Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Pobl a Phethau yn Nghymru.:
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pobl a Phethau yn Nghymru. TYBIAI Cymry Llundain eu bod yn cyflawn adnabod Syr T. Marchant Williams ers blyn- yddau. Gwyddent am dano fel ysgolor, gwleid- yddwr, Cymro, &c. Ond faint o honynt dyb- iodd, tybed, ei fod yn fardd? Dichon mai dadblygiad diweddar ar ol dychwelyd i awyr Cymru yw hynny. Sut bynnag, ymddangosodd y pennillion ystwyth canlynol o'i eiddo yn y Geninen ddiweddaf:— DOLWAR FECHAN. Mae llawer llan a llawer lie, Yng Nghymru fendigedig, A'u henwa' i lawr ar lyfrau'i Ne', Fel mannau cyssegredig. Hyfrydwaith engyl teg eu gwawr Yw troi y tudalennau, Yn ol a blaen, o glawr i glawr, A syllu ar yr enwau. Y Pantycelyn yno, 'n glir, A welant yn disgleirio,- Y Bala a Threfecca'n wir, Llanddowror a Llangeitho. Yng ngolwg holl angylion Duw, Yng ngolwg Duw Ei Hunan, O'r enwa' i gyd, 'r anwylaf yw Yr enw, Dolwar Fechan." Y daearyddwyr, bach a mawr, A haerant nad yw'r enw Yn ddigon gwych i'w roi i lawr, Ac nad yw'n haeddu sylw. Ni wyddent hwy mai enw yw Ar gastell gwychaf Cymru— Hen gartref un o filwyr Duw, A chartref can a gweddi. 0 Gymru dirion, mawr dy fraint, v. Hen wlad fy ngenedigaeth, A gwlad y beirdd, a gwlad y saint, A gwlad yr erledigaeth Dy glod a genir ar bob llaw,— Mae pawb yn moli'th fryniau Ond, cofier hyn, y dydd a ddaw, D'ogoniant fydd d'emynau. BARNA y rhan fwyaf mai methiant fu ymgais yr athrawon i gael cad-oediad ynglyn a'r cyffro addysgol. Ni awgrymir fod yr un o'r ddwyblaid yn gyfrifol mwy na'r Hall am y methiant hwn, yr oedd yr anhawsderau yn rhy fawr i fynd drostynt. Ni byddai yn syndod mawr pe rhoddid Deddf Gorthrech mewn ymarferiad yn fuan. Dywedodd un o'r arweinwyr gyda'r polisi cenedlaethol ei gred yr wythnos hon y gwneir hynny ar fyrder, ac mai Cynghor y Barry fydd yn y dock gyntaf. Nid yw y genedl yn ofni dim o ganlyniadau brwydr gyda'r awdurdodau yn Whitehall. Y MAE Llanfair-pwll-gwyngyll wedi rhoddi esiampl y dylai pob llan a phentrefyng Nghymru ei dilyn. Agorwyd yno yr wythnos ddiweddaf glwb at wasanaeth pobl ieuainc y lie, er mwyn ceisio eu cadw rhag mynychu y tafarndai. Cymerwyd ystorfa oedd yn wag, a throwyd hi yn ystafelloedd. Mae Mr. a Mrs. Read, Carreg Fran, wedi dodrefnu y lie, ac wedi ymrwymo i ddwyn holl draul y sefydliad am ddeuddeg mis. Caed hwyl hyfryd yno wrth agor y clwb. CAFODD Mabon groesaw brwd yng Nghwm Rhondda pan ddychwelodd yn ol o'i ymdaith hir yn yr Unol Daleithau, a rhoes yntau adroddiad doniol am y pethau a welodd ac a glywodd yng ngwlad y Gorllewin. Ymddengys fod yr ymweliad wedi peri iddo ef, fel llawer un arall, golli y syniad uchel a feddai yn flaenorol am uwchafiaeth y genedl sydd tu hwnt i'r dwr. Mae y ddiffyndollaeth sydd yno, meddai ef, yn difa bywyd goreu y wlad, ac yn peri i'r werin ruddfanu. Bydd Mabon yn sicr o fod yn allu cryf yn erbyn y polisi o Birmingham. CAFODD Seneddwr y Glowyr ymgom ddifyr a'r Arlywydd Roosevelt. Mi ddywedais wrtho," ebe ef, ei fod yn fardd yn ol y safon Gymreig." Beth yw y safon Gymreig, Mabon?" gofynai yr Arlywydd. "Rhaid i ddyn feddu llygad i weled, a chalon i deimlo, a rhaid iddo feddu tafod i fynegu." A ydych yn meddwl fy mod i yn dod i fynu a'r safon yna? gofynai yr Arlywydd drachefn. Ydwyf. Mi ddarllenais eich cenadwri, ac fe ddengys honno fod genych lygad i weled a chalon i deimlo, ac yr ydych wedi rhoddi mynegiad ardderchog i'r hyn a welwch ac a deimlwch. Yna," ebe ef, "cymerodd yr Arlywydd afael yn fy llaw, a dywedodd, 'Diolch i chwi, Mr. Abraham. Gwyr y nefoedd fy mod yn onest yn fy ymdrech i wella sefyllfa y bobl. YN y rhifyn diweddaf o'r Haul ceir tri phen- nill gan y bardd cadeiriol Berw, ficer y Waen- fawr. Fy Ngweddi Bersonol yw y penawd, ac mae'n amlwg mai at y diwygiad y cyfeirir. Dyma un o honynt:— 0 Arglwydd gaf fi ofyn, Fe] plentyn gan ei dad, 1 Un peth, tra'r wyt Ti'n talu Ymweliad a fy ngwlad?