Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y DIAFOL NEWYDD.

YR ATHRONYDD A'R PENNILL.

MR. EVAN ROBERTS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR. EVAN ROBERTS. Torrodd iechyd y Diwygiwr i lawr yr wythnos ddiweddaf, a bu raid iddo gymeryd gorphwysdra am rai dyddiau. Nid yw hynny yn unrhyw syndod pan gofir mor enfawr ydyw ei lafur wedi bod yn ystod y pedwar mis diweddaf. Am rai wythnosau ni chymerai y gofal lleiaf am dano ei hun, ni feddyliai am adeg ymborth nag adeg cwsg. Meddyliai yn ddiau y buasai grym ei frwdfrydedd yn ei gario yn ddiogel dros ben pob perygl corphorol. Ond bu raid iddo arafu, a boddloni i adael i eraill gario rhai cyfarfodydd yrnlaen hebddo. Yn ol y newyddion diweddaraf 1 law y mae ei iechyd bron wedi ei adfer, a disgwylia fedru ymafiyd etto yn y gwaith sydd yn myned a'i holl fryd. Ond y mae wedi tynu ei gyhoeddiad yn ol o Gaerdydd. Disgwylid ef yno dydd Mercher i gychwyn cyfres o gyfarfod- ydd oedd i barhau am bum niwrnod. Ni wyddom paham y penderfynodd beidio cyflawni ei addewid, ond awgrymir fod pobl Caerdydd wedi gordrefnu ar gyfer yr ymweliad, a bod hynny wedi peri iddo ofni myned yno. Beth bynnag arall ddywedir am Evan Roberts, rhaid cydnabod nad yw yn ceisio galw sylw ato ei hun a r cyfarfodydd y cymer ran ynddynt drwy unrhyw beirianwaith trefniadol.

Oxford Notes.

Advertising