Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Colofn y Gan.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Colofn y Gan. CYRDDAU ALBERT HALL.—Y mae cerddor- iaeth yn gwneyd i fyny y rhan helaethaf o gyrddau cenhadol Torrey-Alexander a gynhelir ar hyn o bryd yn yr Albert Hall. Ym mysg y tonau a genid yno cafwyd un don ag sydd wedi bod yn boblogaidd yn y Diwygiad Cym- reig. Ond y don boblogaidd yn yr Albert Hall ydyw y "Glory Song," ar yr hon y mae cryn "hwyl." Fel cyfansoddiad, nid oes fawr i'w ddweyd am y don, ond drwy ynni yr ar- weinydd gyda chor mawr y mae effaith y canu yn briodol iawn mewn cyfarfodydd o'r natur yma. CANIADAETH Y CYSSEGR.—Llawer sydd wedi ei ddweyd o bryd i bryd am ddylanwad cerdd- oriaeth gysegredig ar ddynolryw. Yn awr, wele engreifftiau byw o'r peth yn yr Adfywiad Cref- yddol presenol. Fe welir fod canu mawl wedi bod yn offeryn effeithiol yn y Diwygiad yng Nghymru, a'r un yw'r hanes ynglyn a chyfar- fodydd Torrey-Alexander. Ac nid oes dim sy'n harddach na gweled tyrfa yn canu eu moliant i'r Nefoedd. Anhawdd genym gredu fod dim ar ffordd iachawdwriaeth dyn pan y byddo'n canu ac yn moli yn yr ysbryd hwn. Y MAE yn hyfryd sylwi hefyd fod tueddiadau cerddorol ein crefyddwyr heddyw yn wahanol i'r hyn oeddynt yn yr amser a aeth heibio. Yr amser hyny nid oedd dim a wnaethai y tro ond ton leddf, ie gor-leddf, ar eiriau trymllyd ond, erbyn hyn, yr ydym yn dechreu dysgu moli yr Arglwydd yn y cywair lion. Yr ydym yn llawer mwy gobeithiol gyda'n canu, ac nid marw, eithr byw, yw ein nod. YR ydym yn hoff o'n hemynau a'n tonau, ac nid aiff enwau Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths, neu Ieuan Gwyllt a "Phryscol" o'n cof tra caniadaeth y cysegr. Ond, yr hyn a hoffem ydyw mwy o arfer y Salmdon yr ydym yn hwyrfrydig iawn i'w mhabwysiadu fel rhan sefydlog o'r gwasanaeth crefyddol. Y mae rhai beirniaid yn dal mai canu'r Salmau ydyw y modd effeithiolaf a gogoneddusaf o ganu mawl. Y mae canu Yr Arglwydd yw fy Mugail" a Molwch yr Arglwydd gyda'r deall a'r ddawn briodol yn adgyfnerthiad ysbrydol i ddyn. Y MAE digon o le i ni wella yn yr Eglwysi Cymreig yn Llundain. Mwy o fawl a llai o bregethu, yn ddiau, a wnaethai ddaioni; ac nis gellir bod yn rhy ofalus gyda'r canu, eithr rhodder y goreu yn y Capel neu'r Eglwys. Yr oedd yr hen bobl gynt yn coleddu syniadau rhyfedd am "y canu," a mawr y stwr os sonid am gael offeryn i "ledio" yn y Bethel. Yr oedd rhai o honynt yn edrych ar yr harmon- ium fel rhyw elyn peryglus. Y mae un capel yn ein mysg yn Llundain heddyw—neu, o'r hyn lleiaf, yr oedd ychydig wythnosau yn ol pan yr ymwelsom a'r lle-heb offeryn ynddo. Paham, nis gwyddom. Ond y mae'r canu yn dda yno, a diau y buasai yn llawer gwell pe caent organ i'w cynorthwyo. HEDDYW (Sadwrn) cynhelir cyngherdd am y tro olaf yn hen neuadd bobllogaidd St. James's Hall. Tynnir y lie i lawr er adeiladu gwesty. Agorwyd y neuadd hon ar yr 2fed o Fawrth,
