Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Cyfeirierpob Gohebiaeth a fwriedir t'n colofnau, The Editor"; pob Hysbysiad, "The Adver- tising Manager"; a phob Archeb, The Manager," a'r oll i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Mararfs Lane, W. C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthod- edig. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer. and the address must also be given, not necessarily for publication, but as a guarantee of good faith.
Nodiadau Golygyddol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodiadau Golygyddol. AR OL Y CAWORYDD. Y MAE cawodydd y Diwygiad wedi mwydo Cymru bellach am dri mis, a'r ffrwyth eisoes yn helaeth a gwerthfawr. Hysbysir fod nifer y dychweledigion oddeutu pymtheg mil a thriugain, ac ychwanegir atynt yn ddyddiol, Nid ydym yn gweled un arwydd fod y cawodydd bendithiol yn myned i beidio yn fuan, er nas gellir ddisgwyl iddynt barhau o hyd. Ond credwn ei bod yn bryd i ystyried pa fodd i sicrhau y goreu sydd yn gyrhaeddadwy o'r effeithiau daionus. Rhaid i'r eglwysi wneyd eu meddyliau i fyny nad ydynt yn myned i golli etto neb o'r rhai sydd wedi ymuno a hwy. Byddai yn resyn iddynt ddy- chwelyd i'w hen lwybrau ar ol eu troi oddiarnynt unwaith. Bydd yn anghenrheidiol eu dysgu a'u hegwyddori, oblegid rhaid i'r bywyd crefyddol wrth borthiant maethlon. A diau genym y gofelir am hynny mewn dosbarthiadau Beiblaidd a chyfarfodydd o gyffelyb nodwedd. Bydd cyfrifoldeb y pulpud hefyd yn fwy nag erioed. Os tybia rhywun na bydd pregethu yn cael lie mor amlwg ym mywyd crefyddol Cymru ar ol y cawodydd a chynt, y mae y eyfryw yn cam- gymeryd yn ddirfawr. Nid yn unig bydd galw am bregethu, ond bydd galw am bregethu o nodwedd uwch nag erioed. Rhaid iddo fod yn syml yn yr ystyr oreu i'r gair, yn syml fel y mae pregethu cewri y pulpud ym mhob oes. Ond y mae y gwahaniaeth mwyaf rhwng bod yn syml a bod yn arwynebol. Gofynir am fwyd cryf, yn cynwys y wybodaeth fwyaf goleuedig a sicr, a'r wybodaeth honno wedi ei hireiddio a'i gwresogi drwy brofiad o'i gwirionedd. Gall ein pregethwyr ieuanc fentro myn'd ymlaen gyda'u hefrydiau. Bydd raid iddynt fod yn alluog i ateb cwestiynau celyd, ac i egluro pynciau dyrus cyn pen ychydig amser Ond y mae agwedd arall i'r mater y dymunem yn arbenig alw sylw ato. Y mae'r Diwygiad wedi dod yn rhodd arbenig i'r genedl, a gor- phwysa arni fel cenedl gyfrifoldeb dirfawr i geisio sicrhau o honno effeithiau parhaol ar ei bywyd -cenedlaethol. Yng nghanol y gwres a'r brwd- frydedd presenol anghofir lliaws mawr o wahaniaethau. Uno a wna'r Pentecost hwn yr un fath a phob Pentecost arall. Ni fu erioed lai 0 son am eiddigedd enwad a phlaid a rhanbarth nag sydd y misoedd hyn. A yw Cymru yn myned i wneyd ei hundeb yn rhywbeth arosol? Os felly rhaid iddi feddwl, a meddwl o ddifrif, ;am ffurf iddo, oblegid heb ffurf fe ymwasgara drachefn. A hawdd rhoddi ffurf iddo tra y bo y gwres mor angherddol. Wedi yr oera pethau bydd hynny yn llawer anhawddach. Ac ymddengys i ni yn gwbl glir fod yna waith i'w wneyd i sicrhau ffrwyth y cawodydd y dylai y genedl fel cenedl ei gymeryd i fynu. Onid oes cyfle ardderchog i leihau nifer y tafarndai ? Maent bron yn weigion mewn llawer cymydogaeth, ac ni ddylai fod trafferth nac anhawsder mawr iawn i wneyd i ffwrdd ag ugeiniau o honynt. 'Onid all y Cynghorau Sirol a Threfol a Dosbarth drefnu i gael Llyfrgell Rydd ym mhob ardal ? Bydd ar y bobl ieuainc eisieu darllen, bydd ar letywyr eisieu rhyw fan i droi i mewn oriau min nos. Yr ydym yn argyhoeddedig ers Mynyddau fod y dafarn yn llwyddo i ddenu am nad oedd unlle arall yn meddu atdyniad cyffelyb. Nid tueddfryd ddrwg a yrai filoedd o'n pobl ieuainc i'r gyfeddach, ond y ffaith syml na feddent un man arall i droi iddo ar ol gorphen llafur y dydd. Nid oedd papyrau a llyfrau o fewn eu cyrhaedd, ac hyd yn nod pe prynent rai, ni wyddent am gongl lie y caent dawelwch i'w darllen. Maent wedi eu diddymu o'r dafarn yn awr gofaler