— Mae'r gwres yn codi'n uchel Drwy'r oil o Gymru wen 0 cadw lo'n y galon, A rhwystra fo i'r pen." YCHYDIG wythnosau yn ol dyfarnodd y llys fod rhyw sylwadau a wnaeth y Parch J. A. Rees, ciwrad y Fochriw, ynghylch rhai o glybiau politicaidd Morganwg yn enllib. Yr wythnos ddiweddaf cyhoeddwyd ef yn fethdalwr am na feddai ddigon i gyfarfod y gofyn. Mae dirwest- wyr y De yn cychwyn trysorfa i'w gynorthwyo. a dylai gael cefnogaeth gyffredinol. Nid oes amheuaeth nad oes llawer o glybiau ym Mor- ganwg yn haeddu eu condemnio, ac nid amheua neb onestrwydd amcan Mr. Rees. CYHOEDDODD y Western Mail am ddydd Mercher facsimile o rybudd yn galw aelodau Pwyllgor Cymmrodorion Caerdydd at eu gilydd, ac fel y gwelo ein darilenwyr pa mor glasurol yw iaith y Gymdeithas honno, neu eiddo ei hysgrifenydd beth bynnag, rhoddwn ef yma fel ei hysgrifenwyd :— "Anwlyl Gymrawd, Gynhelir Pwyllgor o Gynglhor y Cym- deithas uchod nos Fawrth nesaf C hwef 7 fed am 5.30 or gloch yn N ghapel Pembroke Terrace i ysty ried y priod oldeb o gynal Gwledd adeg Gwyi Dewi. D ym unir am eich Presenoldeb." Dylai Cochfarf neu Dafydd Morganwg roi chwarter o ysgol i'r ysgrifenydd hwn cyn y bydd eisieu anfon allan rybudd arall.
AMERICAN CONSULS FOR WALES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AMERICAN CONSULS FOR WALES. The following appeared in the Scranton Tribune for January 23rd Two West Scranton men are to be appointed to the American Consulships in Wales. There were two candidates for the post in Cardiff; which is the Metropolis of the Principality, and to which the greatest honour is attached. Mine Inspector Prytherch was the aspirant from Pennsylvania, and Edwin Griffiths, of Cleveland, was the choice of the Republicans from the Buckeye State. According to the traditions, the Cardiff Consulship has generally been given to Ohio, and it was presumed that this would be the case this year, and that Mr. Prytherch would, therefore, be appointed to Swansea, which is an adjoining town, but with a less population. It is now stated that the leaders have arrived at an agreement whereby Mr. Prytherch will be appointed to Cardiff, and Mr. Griffiths will go to Swansea, and that the arrangement is perfectably agreeable to both of the interested parties. It is interesting to note that Mr. Griffiths comes from West Scranton.' He is now a little over 30 years of age, and left Scranton about 10 years ago. At the time he left he was impressed with the superior advan- tages offered to a young man in the West, and left Scranton with a letter of recommendation from Judge Edwards to some friends in Cleve- land, and immediately secured a position with the Paragon Plaster Company, and afterwards went into the hardware business, in which he has been very successful. He was regarded as a young man of superior attainments while residing in this city, and his many friends here will rejoice to hear of his appointment.