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
HENRY BOWN, HiGH-CLASS PHOTOGRAPHER, 43, NEW KENT ROAD (close to Falmouth Road); 298, CLAPHAN RD.; 31 & 33, JAMAICA RD. (Dockhead), Under personal supervision of the Proprietor. Cabinets from 7/6 per dozen. C.D.V.'s from 2/6 per dozen. Well recommended by Welshmen who have patronised me SPECIAL ATTENTION GIVEN TO COPYING AND ENLARGING. Those coming up for Eisteddfod Please note.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
1858, wedi ei hadeiladu ar y gost o ^70,000. Cynhaliwyd y cyngherdd cyntaf er budd Yspytty Middlesex, pan yr oedd y Tywysog Consort yn bresenol. Yr unig un sy'n fyw heddyw o'r unawdwyr a gymerasant ran yn y cyngherdd cyntaf ydyw Mr. Santley. Cafodd y neuadd hon ei defnyddio amryw weithiau at achosion yn dwyn cysylltiad a'n cydgenedl. Cyngherddau mawr ydoedd y rhai Cymreig hynny ym mha rai y canwyd gan Madame Edith Wynne, Eos Morlais, Llew Llwyfo, &c.; ac, os nad ydym yn camgymeryd, yn y neuadd hon y cynhaliwyd y cyngherdd Cymreig mwyaf a gynhaliwyd yn Llundain erioed. Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia) ydoedd trefnydd y cyngherdd, ac yr oedd ganddo gor Cymreig ardderchog wedi ei barotoi, a llwyddodd y Pencerdd i gael gan Benedict" ddyfod i arwain yn y cyngherdd. Bu yr anturiaeth yn llwyddiant anarferol, a mawr fu'r siarad am y wledd gerddorol honno am wythnosau ar ol hynny. Nos Lun nesaf perfformir prif waith Dr. Elgar, The Apostles," yn y Queen's Hall, gan y London Choral Society. Y mae'r gwaith hwn wedi ennill poblogrwydd bydenwog i'r Dr., ac nid rhyfedd i bobl Birmingham wneyd cymaint yn ddiweddar er sicrhau y fath gerddor i lanw'r gadair gerddorol yno. Diau yr aiff amryw o'n cydwladwyr i glywed Yr Apostol- ion" nos Lun—gwaith ag sydd wedi cael ei berfformio a'i edmygu hyd yn oed yn yr Almaen. SOUSA eto gyda'i fand yn ein mysg Yr oeddynt yn Nghaerdydd ac Abertawe yr wyth- nos ddiweddaf; ond yfory (Sabboth), am dri o'r gloch yn y prydnawn, byddant yn yr Alhambra, dan nawdd y Sunday League. Y mae rhai pobl yn anghymeradwyo gwaith y Cynghrair Sabbothol. Nid ydym am ddweyd fod llawer o ddaioni yn deilliaw o gyrddau y Cynghrair, ond yn sicr nid oes drwg yn dod o honynt. Y maent yn foddion i gadw Ilawer allan o'r tafarndai.
