Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Colofn y Gan.

Advertising

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

1858, wedi ei hadeiladu ar y gost o ^70,000. Cynhaliwyd y cyngherdd cyntaf er budd Yspytty Middlesex, pan yr oedd y Tywysog Consort yn bresenol. Yr unig un sy'n fyw heddyw o'r unawdwyr a gymerasant ran yn y cyngherdd cyntaf ydyw Mr. Santley. Cafodd y neuadd hon ei defnyddio amryw weithiau at achosion yn dwyn cysylltiad a'n cydgenedl. Cyngherddau mawr ydoedd y rhai Cymreig hynny ym mha rai y canwyd gan Madame Edith Wynne, Eos Morlais, Llew Llwyfo, &c.; ac, os nad ydym yn camgymeryd, yn y neuadd hon y cynhaliwyd y cyngherdd Cymreig mwyaf a gynhaliwyd yn Llundain erioed. Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia) ydoedd trefnydd y cyngherdd, ac yr oedd ganddo gor Cymreig ardderchog wedi ei barotoi, a llwyddodd y Pencerdd i gael gan Benedict" ddyfod i arwain yn y cyngherdd. Bu yr anturiaeth yn llwyddiant anarferol, a mawr fu'r siarad am y wledd gerddorol honno am wythnosau ar ol hynny. Nos Lun nesaf perfformir prif waith Dr. Elgar, The Apostles," yn y Queen's Hall, gan y London Choral Society. Y mae'r gwaith hwn wedi ennill poblogrwydd bydenwog i'r Dr., ac nid rhyfedd i bobl Birmingham wneyd cymaint yn ddiweddar er sicrhau y fath gerddor i lanw'r gadair gerddorol yno. Diau yr aiff amryw o'n cydwladwyr i glywed Yr Apostol- ion" nos Lun—gwaith ag sydd wedi cael ei berfformio a'i edmygu hyd yn oed yn yr Almaen. SOUSA eto gyda'i fand yn ein mysg Yr oeddynt yn Nghaerdydd ac Abertawe yr wyth- nos ddiweddaf; ond yfory (Sabboth), am dri o'r gloch yn y prydnawn, byddant yn yr Alhambra, dan nawdd y Sunday League. Y mae rhai pobl yn anghymeradwyo gwaith y Cynghrair Sabbothol. Nid ydym am ddweyd fod llawer o ddaioni yn deilliaw o gyrddau y Cynghrair, ond yn sicr nid oes drwg yn dod o honynt. Y maent yn foddion i gadw Ilawer allan o'r tafarndai.

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL

Advertising