Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

llenyddol yn y Tabernacl, nos Sadwrn diweddaf, ac wrth gwrs 'roedd yn cydfyned yn hollol ag ysbryd y Diwygiad presenol sydd yn rhedeg yn y cylch Cymreig. Un o hoff bersonau Elfed yw'r Perganiedydd, ac y mae wedi yfed yn helaeth o ffrwyth ei ysbrydolrwydd a'i genhadaeth Nid rhyfedd felly fod y cwrdd yn un da. ANHWYLDERAU.—Mae'r tywydd cyfnewidiol ydym wedi ei brofi yn ddiweddar wedi achosi llawer iawn o afiechyd mewn gwahanol deuluoedd Cymreig, ac yn ein heglwysi nos Sul diweddaf, yr oedd y peswch parhaus a gaed yn datgan yn groew fod yr anwyd wrth ei waith yn brysur yn ein mysg. Gydag estyniad y dydd ac ymddangosiad gwell yr haul, hyderwn y ceir arwyddion gwanwyn yn y man, ac y ca'r llu dioddefwyr lwyr wellhad o'u eystuddiau presenol. MR. J. T. J oB.-Chwith fydd gan lawer glywed fod Mr. Job, perchenog y Bingham Hotel, ac un o gyfarwyddwyr firm Chas. Baker a'i Gwmni, yn bur wael ar hyn o bryd. Mae ei feddygon wedi gorchymyn iddo gael ei gadw allan o ofalon masnach am dymhor, a hyderir drwy hynny ei adferu i'w iechyd cyntefig. .CINIO CYMRO LLUNDAIN.Nos Sadwrn diweddaf cynhaliodd argraffwyr CYMRO LLUN- DATN eu cinio blynyddol yn Ngwesty Holborn, o dan lywyddiaeth Mr. J. W. Harrison-penaeth y ffirm, a daeth dros ddau cant ynghyd i fwynhau o'r wledd a barotowyd. Ar derfyn y wledd caed nifer o areithiau yn dymuno am lwyddiant parhaol y ffirm, i'r rhai yr atebwyd yn ddiolch- gar gan y perchenogion. Treuliwyd y gweddill o'r noson mewn canu ac adrodd, a thystiolaeth pawb ydoedd eu bod wedi cael noson ragorol. Yn ystod yr hwyr hysbyswyd fod y ffirm wedi cyfranu ^30 tuag at gronfa ddarbodol y gweithwyr. Y CALEDI. -Mae'r tywydd oer diweddar wedi effeithio yn dost ar dylodion Cymreig y Rhan- barth Ddwyreiniol, a deallwn oddiwrth y cen- hadon sy'n llafurio yn eu mysg fod llawer iawn o angen yn ogystal ag afiechyd i'w weled ar hyn o bryd ymhlith ein brodyr a'n chwiorydd llai ffortunus. Cynhelir cyfarfodydd wythnosol ynglyn a'r gwaith yn ardal Whitechapel, ac mae pob achos teilwng a ddygir ger bron Mr. Williams, y cenhadwr, yn cael ei sylw personol ar unwaith. BETH DDYWED Y MEDDYGON ?—Mae'r pla anwydwst sy'n ffynu yn Llundain ar hyn o bryd yn llawer mwy ffyrnig na'r un o'i ragflaenwyr, medd y meddygon. Effeithia yn niweidiol ar yr arenau, a daw'r cur yn y pen yn llawer mwy dygn nag arfer. Rhaid bod yn ofalus meddir i gadw'r corff yn gynes, ac osgoi pob math o awyr afiach. Nid oes dim gwell i'w atal na chadw'r gwely am ddiwrnod neu ddau ar y cychwyn cyn gadael iddo gael y goreu ar y truan. Gw AELEDD.- Y m mysg y rhai sy'n dioddef ar hyn o bryd mae'r hen gymrawd adnabyddus Maelor, yr hwn, ynghyd a'i briod, ydynt yn weithwyr cyson a llwyddianus gyda'r gwaith cenhadol yn ardal Mile End. Mae Maelor wedi ei gaethiwo i'w ystafell ers rhai dyddiau, a cholled i'r cyfarfodydd wythnosol yw ei le gwag. Hyderwn y caiff adferiad buan i'w iechyd arferol eto. SIBLEY GROVE, EAST HAM.—Gwella mae cyfarfodydd Cymdeithas Ddiwylliadol y capel uchod wrth fynd ymlaen, ac mae hyn yn profi fod dyddordeb yn cael ei gymeryd yn y cyfar- fodydd gan bobl ieuainc y lie. Nos lau diweddaf cafwyd dadl ardderchog ar y cwestiwn amserol a phwysig, A ydyw y pulpud presenol yn colli ei ddylanwad?" Amddiffynwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Evan Evans, a'r ochr nacaol gan Mr. J. Lewis Johns. Yr oedd dau bapur rhagorol gan y ddau frawd hyn, yn dangos llafur ac ymdrech mawr. Trodd y cyfarfod allan yn un o rai mwyaf dyddorol ac adeiladol y tymhor. Ewch rhagoch, ieuenctyd East Ham. Y PARCH. T. STEPHENS.