Gohebiaethau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gohebiaethau. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr.] COFGOLOFN LLEWELYN. At Olygydd y LONDON WELSHMAN." ANWYL SYR,—Yr wyf yn hollol gytuno a'ch goheb- ydd Glyndwr ei bod yn warth i ni fel cenedl nad oes golofn o un math yn nodi y fan lie yr huna tywysog olaf Cymru." Yn sicr ddigon, felly y mae, ac yn wir mae bron yn anghredadwy meddwl sut y gallem, fel cenedl, gyda'n holl ymffrost o wladgarwch, orphwys yn dawel trwy yr oesau a'r gwarthrudd hwn yn gorwedd ar ein cymeriad. Mae yn wir i am. gynyg gael ei wneyd ar wahanol adegau i godi rhywbeth teilwng i goffadwriaeth y dewr ond anffodus Lewelyn, ond methiant a siomedigaeth ddybryd y troes pob ymgais allan hyd yn hyn. Tua'r flwyddyn 1859, os ydwyfyn cofio yn awr, cych- wynwyd symudiad i'r perwyl hwn gan Ab Ithel" ac ychydig wladgarwyr eraill, a chafodd yr ysgrifenydd y fraint o geisio hyrwyddo rhyw gymaint ar y symudiad trwy gyfrwng ei ysgrifell. Casglwyd rhyw gymaint o arian at y pwrpas a rhoddwyd hwynt yn Ariandy Aber- honddu, a dyna'r diweddaf a glywyd am danynt. Ychydig flynyddau yn ol gwnaed ymgais arall i'r un perwyl, a phenodwyd y Parch. J. Gwynoro Davies yn ysgrifenydd y symudiad. Cychwynwyd gyda rhagolygon disglaer dangoswyd llawer o frwdfrydedd, a llwydd- wyd i gael nifer dda o wyr dylanwadol a galluog yn bleidwyr ac yn noddwyr iddo. Cynhaliwyd amryw gyfarfodydd llwyddianus yn rhai o brif drefydd y Gog- ledd, a chredid yn ddiddadl y coronid y symudiad a Ilwyddiant diamheuol yn ddioed. Casglwyd swm lied dda o arian hefyd, ond cwbl annigonol at yr amcan o godi cofgolofn deilwng o'r genedl ac o'r gwron y dymunid ei anrhydeddu. Os nad wyf yn camgymeryd, defnydd- iwyd yr arian hynny i ffurfio ysgoloriaethau yn rhai o'r prifysgolion, a diau y bydd yn dda gan Mr. Gwynoro Davies roi goleuni pellach ar y mater hwn. Mae y symudiad hwn, fel llawer eraill ysywaeth sydd wedi bod o flaen y wlad, yn amlygiad digamsyniol o un o'n nodweddion ac o'n gwendidau fel cenedl, nid amgen brwdfrydedd a sel o'r fath fwyaf canmoladwy am dymhor, ond dim o'r penderfyniad a'r dyfalbarhad hwnnw sydd yn anhebgorol i'w ddwyn i derfyniad llwyddianus. Yr eiddoch, &c., Llanfairfechan. GLAN MENAI.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
THE COUNCIL IN THE MARCHES OF WALES. By C. A. J. Skeel, F.R.Hist.S. W PRICE 7s. 6d. -O-n_ PUBLISHED BY HUGH REES, LTD., Books ellel's, Stationers, and Publishers, 124, PALL MALL, S.W.