh at all. Every letter should be given its proper sound always. I know that in some parts of Wales the h is not sounded, but it is sounded when it should not. Always avoid such pronunciations as et for het, eivl for hewl, &c. These are the correct answers :— 1. Sir Fon, Sir Gaernarfon, Sir Dditzbyclt, Sir FJiint, Sir Feirionydd, Sir Drefald- w \>n, Sir Aberteifi, Sir Frycheiniog, Sir Faesyjed, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Sir Forganwg., Sir Fynwy. 2. "Y" is used before words beginning with a consonant. Yr is used before words beginning with a vowel or with a h. 3. Yr eos, y ceffyl, yr haul, y mae)1 ddafad lie yr oedd y llo. 4. Cewri, torfeydd, caerau, boreuau, diwr- nodau, ciniawau. Not one of you has answered every question correct. But the best is Dafydd Llewelyn Williams. Now for another task :— i. Find out when did "Llewelyn ein Llyw Olaf" and Owen Glyndwr" live, and what service each of them did to Wales. 2. Who were the following: Howell Harries, Daniel Rowlands, Peter Williams, and Thomas Charles? Give as many parti- culars of their life and work as you can. 3. Who are the great hymn writers of Wales ? Which are the most popular hymns these days in the chapels and churches you attend ? Send your answers by Thursday addressed as usual to WNCWL Huw," 45, St. Martin's Lane W.C.
MR. LLOYD = GEORGE A'R DIWYGIAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
proffwyd i ragddweyd fod y Diwygiad hwn yn myned i wneuthur pethau mawrion i Gymru ei hunan. Yr oedd gan y Diwygiad yma fwy o bethau i chwareu arno nag oedd gan y diwyg- iadau mawrion yn y gorphenol. Gan belled ag oedd y bobl ieuainc yn y cwestiwn, yr oeddynt yn gyfartal mewn addysg a phobl ieuainc mwyaf dysgedig Ewrop; a gobeithid y byddai i'r Diwygiad yma gymeryd gafael cryf yn ieuenctyd Cymru. Yr oedd y Diwygiad wedi newid y golwg oedd dynion ieuainc y wlad yn ei gymeryd ar fywyd, a gwneyd iddynt feddwl am bethau goreu bywyd. Gallasai rhywun a fuasai yn ymweled a Chymru yn awr weled y cyfnewidiad oedd wedi cymeryd lie. Derbyniodd ef (Mr. George) lythyr oddiwrth y Proffeswr J. Morris Jones yn rhoddi ei farn ar y Diwygiad yn Nghymru. Barn Proffeswr Jones ydoedd y byddai i lawer o ddaioni ddeilliaw o'r Diwygiad, ac fod yn bryd i rywbeth ddyfod i ddeffro y bobl ieuainc, a'u hargyhoeddi fod rhywbeth heblaw y bel droed a'r gwagbethau, ar y rhai yr oeddynt yn rhoddi eu bryd; ac os na chaffai ei dwyllo, byddai i'r Diwygiad godi cenedl o ddynion na welwyd eu tebyg o'r blaen -dynion egniol, cryf eu hargyhoeddiadau a iach eu meddwl-y rhai fyddant yn fendith nid yn unig i grefydd, ond i lenyddiaeth a gwleidyddiaeth Gymreig. Aeth Mr. George ymlaen i ddweyd ei fod wedi bod yn gwylied Cymru yn fanwl, ac yr oedd yn gwybod fod rhywbeth yn myned ymlaen, a phan y clywodd am y Diwygiad dywedodd, "Dyma ef. Dywedais ddeuddeg mis yn ol fod gan Ragluniaeth neges i'w dweyd i'r byd drwy Gymru." Yr oedd y byd yn clywed y neges honno heddyw. Yr oedd eyfrifoldeb arweinwyr crefydd ac arweinwyr gwleidyddol Cymru yn fawr. Yr oedd symudiad fel yr un presenol yn newid sefyllfa dynion ac yr oedd Diwygiad 1859 wedi magu gwroldeb ac egwyddor yn nghydwybodau dynion Gwnaethai adfywiad fel hyn les i'r wlad, a dyrchafu arweinwyr y genedl. Rhoddodd Diwygiad mawr 1859 i'r ffermwyr Cymreig wroldeb moesol i'w galluogi i daflu ymaith yr afael gormesol oedd landlord- iaid wedi ei gael ar eu cydwybodau. Yr oedd gwir ddiwygiad yn gwneyd dynion mwy anni- bynol, mwy meddylgar, a mwyhunanaberthol. Ar ol canu amryw emynau a gweddio, caed anerchiad gan Mr. Henry Broadhurst, yr hwn a ddywedai na byddai iddo byth anghofio y cyfar- fod hwnnw. Cadwyd y cyfarfod ymlaen am oriau yn gwrdd gweddio, ac arosodd un o'r newydd cyn i'r dorf ymwahanu.