—Fel y gwyddis, y mae gweinidog parchus eglwys yr Annibynwyr Seisnig yn Camberwell wedi derbyn galwad daer a gafodd oddiwrth eglwys Annibynol Folkestone. Wedi deall hyn, y mae'r aelodau a'r swyddogion yn Camberwell yn gwneyd yr oil a allant er ceisio denu Mr. Stephens i aros, a'r wythnos hon apeliasant arno i newid ei fwriad. Gan fod y cysylltiad hyd yma wedi bod mor hapus, ni wyddis eto pun a wrendy Mr. Stephens ar y cais ai peidio. Y DIWYGIAD GWNEYD. — Heddyw, dydd Sadwrn, dechreuir ar y mudiad mawr o efengyl- eiddio pobl gyfoethog y rhanau bynheddig o Lundain. Mae'r Albert Hall wedi ei chymeryd am dymhor, a dywedir fod ceisiadau arbenig am docynau oddiwrth filoedd o wyr mawr y West End. Maent am wneyd crefydd yn fath o arddangosfa, fel theatre, a bydd yn ddyddorol i weled pa nifer o honynt a ga'nt wir leshad oddi- wrth y genhadaeth ryfedd hon. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL HAMMERSMITH. —Nos Fercher, Ionawr 25am, cafwyd cyfarfod hwyliog dros ben, o dan lywyddiaeth Mr. Evans. Pwnc y ddadl oedd, Ai buddiol Llywodraeth Gartrefol i Gymru ? Cadarnhaol, Mr. W. Hughes; nacaol, Mr. James Jones. Digon yw dweyd fod y ddau frawd yn eu hwyl- iau goreu, a chafwyd areithiau campus ganddynt. Cymerwyd rhan yn y drafodaeth gan y Mri. A. E. Rowlands, G. O. Williams, R. H. Morgan, a J. N. Jones. Mwyafrif mawr o'r ochr gadarnhaol, er maint hyawdledd y cyfaill James Jones.—J. CYFARFOD CHWARTEROL YR EGLWYSI AN- NIBYNOL CYMREIG.-Cynhaliwyd yr uchod yn Barrett's Grove nos Fercher yr wythnos ddiweddaf, o dan lywyddiaeth y Parch. H. Elvet Lewis, cadeirydd y Cyfundeb am y flwyddyn. Yr oedd yr holl eglwysi yn cael eu cynrychioli yn llawn. Ar ol myned drwy y rhanau arweiniol arferol, trefnwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn East Ham ym mis Ebrill. Derbyniwyd y Parch. Edward Owen, B.A., yn aelod o'r Cyfundeb ar ei ymsefydliad yn Barrett's Grove, a dymunwyd ei lwyddiant yn y lie. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad dwysaf a'r Parch. Peter Hughes Griffiths, Charing Cross Road, yn ei gystudd trwm ac yn wyneb y brofedigaeth orchwerw o golli ei anwyl briod. Etholwyd y Parch. J. Machreth Rees i gynrychioli y Cyfun- deb ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Gen- hadol Llundain, a Mr. Benjamin Rees yn gynrychiolydd ar Bwyllgor y Gronfa. Cafwyd adroddiadau calonog iawn yng nghylch yr achosion newyddion a gychwynwyd yn ddiweddar. Ail-etholwyd y Pwyllgor sydd yn arolygu dros yr achosion hyn. Trefnwyd i gael cyfarfodydd Diwygiadol Undebol ar gylch yn y gwahanol eglwysi. Treuliwyd y gweddill o'r amser yn gyfarfod gweddi. A chyfarfod i'w gofio a gaed. Yr oedd naws hyfryd y Diwygiad ar yr holl wasanaeth. Mae'n amlwg fod yr eglwysi yn ireiddio, a disgwylir yn hyderus am ddylanwadau grymus yn fuan. Nos Fawrth nesaf ceir hanes "Jack Glan- gors" o flaen Cymdeithas y Brythonwyr yn Chancery Lane. Yr oedd "Jack" yn un o brif gymeriadau yn y cylch Cymreig yn Llundain gan mlynedd yn ol, ac mae llawer o'i ddigrif- gerddi yn aros hyd heddyw. MAE cryn fywiogrwydd eisoes ynglyn a dechreuad y Senedd-dymhor. Gan y byddis yn ei hagor gyda rhwysg Brenhinol, rhaid i'r parot- oadau fod ar raddfa helaeth iawn. Er mwyn sicrhau presenoldeb yr aelodau, y mae gwahodd- iadau taer wedi eu gyru allan gan yr arweinwyr Rhyddfrydol. Yn ol pob argoelion, bydd yn dymhor tra brwd. CAPEL CLAPHAM JUNCTION.—Ni chynhal- lwyd cyfarfodydd y Gymdeithas Ddiwylliadol yma yn ddiweddar drwy fod cyfarfod gweddi wedi ei gynhal bob nos ers tair wythnos, a chyfarfodydd rhyfedd iawn ydym wedi gael, nad ant yn anghof oesau'r ddaear yn nghof a chadw llawer, ac yn enwedig y bobl ieuainc, tra byddant byw. Tywalltwyd yr Ysbryd Glan arnom o'r uchelder gyda nerth ac arddeliad amlwg ar y weinidogaeth. Ond yn y cyfarfodydd gweddi y teimlwyd ac y gwelwyd mewn modd amlwg weithrediadau yr Ysbryd Glan yn ei gymhellion a'i ddylanwad grasol ar feddyliau a chalonau y bobl ieuainc.