Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GVDA THLODION Y DWYREINBARTH.-N os Fawrth, Ionawr 3iain, yn Brunswick Chapel, Mile End Road, cynhaliwyd y 25am cyfarfod blynyddol mewn cysylltiad a'r Genhadaeth Ddwyreiniol Gymreig (maes llafur Mr. R. S. Williams, Brymbo gynt). Llywyddwyd gan Syr John Puleston, yr hwn sydd wedi gofalu am y cyfarfod o'r dechreu, ac wedi bod yn bresennol bob tro gyda'r eithriad o dro neu ddau. Cyn y cyfarfod yr oedd yr ystafell eang islaw y capel yn orlawn o frodyr a chwiorydd Cymreig yn mwynhau te rhagorol, rhoddedig, fel arfer, gan y Llywydd; a chwiorydd caredig perthynol i bob enwad yn gweinyddu gyda sirioldeb. Dechreu- wyd gweithrediadau y cyfarfod dilynol yn bryd- lawn am 7. Wedi canu ton gynulleidfaol, gweddiodd y Parch. Arberth Evans (B.), Little Alie Street. Yna esgynodd y Parch. Elfed Lewis, King's Cross, i'r pulpud, ac mewn modd effeithiol adroddodd hanes ei ymweliad a Chymru, a'r modd y mae y Diwygiad yn gweithio. Teimlem fod ysbryd y Diwygiad yn y cyfarfod, ac nid yn unig yr oeddys yn mwynhau geiriau a phresenoldeb y siaradwr, ond teimlid fod y Meistr yn siarad drwyddo, ac yr oedd y cymhell- ion i ildio i'r Gwaredwr a newydd-deb buchedd yn haeddu gwrandawiad ac ufudd-dod. Dilyn- wyd ef gan y Parch T. Stephens, B.A., Camber- well, yn Saesneg a Chymraeg, a phwy oedd yno all anghofio yr anerchiad, gwresogrwydd Cym- reig y siaradwr, a thaerineb a difrifoldeb ei eiriau. Teimlem fod yr Ysbryd yn cymeryd meddiant o'r cyfarfod. Dechreuai rhywun ganu, yna unai y gynulleidfa fawr, a theimlem ein bod megis yn nghanol y Diwygiad yng Nghymru. Cafwyd anerchiadau pellach gan y Parchn. J. E. Davies, Jewin Crowle Ellis, St. Benet's; W. Rees, Tottenham; a'r Llywydd. Da oedd genym glywed drwy Mr. Davies, Jewin, am yr ysbryd sydd wedi disgyn ar eglwysi y Brifddinas, am y dychweledigion o'r byd i'r eglwys, a'r arwyddion fod rhagor i ddod. Canwyd yn ystod y cyfarfod gan Mrs. Cordelia Edwards Rees Mrs. Lloyd Williams; Mrs. Davies, Falmouth Road; Miss Pierce, Mile End; Miss James, Mile End a Mr. Tim Evans, Jewin. Cyfeiliwyd gan Mrs. Nellie Jones, Barrett's Grove, a Miss Deborah Rees, R.A.M. Dylaswn fod wedi nodi fod gweinidog parchus y lie yn y cyfarfod, ac ni anghofir ei eiriau yn fuan. Yr oedd merch Syr John Puleston hefyd yn bresenol ar y llwyfan. Yn sicr, y mae gwaith mawr yn cael ei wneyd gan y cenhadon ffyddiawn o'r golwg nas gwyr yr eglwysi am dano, ac y mae cael cynnulliad blynyddol fel hyn drwy garedigrwydd un sydd yn caru ei genedl yn fanteisiol mewn llawer ystyr. Cynygiwyd y diolchiadau arferol gan y cenhadon, Mr. T. Jones a Mr. R. S. Williams, a therfynwyd y cyfarfod drwy i'r gynulleidfa gyd- adrodd Gweddi yr Arglwydd, dan arweiniad y Parch. W. Rees. Yr oedd Syr Thomas Lipton (drwy Syr John Puleston) wedi cofio am y gynulleidfa eleni eto gyda phecynau o de.— MAELOR. CLAPHAM JUNCTION.—Nos Fercher, Chwefror iaf, Etholiad Seneddol oedd ar raglen Cym- deithas Ddiwylliadol y lie uchod. Daeth nifer dda ynghyd, a chafwyd cyfarfod hwyliog. Yr ymgeiswyr dros Clapham Junction oeddynt: Mr. Isaac Jones (Ceidwadwr), Mr. R. L. Davies (Rhyddfrydwr), a Mr. D. Lewis Felix (Llafur). Wedi i'r tri ymgeisydd roddi eu daliadau o flaen yr etholwyr, cafw)d ychydig eiriau gan Mr.

Advertising

[No title]

-'.Adolygiad.

[No title]

BEDD IOAN EMLYN.

Advertising