na chant eu gosod eto yn yr un brofedigaeth a chynt. Ymddengys i ni hefyd y dylid cymeryd mesurau i ryddhau chwareuon y bobl oddiwrth y llygredigaethau sydd wedi dyfod i mewn iddynt. Yr ydym yn medru deall y ffaith fod y dychweledigion yn ymwrthod a'r chwareuon yn hollol ar hyn o bryd. Pe na wnaethent hynny buasem yn amheus o honynt. Onid ynglyn a'r chwareuon y dysgasant yr arfer- ion y teimlant y fath euogrwydd o'u plegid ? Ond bydd chwareuon eto, a gobeithiwn na syrthia yr eglwysi i'r camsyniad o'u gwahardd. Rhaid bod yn ofalus i wahaniaethu cydrhwng yr arferion sydd ynddynt eu hunain yn bechadurus, a'r arferion sydd yn myned yn bechadurus wrth eu camarfer. Dywedai y diweddar Dr. Thomas Charles Edwards ryw dro mai un o'r pethau mwyaf niweidiol oedd cyfyngu mwy ar ddynion nag a gyfyngai y Testament Newydd arnynt, a gwneyd pechodau o'r pethau nad ydynt bechadurus. Glanhaer y chwareuon, purer y cynnulliadau difyr, ond rhodder chwareu teg i fywyd ymddadblygu ym mhob cyfeiriad sy'n naturiol iddo.
Notes of the Week.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Notes of the Week. The Calm after the Storm. It is reported that things have quieted down very considerably in St. Petersburg after the terrible outburst of Sunday week. Many of the strikers have returned to their occupations, the shops have re-opened their doors, and business is being conducted as before the storm. No man can say how far these reports are to be relied upon, for the authorities take care to supervise every telegram and message sent out from the capital. From other parts of the Empire come news of strikes and disorders. But the authorities may be able to drive the discontent under the surface for a while again if they do so it can only have the effect of producing a crop of Nihilists and other secret societies that will make sport of all care and precaution before long. The Czar and his Grand Dukes have sown the wind, and they must reap the whirlwind. To try to arrest the growing force of the revolution by arresting the popular leaders and banishing them to Siberia is the folly of those whom Fate has decided to make its prey. Some may think that the sudden calm is a sign that the spirit of the revolutioners has been broken by the one assault of January 22nd. But we should be more inclined to believe that the people had abandoned their objects if they had been more persistent. The suddenness of the calm is an omen the ruling authorities would do well to watch. North Dorset.- The election of North Dorset has gone the way of all recent bye-elections, and a Liberal minority of 54° has been turned into a majority of 909. The Liberal candidate, who is now the Liberal Member, increased his poll by nearly fourteen hundred, whilst the Con- servative poll fell nearly four hundred short of that of 1900. It is a fact worth pondering over that the Government is losing seats in every class of constituency—among the agriculturists as well as in the large towns and mining districts. And some Cabinet Ministers at least are honest enough to express their belief that the Opposi- tion is likely to come into power after the next General Election. When somebody in the crowd that waited the Prime Minister out of the Man- chester Town Hall last Friday shouted out, How do you like North Dorset?" the reply of the Right Honourable gentleman was, "We must take these things as they go." No doubt, but some of the official organs are doing it with rather bad grace. The Tintes accuses the other side of misrepresentation of facts, a sure sign of bad temper, and bad temper always represents a
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Cooper, Dennison & Walkden, Ltd., 7 & 9, ST. BRIDE STREET, LONDON, E.C. fill the I, lnl retfins 's. it n Flt *tes a 'Iftes,7n' .11 wrl, intelle and istin9 Li milli PRICES s. d. Imperial Quart = = = 2 6 99 Pint = = 1 6 Gallon Bottles, Stone = = 9 0 Half Gallon „ = =50 No Charge on Bottles.