-Nos Fercher cawsom ddarlith gan y Parch. F. Knoyle, B.A., Ham- mersmith, ar Luther a'r Diwygiad Protestan- aidd." Wn i ddim pa un ai ein syniad uchel am athrylith y darlithydd, ai am ei bod yn cyd- redeg a nodwedd ein hysbryd-efallai fod y ddau yn cyfrif am y gwrandawiad mwyaf astud a'r ganmoliaeth a roddid gan bawb i'r ddarlith. Yn ddiau, fel y dywedodd y llywydd craff, Mr. D. T. Williams, Criccieth, dyma ddarlith y Diwygiad, oblegid' y mae yn y Diwygiad hwn, fel y dywed ef, brif elfenau a hadau pob gwir Ddiwygiad ar ei ol. Gyda medr a chraffder beirniad yr olrheiniodd y darlithydd yr amgylch- iadau a'r goruwchlywodraeth gan Dduw i barotoi y ffordd, ac fel y darparodd Duw "y dyn," fel y gwna heddyw-dyn cyffredin, dyn o blith y bobl, i gydio gafael syml a ffyddiog yn hanfod Duw ei hunan, ac i sugno nerth o Dduw i wynebu a gorchfygu pob gwrthwynebiad a phob gelyn a safai o'i flaen. Carem i holl gymdeithasau ein pobl ieuainc yn Llundain i gael clywed y ddar- lith werthfawr hon. Dyma ddarlith yn llawn addysg a diwylliant meddyliol.-UN OEDD YNO. ST. MARY'S, CAMBERWELL. — On Tuesday last Mr. Haydn Evans fulfilled his engagement here, giving us an interesting paper on Com- mercial Morality." The speaker clearly showed the futility of the present competitive system, giving several examples of its immoral tenden- cies, which a very large number of trades take advantage of, for their own gain. Following the disease we had the remedy, which, according to the speaker, could only come from the estab- lishment of a system of commercial co-operation or commercial Socialism, but that again would have to be worked by men of just and sound principles. Such a system, he thought, would greatly aid in cleansing commercial life gener- ally. Mr. Evans continued by discussing a few of the immoral practices indulged in to-day, viz., the use of misleading advertisements, selling at a loss to win the market, bribing agents, false descriptions and adulteration of goods, and two prices for the same article. In conclusion, the speaker remarked that, religion apart, the only road to improvement was co-operation, yet in the meantime, he said, there is a large number of men trading under the present system who act honestly and morally in all their transactions- men who will suffer loss rather than take undue advantage, and sacrifice anything rather than soil the character or the laws of conscience. Commercial morality, then, can be maintained by such men alone. With Mr. Evans' permis- sion the paper was discussed, and naturally a few objections arose. These, however, were satisfactorily dealt with, and a splendid meeting was brought to an end by passing a vote of thanks to Mr. Haydn Evans for his excellent paper, and to Sergeant-Major Wynne for pre- siding.-A. L. CHARING CROSS ROAD.- Y mae Cymdeithas Lenyddol y lie uchod wedi gorfod myned i'r cysgod yn ddiweddar yn ngwyneb y cyfarfodydd gweddiau grymus a gynhelir gan y bobl ieuainc, ac oherwydd y dwysder mawr y mae yr eglwys ynddi ar hyn o bryd. Y mae yn hyfrydwch genym ddeatl fod Mr. Griffiths yn graddol wella. Hefyd, bydd yn dda gan liaws o gyfeillion Mrs. Williams, Argyll Street, ddeall ei bod yn gwella ar ol bod yn beryglus glaf ers amser bellach. Nos Wener diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. William Williams, cafwyd papur ar "James Russell Lowell gan ein cyn-ysgrifenydd galluog, Mr. William Roberts. Hawdd oedd canfod 61 llafur ar y papur rhagorol hwn; nid yn ami y ceir un mor wreiddiol. Cymerwyd rhan yn ddilynol gan y Mri. David Phillips, J. Davies, J. Capel, D. Davies, Goronwy Owen, a Tom Davies. Cafwyd ganddynt sylwadau buddiol, a rhoddwyd cymeradwyaeth uchel i'r papur.—M.