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, Paddington- 11. o a 6.30, Eglwys St. Padarn, Hornsey Road— 11.0 a 6.30, Parch. W. Da vies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11 o a 630, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. J. E. Davies, M.A. 6.30, E. Evans, Gorwydd, Llangammarch Wells. Charing Cross Rd. 10.45, Parch. E. Evans, Gorwydd, Llangammarch Wells. 6.30, J. E. Davies, M.A. Wilton Square 10.30, Parch. G. H. Havard, M.A. 6.30, J. Wilson Roberts. Falmouth Road 10.45, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, D. Ceitho Davies. Mile End Road 11.0, Parch. D. Oliver. 6.30, Supply Willesden Green. Shirland Road 10.45, Parch. Rees Evans, Llanwrtyd. 6.30, Supply Lewisham. Holloway 10.30, Parch. R. O. Williams. 6.30, J. Tudno Williams,M.A. Hammersmith 11.0, Parch. F. Knoyle, B.A. 6.30, Mr. W. Prydderch Williams. Stratford 11.0, Parch. J. Wilson Roberts. 6.30, G. H. Harvard, M.A. Claoham Junction 11.0, Mr. W. Prydderch Williams. 6.30, F. Knoyle, B.A. Walham Green 11.0, Parch. J Tudno Williams, M A. 6.30, R. U. Williams. Willesden Green 11.0, 6.30, Parch. D. Oliver. Lewisham 11.0, 6.30, Parch. Rees Evans, Llanwrtyd. Tottenham 11.0, Parch. J. Garnon Owen. 6.30, LI. Edwards, M.A. Walthamstow 11.0, Parch. LI. Edwards, M.A. 6.30, J. Garnon Owen. Wood Green I i. o, Parch. D. Ceitho Davies. 6.30, S. E. Prytherch. -n' YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross- i i. o a 6.30, Parch. H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, Parch. E. Owen, B.A. 6.30, Parch. D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- n.o a 6.30, Parch. J. Machreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0, Parch. D. C. Jones. 6.30. E. Owen, B.A, East Ham, Sibley Grove- 11.0 a 6.30,, Mr. Caradog Jones. Woolwich, Parson's Hill- 11.0 a 6.30, Parch. Llewelyn Bowyer. Battersea Town Hall— 11.0 a 6.30, Parch. S. D. Williams, Llanhileth. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.0 a 6.30, Parch. J. Jenkins ("Gwili.") Little Alie Street, Aldgate- 11.0 a 6.3°, Parch, B. Arberth Evans. Tottenham—11.0a6.30, Parch. W. Rees. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sul. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Mr. E. Evans. 6.30, Parch. T. Jones. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.— 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. E. Evans. Poplar, Duff Street- 3.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. H. T. Barker. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan beliaf.
Y DYFODOL
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y DYFODOL LDymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon.] 1905. Chwf. 12. Cyfarfod Pregethu Stratford. 16. Annual Eisteddfod, Harecourt Chapel, Canonbury. 16. Eglwys St. Padarn, Holloway, Swper Goffi yn yr Emmanuel Mission Hall. 21. Little Alie Street. Cyfarfod Cystadleuol. 23. Eisteddfod Gadeiriol yn y Royal Albert Hall. 25. Cyngherdd Cenedlaethol yn Heol-y-Castell. 28. Gwasanaeth Cymraeg yn St. Paul. 28. Cymanfa Unedig yr Ymneillduwyr yn y City Temple. Mrth. 1. Ciniaw Cenedlaethol Cymreig yn yr Hotel Cecil. 9. Cyfarfod Cystadleuol Morley Hall, yn Jewin Newydd. 16. Cyfarfod Cystadleuol Wilton Square. 23. Cyngherdd Blynydclol Y sgol Camden Town. 23. Eisteddfod Eglwys St. Padarn, Hornsey Road, yn Myddelton Hall, Upper Street, N. 30. Eisteddfod Flynyddol Shirland Road. Ebrill 6. Cyngherdd a The Blynyddol Little Alie Street 6. Sibley Grove, East Ham. Cyfarfod Cystad- leuol. 13. Cymanfa Ganu y M.C. yn Tewin. 24. Eglwys St. Mary, Camberwell, Eisteddfod Fawreddog.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
THE SERGE OF MERIT. "Whose worth makes others' worth as nothing." Isaac Walton & Co/s INVINCIBLE Two x Year SERGE WILL STAND 2 years' LOUNGE SUIT HARD wear. Keep its 501C deep rich colour, and K TO ORDER look well all the time. or ready to wear. PATTERNS POST FREE. ISAAC WALTON & CO., LTD., High-class Tailors and Outfitters, 97-101, NEWINGTON CAUSEWAY, LONDON, S.E. Ask for our complete illustrated price list